Bywyd myfyrwyr ym Mangor
Rhagoriaeth academaidd mewn prifysgol cyfeillgar
Mae Bangor yn cael ei chydnabod fel lle cyfeillgar a chyfleus i fyw ac astudio, gyda nifer o’n myfyrwyr yn dewis dod yma oherwydd maint a natur y ddinas ei hun.
Bywyd Cymdeithasol
Mae bywyd cymdeithasol Cymraeg heb ei ail ym Mangor, ac Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) sy’n ganolbwynt i’r rhan helaeth o’r digwyddiadau a’r gweithgareddau Cymraeg a drefnir.
Mae eich cyfnod yn y brifysgol yn amser delfrydol i chi roi tro ar rywbeth newydd neu ymuno â phobl sy’n rhannu’r un diddordebau a hobiau â chi. Mae dros 150 o glybiau a chymdeithasau yma ym Mangor a chewch ymaelodi am ddim. Mae clybiau a chymdeithasau Prifysgol Bangor wedi eu henwi'r gorau ym Mhrydain yng ngwobrau WhatUni Student Choice 2019 ac yn 2020 daeth Bangor yn ail ym Mhrydain am Gymdeithasau a Chwaraeon.
Am fwy o wybodaeth am beth sydd ymlaen i fyfyrwyr, ewch i’r tudalennau bywyd cymdeithasol a chwaraeon.
Lleoliad anhygoel
Mae’r lleoliad a’r ardal gyfagos hefyd ymhlith y rhesymau pam mae myfyrwyr yn dewis dod i Fangor. Mae Parc Cenedlaethol Eryri a thraethau Ynys Mon yn cynnig digon o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored neu i fwynhau eich hunain yn ymlacio. Mae’r Brifysgol hefyd o fewn cyrraedd hawdd i Landudno, Caer, Lerpwl a Manceinion.
Cefnogaeth a chymorth i fyfyrwyr
Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Myfyrwyr yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr. Mae’r gwasanaethau ar gael yn amrywio o gyngor ar lles i gyngor ariannol, hwb gyda sgiliau astudio, dyslecsia a chynghori.
Mae hefyd tim Anabledd arbenigol sy’n cynnig arweiniad ar ystod eang o faterion anabledd.
Costau byw rhad
Mae byw ym Mangor yn cymharu’n rhad o gymharu â chostau byw mewn nifer o ddinasoedd a threfi prifysgol eraill ac mae gwahanol arolygon costau byw yn gyson yn barnu mai Bangor ydi un o’r llefydd mwyaf economaidd i astudio.
Cymorth ariannol
I’ch cefnogi chi yn ystod eich cyfnod ym Mangor, mae gan y Brifysgol amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael i fyfyrwyr israddedig. Ewch i’n gwefan Cyllid Myfyrwyr am fwy o wybodaeth.