Fy ngwlad:
A picture of the Main Arts building at Bangor University

Bangoriad Bach: Mawrth 2026

E-Newyddlen i gyn-fyfyrwyr

Os nad ydych yn derbyn ein e-newyddlen misol ond hoffech ei dderbyn drwy e-bost, cwblhewch ein ffurflen diweddaru i ni gael eich adio i'n rhestr bostio.

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu unrhyw beth yr hoffech ei weld yn y rhifynnau yn y dyfodol, cysylltwch a ni yn alumni@bangor.ac.uk

Mwy o newyddion o'r Brifysgol

Neges gan Bennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni

"Mae'r gwanwyn wedi cyrraedd gogledd Cymru ac mae'n hyfryd gweld y cennin pedr yn frith dros ein campws.

Yn ogystal â rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am eich Prifysgol, mae Bangoriad Bach yn dathlu llwyddiannau rhai o'n cyn-fyfyrwyr a'n myfyrwyr y mis hwn. Mae Long Vu, cyn-fyfyriwr o Ysgol Gwyddorau'r Eigion, wedi cael ei gydnabod gan Wobrau Cyn-fyfyrwyr Study UK y Cyngor Prydeinig am ei waith cadwraeth yn Fietnam, ac mae dau o'n myfyrwyr ôl-radd rhagorol wedi derbyn medalau gan Gwmni'r Brethynwyr. Llongyfarchiadau i bob un ohonynt!

Os oes gennych unrhyw ddiweddariadau yr hoffech eu rhannu gyda'r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni, neu os oes gennych unrhyw adborth ar Bangoriad Bach, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy alumni@bangor.ac.uk"

Dymuniadau gorau,

Emma Marshall

Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni

NEWYDDION O'R BRIFYSGOL

Dyfarnu medalau Cwmni'r Brethynwyr i fyfyrwyr

Un o gwmnïau lifrai hanesyddol dinas Llundain, mae Cwmni'r Brethynwyr wedi bod yn gysylltiedig â Phrifysgol Bangor ers dros gan mlynedd, i ddechrau trwy grantiau sylweddol tuag at adeiladu rhai o brif adeiladau'r brifysgol. Heddiw, yn ogystal ag ariannu nifer o ysgoloriaethau a phrojectau PhD o fewn y brifysgol, mae Cwmni’r Brethynwyr hefyd yn dyfarnu dwy fedal bob blwyddyn i fyfyrwyr ymchwil rhagorol.

Derbynyddion 2026 oed Rebecca Day o’r Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau, sydd yn gwneud ymchwil ar ddwyieithrwydd o fewn syndrom Rett, a Lorna McKellar o’r Ysgol Gwyddorau Eigion sydd eisoes wedi’i chydnabod yn rhyngwladol fel unigolyn sy’n arwain y wyddoniaeth o osod trothwyon o ran cyflwr amgylcheddol da. Dyfarnwyd medalau i Rebecca a Lorna gan y Meistr Frethynwr Patrick Beddows.

Darganfod mwy

Cyn-fyfyriwr yn ennill Gwobr Cyn-fyfyrwyr Study UK yn Fietnam

Llongyfarchiadau i gyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor Long Vu (MSc Bioleg Môr, 2017) ar ennill categori Gwyddoniaeth a Chynaliadwyedd Gwobrau Cyn-fyfyrwyr Study UK Fietnam 2026. Cafodd Long ei gydnabod am effaith gymdeithasol ei waith ym maes cadwraeth bioamrywiaeth ac wrth astudio rhywogaethau mewn perygl.

Bob blwyddyn, mae Gwobrau Cyn-fyfyrwyr Study UK yn cydnabod llwyddiannau eithriadol cyn-fyfyrwyr rhyngwladol y Deyrnas Unedig ledled y byd. Mae'r gwobrau’n anrhydeddu arweinwyr rhyngwladol a addysgwyd yn y Deyrnas Unedig ac a wnaeth gyfraniadau mawr i'w cymunedau, eu diwydiannau a'u gwledydd. Cyhoeddwyd Long Vu fel enillydd Fietnam mewn seremoni a gynhaliwyd yn Hanoi ar 28 Chwefror.

Llongyfarchiadau Long! Rydym wrth ein bodd bod dy gyflawniadau wedi eu cydnabod gan Wobrau Cyn-fyfyrwyr Study UK.

Darganfod mwy

Pontydd Barddoniaeth: Llenorion Gwadd yn helpu i ddathlu Pont y Borth

I ddathlu 200 mlynedd ers adeiladu Pont y Borth, cyflwynodd Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol (Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau) cyfres o ddigwyddiadau yng nghwmni llenorion gwadd i ddathlu barddoniaeth fel ffordd o bontio, gan gysylltu syniadau, lleoedd a phobl. Digwyddiadau cyhoeddus rhad ac am ddim oedd y rhain ac yn agored i bawb. Cânt eu cefnogi gan Lenyddiaeth Cymru a thrwy haelioni cyn-fyfyrwyr trwy Gronfa Bangor.

Roedd un o’r digwyddiadau yma wedi ei arwain gan Hanan Issa, artist Iraci-Gymreig, bardd, gwneuthurwr ffilmiau, sgriptwraig ac Bardd Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd. Mae’n ymhyfrydu yn nhraddodiad canu ar y gynghanedd yn Gymraeg a’i nod yw ehangu ymgysylltiad pobl â barddoniaeth. Mae ei gwaith yn ymdrin â themâu hunaniaeth, perthyn a natur. Dyfarnwyd gradd er anrhydedd i Hasan gan Brifysgol Bangor yn 2025 ac roedd yn bleser ei chroesawu yn ôl fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Pont y Borth.

Myfyrwyr y Gyfraith yn ennill profiad cenedlaethol gyda chefnogaeth Cronfa Bangor

Gyda diolch i haelioni ein cyn-fyfyrwyr trwy’r Gronfa Bangor, cafodd myfyrwyr y gyfraith ym Mhrifysgol Bangor gyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau cyfreithiol cenedlaethol mawreddog - profiadau sydd eisoes wedi dechrau llunio eu gyrfaoedd yn y dyfodol. 

Cymerodd tîm o fyfyrwyr ran yn y Gystadleuaeth Cyfweld Cleientiaid cenedlaethol, gan ymuno â 35 o dimau o brifysgolion ledled y Deyrnas Unedig. Roedd yn brofiad amhrisiadwy - cafodd myfyrwyr fewnwelediad i'r sgiliau rhyngbersonol a dadansoddol sydd eu hangen ar gyfreithwyr, a dathlwyd eu cyfranogiad yn falch gan eu hysgol am eu proffesiynoldeb a'u huchelgais. Fe wnaeth Cronfa Bangor hefyd alluogi myfyrwyr i gymryd rhan mewn dwy gystadleuaeth ffug lys barn, y ddwy wedi eu cynllunio i ddatblygu'r sgiliau eiriolaeth a rhesymu y mae’n hanfodol i fargyfreithwyr uchelgeisiol feddu arnynt.


Darganfod mwy

Cyngerdd Dathlu Pen-blwydd 200 Pont y Borth

Ar ddydd Sadwrn 7fed Mawrth ymunodd Cerddorfa Symffoni a chôr y Brifysgol â Chantorion Menai, côr pedwar llais SATB gydag oddeutu 70 o aelodau sy’n cyfarfod ar Ynys Môn. i berfformio cyngerdd yn dathlu pen-blwydd 200 Bont Y Borth.

Wedi'i gynnal yn Neuadd Prichard Jones ym Mhrif Adeilad y Brifysgol, mwynhau'r gynulleidfa darnau gan Mendelssohn (a ddaeth i wneud braslun o'r Bont yn 1829), Vaughan Williams a William Mathias, a oedd ei hun yn byw ym Mhorthaethwy. Cefnogwyd y cyngerdd gan rodd hael gan Nicholas Snowman (1944-2023) a oedd yn Gadeirydd Wartski ac yn Gymrawd Er Anrhydedd y Brifysgol.

Roedd yn achlysur arbennig iawn ac yn ffordd wych o nodi pen-blwydd 200  cyflawniad peirianyddol rhyfeddol Thomas Telford sydd yn parhau i fod mor hanfodol i'n bywydau heddiw.

Ysgrifennydd y Cabinet yn ymweld â'r Brifysgol i drafod cyfleoedd rhanbarthol

Ymwelodd Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, a Jack Sargeant AS, Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, â'r Brifysgol yn ddiweddar i gwrdd ag uwch arweinwyr a chydweithwyr o'r Sefydliad Dyfodol Niwclear. Roedd yn gyfle i drafod y nifer gynyddol o fentrau economaidd sy'n datblygu ledled Gogledd Cymru a sut y gall y Brifysgol chwarae rhan flaenllaw wrth eu cefnogi.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r rhanbarth wedi gweld momentwm cynyddol o amgylch cynlluniau mawr a gefnogir gan y llywodraeth, gan gynnwys Porthladd Rhydd Caergybi a Pharth Twf Deallusrwydd Artiffisial Gogledd Cymru. Ynghyd â chyhoeddiadau am yr adweithyddion niwclear modiwlar bychain newydd (y cyntaf o'u math), maent yn gyfle sylweddol i economi Gogledd Cymru. Nod y cyfleoedd hyn yw ysgogi datblygiad economaidd hirdymor drwy greu swyddi, buddsoddiad preifat a gwelliannau mewn cynhyrchiant rhanbarthol.

Darganfod mwy

Anrhydedd mawreddog i Gyfarwyddwr Ymchwil Prifysgol Bangor

Mae’r Athro Michael Butler, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Rhanbarth ym Mhrifysgol Bangor, wedi derbyn anrhydedd mawreddog i gydnabod ei gyfraniad at wyddorau cymdeithasol. Mae’r academydd blaenllaw wedi’i ethol yn Gymrawd o’r Academi Gwyddorau Cymdeithasol (FAcSS) fel rhan o garfan tymor y gwanwyn 2026.

Mae’r penderfyniad i ethol yr Athro Michael Butler i fod yn Gymrawd yn adlewyrchu ei gyfraniad sylweddol at ymchwil ac arweinyddiaeth yn y maes, yn enwedig drwy ei waith yn archwilio newid gwleidyddol a chymdeithasol, llywodraethu rhanbarthol a pholisi cyhoeddus. Fel Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Rhanbarth ym Mhrifysgol Bangor, mae wedi chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu ymchwil sy’n cysylltu’r agwedd academaidd â llunio polisi ac ymgysylltu â chymunedau.

Darganfod mwy

Prifysgol Bangor yn gyntaf yn nhabl cynghrair Prifysgolion Amgen

Mae Prifysgol Bangor wedi cadw ei safle yn rif un yn y DU, yn Nhabl Cynghrair Prifysgolion Amgen a gyhoeddwyd gan Unifresher.

Eleni, roedd Bangor yn sefyll allan am ei chydbwysedd cryf rhwng fforddiadwyedd a phrofiad myfyrwyr, gyda chostau byw cymharol isel ynghyd â sgôr uchel ar gyfer bywyd cymdeithasol a chynaliadwyedd hefyd. Gosodwyd y Brifysgol ar y brig hefyd am fod yn lle cymharol rad a diogel i astudio, yn ôl y canllaw amgen. Roedd yr elfen olaf yn ychwanegu gwybodaeth o ffynonellau sy’n dangos barn y myfyrwyr eu hunain am fywyd cymdeithasol.

Darganfod mwy

Ymchwilydd yn rownd derfynol Gwobrau Blavatnik i Wyddonwyr Ifanc

Mae Dr Iestyn Woolway, sy’n Gymrawd Ymchwil Annibynnol NERC (Darllenydd) yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, yn un o naw ymgeisydd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Blavatnik i Wyddonwyr Ifanc yn y Deyrnas Unedig 2026 a'r cyntaf o Gymru a Phrifysgol Bangor i gael ei ddewis ar gyfer y gwobrau o fri hyn.

Dewiswyd Dr Iestyn Woolway gan reithgor annibynnol o wyddonwyr arbenigol a ddewiswyd o blith 91 o enwebeion sy'n cynrychioli 46 o sefydliadau academaidd ac ymchwil ledled y Deyrnas Unedig i gydnabod ei ymchwil i effeithiau newid hinsawdd ar lynnoedd ac ecosystemau dŵr croyw byd-eang. 

Darganfod mwy

Cymeradwyaeth i gyflwyno cymhwyster arbenigol newydd ledled Cymru mewn nyrsio cymunedol 

Mae’r Ysgol Gwyddorau Iechyd wedi cael cymeradwyaeth ffurfiol gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) i gyflwyno Cymhwyster Ymarfer Arbenigol (SPQ) ledled Cymru mewn Nyrsio Meddygaeth Teulu, Nyrsio Iechyd Meddwl Cymunedol a Nyrsio Anableddau Dysgu Cymunedol.  Mae'r cymhwyster ôl-radd hwn hefyd yn cyd-fynd â newidiadau ehangach i’r ddarpariaeth addysg iechyd yng Nghymru, er mwyn gwneud yn siŵr fod pobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru’n gallu cael mynediad at addysg o ansawdd uchel i’w galluogi i ddarparu gofal yn nes at adref.

Darganfod mwy

O Ynys Môn i’r byd: Greg yn gyrru tuag at lwyddiant rhyngwladol

Mae entrepreneur o Landdaniel, Ynys Môn wedi derbyn cymorth i ddatblygu ei fusnes ym myd ffotograffiaeth chwaraeon moduro, gyda chefnogaeth Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesi gan Brifysgol Bangor.

Dywed Greg Childs, sylfaenydd cwmni ffotograffiaeth Trackside Focus®, fod cydweithio ag Ysgol Fusnes Albert Gubay ym Mhrifysgol Bangor, wedi rhoi dealltwriaeth gliriach o bwy yw cwsmeriaid ei gwmni, sut maen nhw'n dod o hyd i'w fusnes, sut maen nhw’n rhyngweithio ag o, a beth sy'n eu cymell i archebu gweithdai gyda’i fusnes ffotograffiaeth.

Darganfod mwy

DIGWYDDIADAU I DDOD: FE'CH GWAHODDIR

Darlith Alumni Nodedig: Dr Rebecca Heaton

Dydd Mercher, 18 Mawrth 2026, 6:00 - 7:00pm

Darlithfa Eric Sunderland, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor

Ymunwch a ni yma ym Mhrifysgol Bangor ar 18 Mawrth am 6pm am ddarlith gyhoeddus gan un o’n alumna nodedig Dr Rebecca Heaton DSc. LLD. FICFor.
Cyn-fyfyriwr Coedwigaeth (1993) a Chymrawd er Anrhydedd Prifysgol Bangor, mae Dr Rebecca Heaton yn arbenigwr blaenllaw mewn newid hinsawdd a chynaliadwyedd a chyfraniad defnydd tir at ddyfodol carbon isel. Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae hi wedi gweithio mewn uwch swyddi mewn diwydiant, ym maes ymchwil ac yng nghyrff cynghori'r llywodraeth, gan gynnwys gwasanaethu ar bwyllgor y Deyrnas Unedig ar newid hinsawdd.
 
Yn y ddarlith “Will business solve the environmental crisis for us?” bydd Rebecca yn trafod yr argyfwng amgylcheddol ac os allwn ddibynnu ar fyd busnes i ddatrys yr argyfwng hinsawdd a natur ar ein rhan. Bydd hi hefyd yn myfyrio ar sut mae cynaliadwyedd ym myd busnes wedi datblygu, a'r rhan y mae busnes wedi ei chwarae a'r rhan y gallai ei chwarae yn y dyfodol.
 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i gofrestru.

Hunanofal Ystyriol yn y Gwaith: Rhaglen ar-lein 6 wythnos

Ydych chi’n gweithio mewn rôl sy’n llawn pwysau neu’n drwm arnoch yn emosiynol? Neu a ydych chi’n athro ymwybyddiaeth ofalgar sydd â diddordeb mewn profi sut y gellir cynnig ymwybyddiaeth ofalgar mewn gweithleoedd â lefelau uchel o straen? Ymunwch â’n rhaglen Hunanofal Ystyriol yn y Gwaith i ddysgu dulliau ymarferol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer rheoli straen, cryfhau gwydnwch, a chynnal lles yn y gwaith ac adref.

Mae’r rhaglen yma, sydd ar-lein dros gyfnod o chwe wythnos yn dechrau ar 16 Ebrill (Dydd Iau, 4:45pm – 6:00pm). Byddwch yn archwilio technegau ymwybyddiaeth a thosturi i wella ffocws, sefydlogrwydd emosiynol, ac ailgysylltu â’r hyn sy’n fwyaf pwysig yn eich gwaith.

Gallwch ddarganfod mwy a chofrestru fan hyn