Fy ngwlad:
Wythnos Groeso Hero

Gwybodaeth i Rieni a Gwarcheidwaid

Ar y dudalen hon:

Gweld ein holl gyrsiau yn ein Prosbectws Poced

Archebu Prosbectws Poced

 

Ymweld â’r campws a dysgu am ein cyrsiau yn ystod Diwrnod Agored

ARCHEBWCH EICH LLE

 

Beth Nesaf?

Gyda chymaint i gadw golwg arno yn ystod proses ymgeisio eich plentyn/gward, gall pethau fynd yn gymhleth yn gyflym. Dyma rai dyddiadau pwysig sydd ar ddod i'ch helpu i gadw ar ben popeth.

Cychwyn yn 2025

Mae UCAS Extra yn caniatáu i fyfyrwyr wneud cais tan 30 Mehefin 2025. Gallai hyn fod oherwydd iddynt ruthro i wneud penderfyniad, nad oes ganddynt unrhyw gynigion neu na wnaethant ddefnyddio eu holl ddewisiadau yn y cais cychwynnol.

Unwaith y bydd myfyriwr yn derbyn ei gynnig, bydd yn awyddus i ddysgu mwy - am ei gwrs, ei gyd-fyfyrwyr a gyda phwy y bydd yn byw. Bydd Cyswllt Campws yn ei helpu i wneud hynny. Bydd yn cael e-bost gyda dolen ymuno.

Mae Prifysgol Bangor yn cynnal sawl diwrnod i ymgeiswyr trwy gydol y flwyddyn. Mae hwn yn gyfle gwych i chi a’ch plentyn/gward ddarganfod mwy am Brifysgol Bangor ac ymgolli yn y profiad.

Mae’r drefn clirio ym Mhrifysgol Bangor yn dechrau ar 5 Gorffennaf 2025 ac mae’n rhoi cyfle i fyfyrwyr sydd ddim wedi derbyn cynnig, gwneud cais hwyr neu yn newid eu meddwl i sicrhau lle ar gwrs israddedig sy’n dechrau ym mis Medi.

Cychwyn yn 2026

Os ydy eich person ifanc yn dangos diddordeb mewn astudio ym mhrifysgol Bangor yn 2026, yna mae archebu prosbectws poced yn le da iawn i gychwyn. Allwch weld y prosbectws poced ar lein neu gall cael ei ddanfon i'ch cartref.

Prospectws Poced 2026

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio cwrs israddedig, cewch flas go iawn ar fywyd prifysgol trwy ddod i Ddiwrnod Agored. Rydym yn gobeithio byddwch yn gallu ymweld â ni yn un o'n pump Diwrnod Agored drwy'r flwyddyn.

Archebwch eich lle

I wneud cais am le mewn prifysgol mae'n rhaid i chi wneud cais trwy UCAS a fydd wedyn yn cael ei drosglwyddo i'r prifysgolion a restrwyd.

Gallwch wneud cais am hyd at bum cwrs ond cofiwch y bydd yr un ffurflen gais yn mynd i'r 5 dewis. Côd UCAS Prifysgol Bangor yw B06.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau meddygaeth yw 15 Hydref 2025.

Ar gyfer mynediad 2026, dyddiad cau cychwynnol UCAS yw 14 Ionawr 2026, fodd bynnag rydym yn croesawu ceisiadau ar ôl y dyddiad hwn. Bydd ceisiadau a dderbynnir hyd at 30 Mehefin yn parhau i gael eu hanfon ymlaen at brifysgolion gan UCAS a byddant yn cael eu hystyried pan fydd lleoedd ar gael o hyd.

Mwy o wybodaeth

5 Rheswm i Ddewis Prifysgol Bangor

Rydym yn ymfalchïo yn rhagoriaeth ein dysgu, sy'n ein gosod ymhlith y prifysgolion gorau yn y Deyrnas Unedig am brofiad dysgu.

Mae Prifysgol Bangor yn cynnig llawer o gyfleoedd trwy brofiad gwaith a lleoliadau ac mae gradd o Fangor yn rhoi myfyrwyr ar y llwybr i yrfa o’u dewis.

Pan fyddwn yn gofyn i’n myfyrwyr pam y bu iddynt ddewis dod i Fangor, mae un ateb yn dod i’r amlwg dro ar ôl tro: y lleoliad. Mae’r brifysgol yn un o rannau prydferthaf y Deyrnas Unedig, mae Bangor yn cynnig golygfeydd godidog sy’n gefndir unigryw i fywyd prifysgol. Gyda chysylltiadau trên ardderchog, mae'n hawdd teithio yn ôl ac ymlaen i'r brifysgol, ac eto yn yr ardal amgylchynol mae dengarwch Bangor. Mae’r tirweddau trawiadol sy’n swatio rhwng y mynyddoedd a’r môr yn cynnig anturiaethau diddiwedd, o heicio a phadlfyrddio i fwynhau’r golygfeydd.

Fel dinas fach, mae yna ymdeimlad go iawn o gymuned ym Mangor. Mae myfyrwyr yn gwneud ffrindiau agos yn gyflym ac yn adeiladu cysylltiadau cryf, gan ei wneud yn amgylchedd hynod groesawgar a chefnogol.

O’r eiliad y bydd eich person ifanc yn cyrraedd, bydd gennym nhw gefnogaeth i’w helpu i ymgartrefu a delio ag unrhyw heriau, diolch i’n tîm o fentoriaid myfyrwyr ac uwch wardeiniaid. Er mwyn sicrhau eu bod yn teimlo'n ddiogel, mae ein neuaddau'n cael eu monitro gan staff diogelwch 24/7, sy’n rhoi tawelwch meddwl ychwanegol. Byddynt hefyd yn rhan o gymuned fywiog, gyda digwyddiadau a gweithgareddau difyr wedi eu trefnu gan y tîm Campws Byw, fydd yn ei gwneud hi'n hawdd gwneud ffrindiau o'r diwrnod cyntaf.

Mae bywyd myfyrwyr ym Mangor yn amrywiol ac yn fywiog, gyda rhywbeth at ddant pawb. Mae lleoliad Bangor yn caniatáu iddynt gamu’n syth i fyd natur, gyda llawer o'n clybiau a chymdeithasau yn gwneud yn fawr o'r amgylchedd trawiadol i weithgareddau awyr agored ac anturiaethau.

Mae bywyd nos ym Mangor yn brysur, mae’r gymuned glos yn golygu bod noson allan yn groesawgar ac yn gofiadwy - p'un a ydych yn mwynhau noson meic agored, tafarn glyd neu ddawnsio trwy’r nos gyda’ch ffrindiau.

I'r rhai sy'n chwilio am fywyd cymdeithasol tawelach, mae Bangor yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau, gan gynnwys digwyddiadau cymdeithasol di-alcohol ac mae llawer o gymdeithasau yn darparu ar gyfer myfyrwyr sy'n chwilio am noson dawel.

Gall unrhyw fyfyriwr fanteisio ar ein hamrywiaeth eithriadol o gyfleoedd.

Rydym yn ymdrechu i chwalu rhwystrau fel y gall pob myfyriwr fod yn driw iddynt eu hunain.

Beth bynnag eu taith, bydd myfyrwyr yn dod o hyd i gymuned groesawgar a chefnogol ym Mhrifysgol Bangor.

Dyddiadau Cau UCAS

Y dyddiad cau i wneud cais i’r cwrs meddyginiaeth (mynediad 2025) yw 15 Hydref 2024, felly mae ceisiadau am fynediad yn 2025 bellach wedi cau. Bydd myfyrwyr yn gallu gwneud cais am fynediad yn 2026 ym mis Hydref 2025. Rhaid i bob myfyriwr sy'n gwneud cais i’r cwrs meddygaeth sicrhau ei fod wedi sefyll yr arholiad UCAT cyn gwneud cais.

Rydym yn cynghori bod eich plentyn/gward yn gwneud cais cyn gynted â phosib gan y byddwn yn dechrau ystyried ceisiadau a gwneud cynigion yn syth. Dyddiad cau cychwynnol UCAS am fynediad yn 2025 yw 29 Ionawr 2025. Fodd bynnag, rydym yn croesawu ceisiadau ar ôl y dyddiad hwn. Bydd UCAS yn dal i anfon ceisiadau a dderbynnir rhwng 29 Ionawr a 30 Mehefin ymlaen at brifysgolion a byddant yn cael eu hystyried os bydd lleoedd yn dal ar gael.

Bydd rhai myfyrwyr yn gwneud cais drwy'r system Glirio gan eu bod heb dderbyn y graddau oeddynt yn ei ddisgwyl neu gan eu bod wedi newid ei meddwl. Bydd eraill yn dewis i wneud cais yn uniongyrchol drwy'r system Glirio am amryw o resymau megis nad oeddent yn meddwl eu bod am fynd i'r brifysgol. Bydd ceisiadau trwy'r system glirio yn agor ar 5 Gorffennaf 2025 ar gyfer mynediad ym mis Medi 2025.

Gall eich person ifanc ddechrau ymchwilio prifysgolion sy'n cynnig llefydd drwy'r system Glirio rwan i sicrhau bod ganddynt yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt os byddant yn gweld eu hunain yn y system Glirio ar ddiwrnod canlyniadau.

Sylwer na fydd pob cwrs ar gael trwy'r system glirio.

Gall ymgeiswyr ddechrau gwneud cais am fynediad yn 2026 ym mis Hydref 2025, ac yn y cyfamser, rydym yn eu cynghori i ofyn am brosbectws, cofrestru ar ein rhestr bostio a dod i ddiwrnod agored.

Ffioedd a Chyllid

Grŵp o fyfyrwyr yn cerdded y tu allan ym mhentref y Santes Fair

Dewisiadau Llety Llety

Mae dewis ble i fyw yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol yn benderfyniad pwysig a all newid profiad eich plentyn/gward. Sgroliwch trwy ein gwahanol ddewisiadau i weld beth sydd ar gael i'n myfyrwyr.

Grŵp o fyfyrwyr yn cerdded tu allan ym mheftref Ffriddoedd

Dewisiadau Llety Byw mewn Neuadd

Mae gan Brifysgol Bangor ddau bentref myfyrwyr gwahanol, pob un â'i awyrgylch a'i gyfleusterau unigryw ei hun i gyd-fynd â gwahanol ddewisiadau. Mae’r ddau bentref yn cynnig lle byw cyfforddus a chyfleus, gan helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser ym Mhrifysgol Bangor. Ceir neuaddau sydd wedi eu neilltuo'n arbennig i’r rhai sy'n dymuno byw mewn neuaddau tawel, neuaddau di-alcohol a neuaddau i ferched yn unig. Mae ystafelloedd hygyrch ar gael hefyd.

Myfyriwr yn gweithio wrth ddesg mewn ystafell ym mhentref Ffriddoedd

Dewisiadau Llety Pentref Ffriddoedd

Mae Pentref Ffriddoedd ym Mangor Uchaf a dyma’r mwyaf a'r mwyaf bywiog o'r ddau bentref myfyrwyr. Yn adnabyddus am ei gymuned fywiog o fyfyrwyr, mae'n cynnig amrywiaeth eang o adnoddau ar y safle, gan gynnwys siop, bar, siop goffi, cyfleusterau golchi dillad ac ystafelloedd cyffredin yn ogystal â champfa o'r radd flaenaf. Mae agosrwydd y pentref at brif adeiladau'r brifysgol a chyfleusterau lleol yn ei wneud yn ddewis poblogaidd i fyfyrwyr sy'n chwilio am amgylchedd cymdeithasol.

Dau fyfyriwr yn eistedd ar y gwely yn edrych ar ffôn symudol mewn ystafell yn neuaddau'r Santes Fair.

Dewisiadau Llety Pentref y Santes Fair

Mae Pentref y Santes Fair yn ddatblygiad mwy diweddar sydd ar ochr arall y ddinas, ac mae’n cynnig llety modern mewn lleoliad tawelach. Er ei fod yn llai na Phentref Ffriddoedd, mae gan Bentref y Santes Fair ddigonedd o adnoddau, gan gynnwys siop, siop goffi, ystafell gyffredin ar gyfer cymdeithasu ac ystafell ffitrwydd. Mae ei safle uwch hefyd yn cynnig golygfeydd hyfryd dros y ddinas, gan ei wneud yn ddewis apelgar i fyfyrwyr sy'n chwilio am amgylchedd mwy hamddenol, sy'n canolbwyntio ar y gymuned ac yn cynnwys popeth sydd ei angen arnynt ar garreg eu drws.

Tri Myfyrwyr yn cerdded ar Stryd Fawr Bangor

Dewisiadau Llety Byw Gartref

Gall myfyrwyr sy'n byw gartref barhau i fwynhau profiad gwerth chweil yn y brifysgol tra'n elwa ar gysur a chefnogaeth y teulu. Dyma rai o’r fydd mae'r Brifysgol yn sicrhau eu bod yn cael amser gwobrwyol:

  • Mae'r brifysgol yn darparu mannau astudio, ystafelloedd cyfrifiaduron, a llyfrgelloedd ar draws y campws, yn caniatáu i fyfyrwyr weithio'n effeithlon rhwng darlithoedd.
  • Mae Y Lolfa yn ystafell gyffredin i fyfyrwyr, yn cynnig lle i weithio, ymlacio, a chwarae gemau. Mae'n cynnwys tegelli a microdonau, gan sicrhau y gall myfyrwyr fwynhau rhai cysuron cartref tra ar y campws.
  • Mae gan Fangor gysylltiad da â phentrefi, trefi a dinasoedd lleol a chenedlaethol trwy ei chysylltiadau bws a thrên. Mae'r prif orsafoedd bysiau a threnau wedi'u lleoli'n gyfleus yn nghanol y campws, yn gwneud cymudo'n hawdd i fyfyrwyr sy'n byw gartref.
Neuadd Breswyl ym Mhentref Ffriddoedd

Dewisiadau Llety Dewisiadau Llety yn yr Ail Flwyddyn

Tra bod llawer o fyfyrwyr yn dewis rhentu tŷ preifat yn yr ail flwyddyn, mae Prifysgol Bangor hefyd yn cynnig lle mewn neuaddau preswyl i fyfyrwyr sy'n dychwelyd. Dyma’r prif fanteision:

  • Biliau i gyd wedi eu cynnwys: Osgoi costau annisgwyl - dŵr a thrydan yn gynwysedig.
  • Cynnal a Chadw a Chefnogaeth: Gwaith trwsio ac argyfyngau yn cael eu datrys yn gyflym gan dîm y brifysgol.
  • Cysylltiad Cymunedol: Cadw mewn cysylltiad â bywyd y campws, gwneud ffrindiau a mwynhau digwyddiadau'r brifysgol.
  • Llesiant a Diogelwch: Mwynhau diogelwch a gofal bugeiliol 24 awr, mynediad gyda cherdyn allwedd a staff cefnogi.
Tu allan i Neuadd Snowdon Wrecsam

Dewisiadau Llety Wrecsam

Gall darpar fyfyrwyr Radiograffeg wneud cais i fyw yn Neuadd yr Wyddfa, Wrecsam.

Yn anffodus, oherwydd y nifer cyfyngedig o ystafelloedd, ni allwn roi sicrwydd o le yn y neuadd ar ein campws yn Wrecsam.

Mae Wrecsam yn ddewis delfrydol i fyfyrwyr sy'n dymuno profi'r gorau o fywyd modern mewn tref groesawgar, gyda sawl parc, oriel ac amgueddfa.

Chwilio am Waith

Bydd llawer o fyfyrwyr eisiau ychwanegu at eu benthyciadau myfyrwyr i fyw'n fwy cyfforddus, ac mae'n ddealladwy nad yw rhieni bob amser yn gallu darparu cymorth ariannol ychwanegol. Mae myfyrwyr yn aml yn dod o hyd i waith tra maent yn astudio yn y brifysgol a dyma awgrymiadau gwych ar sut i ddod o hyd i waith tra’n astudio yn y brifysgol.

  • Dod o hyd i waith rhan-amser mewn siopau a chaffis lleol.
  • Os yw eich plentyn/gward yn ddigon ffodus o fod wedi cael swydd gyda chadwyn adref, efallai y gall drosglwyddo i gangen ym Mangor.
  • Mae cyfleoedd gwaith yn y brifysgol, megis mannau arlwyo a'r Cynllun Llysgenhadon Myfyrwyr.

Yn Ystod y Tymor

Cefnogi Eich Plentyn/Gward ym Mhrifysgol Bangor

Ym Mhrifysgol Bangor, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob myfyriwr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i ffynnu yn academaidd, yn gymdeithasol ac yn emosiynol. Rydym yn deall bod bywyd prifysgol yn gyfnod pontio cyffrous ond yn aml yn heriol, ac y gallai fod angen help ar eich plentyn/gward i addasu i brofiadau newydd. Dyna pam yr ydym yn cynnig ystod gynhwysfawr o wasanaethau cefnogi sydd wedi eu cynllunio i gynorthwyo myfyrwyr ym mhob agwedd ar eu cyfnod yn y brifysgol - o gefnogaeth gyda llesiant ac iechyd meddwl i arweiniad academaidd a datblygu gyrfa. Ein nod yw helpu eich plentyn/gward i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser ym Mangor, a theimlo bod ganddynt gefnogaeth a theimlo'n hyderus ac yn ddiogel.

Cyfleoedd Byd-eang ym Mhrifysgol Bangor

Ym Mhrifysgol Bangor, rydym yn cynnig cyfle oes i'ch plentyn/gward trwy ein rhaglenni astudio a gweithio dramor. Mae llawer o'n cyrsiau gradd yn cynnig yr hyblygrwydd i gynnwys blwyddyn dramor neu flwyddyn ar leoliad, ac mae hyn yn galluogi myfyrwyr i ymgolli mewn diwylliant arall a gwella eu profiad academaidd. Nid oes rhaid iddynt wneud y penderfyniad hwn cyn gwneud cais - gallant ystyried y cyfleoedd hyn ar ôl iddynt ddechrau eu cwrs.

Undeb y Myfyrwyr

Mae Undeb y Myfyrwyr yn rhan hanfodol o fywyd myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor, yn gweithredu fel llais y corff myfyrwyr ac yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau a chefnogaeth. Mae Undeb y Myfyrwyr, a adwaenir fel Undeb Bangor, yn agored i holl fyfyrwyr Bangor. Arweinir yr undeb gan gynrychiolwyr myfyrwyr etholedig sy'n gweithio i wella profiad cyffredinol myfyrwyr.

Mae tîm o Swyddogion Sabothol etholedig yn sicrhau bod lleisiau myfyrwyr yn cael eu clywed a bod gweithgareddau a mentrau'n cael eu datblygu i  ymateb i anghenion myfyrwyr. Cânt eu cefnogi gan staff proffesiynol sy'n eu cynorthwyo i redeg ymgyrchoedd, gweithredu polisïau a chydweithio â'r brifysgol i wella profiad myfyrwyr. Mae Undeb y Myfyrwyr yn rheoli amrywiol agweddau ar fywyd myfyrwyr, gan gynnwys clybiau chwaraeon, cymdeithasau, projectau gwirfoddoli, a chynrychiolaeth myfyrwyr trwy gynrychiolwyr cwrs a rhwydweithiau myfyrwyr. Mae hefyd yn rhedeg UMCB, yr undeb Gymraeg, sy'n hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Trwy'r cyfleoedd hyn, gall myfyrwyr ddarganfod diddordebau newydd, cwrdd ag unigolion o'r un anian, gwella eu cyflogadwyedd a chael effaith gadarnhaol ar y gymuned. Os bydd eich plentyn yn teimlo bod rhaid i rywbeth newid neu os oes ganddo/ganddi syniadau i wella ei amser ym Mangor, mae Undeb y Myfyrwyr yno i wrando a darparu cefnogaeth.

A Bangor University Basketball player holding a basket ball
Fideo: Clubs and Societies

Cwestiynau Cyffredin

Yma ceir atebion i gwestiynau cyffredin. Like other popular internet forums, we use the shorthand 'YP' to refer to a young person.

Cewch eich person ifanc ddewis pa feddygfa i gofrestru â hi ac wrth gwrs, os maent eisoes yn byw yn yr ardal, fe all eich person ifanc ddewis aros gyda'u meddygfa bresennol. Rydym yn argymell eu bod yn cofrestru gyda meddyg cyn gynted â phosib ar ôl iddynt hwy gyrraedd. Gallwch gopïo a gludo’r ddolen ganlynol i'ch porwr:

https://bodnantmedicalcentre.co.uk

Am fwy o wybodaeth iechyd cyffredinol, ewch i'n tudalen Iechyd Cyffredinol

Mae gan Brifysgol Bangor neuaddau wedi eu neilltuo i fyfyrwyr sy'n dychwelyd sy'n cynnig safon byw uchel a diogel. Mae rhai myfyrwyr yn dewis byw mewn llety preifat yn yr ail a'r drydedd flwyddyn ac mae'r brifysgol yn argymell defnyddio Bangor Studentpad; gwefan y mae Prifysgol Bangor yn ei rhedeg i helpu myfyrwyr ddod o hyd i lety preifat. Mae gan Studentpad.co.uk restrau tai o lwyfannau swyddogol i ddod o hyd i dai rhent preifat sydd wedi eu cofrestru gyda'r brifysgol. Mae pob landlord ar Fangor Studentpad yn cadw at amodau llym i sicrhau ansawdd a diogelwch. Mae’r wefan yn cynnig cyngor diduedd, amrywiaeth eang o eiddo, ac adnoddau hanfodol, megis canllawiau tenantiaeth, rhestrau gwirio tai, a gwybodaeth am osgoi twyll rhent.

Yn ogystal, rydym yn darparu dolenni i adnoddau diogelwch allanol, gan gynnwys diogelwch nwy a thrydan, atal tân a hawliau tenantiaid dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru). Mae Gwasanaethau Myfyrwyr, Swyddfa Neuaddau ac Uned Cymorth Ariannol y brifysgol hefyd ar gael i gynnig arweiniad a chymorth. Trwy ddefnyddio'r adnoddau hyn, gallwch wneud penderfyniadau gwybodus a mwynhau cyfnod diogel a chyfforddus mewn llety preifat.

https://www.bangorstudentpad.co.uk/accommodation

Mae helpu eich plentyn/gward i baratoi at fyw'n annibynnol yn ymwneud â meithrin hyder a sgiliau ymarferol. Anogwch hwy i ddysgu sgiliau bywyd hanfodol fel cyllidebu, coginio, golchi dillad a rheoli amser. Trafodwch dalu biliau a thrin cyfrifoldebau fel glanhau a siopa am fwyd.

Mae hefyd yn bwysig siarad am baratoi’n emosiynol, fel delio â hiraeth, adeiladu rhwydwaith o gefnogaeth a gofalu am eu lles. Awgrymwch eu bod yn darllen am yr adnoddau a gynhigir gan y brifysgol, fel Gwasanaethau Myfyrwyr a'r Uned Cymorth Ariannol, i gael arweiniad ychwanegol.

Trwy feithrin eu hannibyniaeth a rhoi sicrwydd iddynt, gallwch eu helpu i deimlo'n hyderus ac yn barod i ymgymryd â'u cyfrifoldebau newydd.

Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ofalu am ein myfyrwyr a’u cefnogi. Rydym am eu helpu i ffynnu ym mhob agwedd ar eu hamser yma.

Gan ddechrau yn ystod yr Wythnos Groeso, cânt gymaint o help a chefnogaeth â phosib gyda materion iechyd a lles yn ogystal â’u gwaith academaidd.

  • Mae'r cynllun Arweinwyr Cyfoed a'r system Diwtoriaid Personol yn golygu bod yna bob amser fyfyriwr arall neu aelod staff academaidd y gall droi atynt. Myfyrwyr yn yr ail a’r drydedd flwyddyn yw arweinwyr cyfoed ac maent wedi eu hyfforddi i helpu myfyrwyr newydd ymgartrefu yn y brifysgol. Neilltuir tiwtor personol i bob myfyriwr, sy'n aelod staff mewn ysgol academaidd.
  • Mae Gwasanaethau a Gweinyddu Myfyrwyr yn darparu gwasanaeth cefnogi proffesiynol i fyfyrwyr. Ymhlith y gwasanaethau a gynhigir, ceir cyngor ariannol, cefnogaeth iechyd a lles, cyngor ynglŷn â thai preifat, cefnogaeth dyslecsia a chwnsela a sgiliau astudio
  • Mae Tîm Anabledd neilltuol ar gael i roi cyngor ac arweiniad ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud ag anabledd.
  • Mae Tîm Cefnogi Addysgu a Dysgu’r brifysgol yn cynnig apwyntiadau un i un, gweithdai ac adnoddau dysgu i helpu i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn y brifysgol. Mae'r ganolfan yn cynnig help gydag ysgrifennu academaidd, mathemateg ac ystadegau, cyflwyniadau, darllen ac ymchwil.

Bydd gan bob teulu a phlentyn/gward ddisgwyliadau gwahanol o ran cadw mewn cysylltiad â’r teulu, ac mae'n bwysig peidio â chymharu eich sefyllfa chi â sefyllfa pobl eraill. Cyn i'ch plentyn/gward adael am y brifysgol, mae'n ddefnyddiol cael sgwrs am gyfathrebu - gan drafod ffiniau a disgwyliadau sy'n gweithio i'r ddau ohonoch. Cofiwch y gallai’r rhain newid wrth i’ch plentyn/gward ymgartrefu yn y brifysgol, felly mae bod yn hyblyg ac yn agored i newidiadau yn allweddol.

Er efallai na fydd y dulliau hyn yn gweithio i bob teulu, dyma rai pethau sydd wedi bod yn ddefnyddiol i rieni:

  • Gosodwch ddyddiadau penodol i gysylltu – os nad ydych wedi clywed gan eich plentyn/gward ers tro, cytunwch ar amser i gael sgwrs. Gallai hyn fod yn alwad ffôn bob wythnos neu bob pythefnos, neges destun gyflym neu sgwrs fideo.
  • Defnyddiwch wahanol ddulliau cyfathrebu – mae’n well gan rai pobl ifanc anfon negeseuon testun, tra bydd eraill yn hoffi galwadau ffôn, nodiadau llais neu hyd yn oed negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol. Gall dod o hyd i'r hyn sy'n gweithio orau i'r ddau ohonoch ei wneud yn haws i chi gadw mewn cysylltiad.
  • Ymunwch â sgyrsiau grŵp teulu - Gall sgwrs grŵp achlysurol eich helpu i barhau i gyfathrebu heb fod yn llawdrwm. Mae rhieni yn aml yn rhannu diweddariadau, lluniau neu neges sydyn yn holi “sut wyt ti”? Neges
  • Anfonwch becynnau gofal neu lythyrau – Gall syrpreis bach, fel nodyn wedi ei ysgrifennu â llaw neu hoff fwyd, fod yn ffordd feddylgar o gadw mewn cysylltiad a dangos cefnogaeth.
  • Parchwch eu hannibyniaeth – Er bod cadw mewn cysylltiad yn rheolaidd yn wych, mae rhoi lle i’ch plentyn/gward fwynhau profiadau newydd yr un mor bwysig. Gadewch iddynt benderfynu weithiau ynglŷn â phryd a sut maent am gyfathrebu.

Yr allwedd yw creu cydbwysedd sy'n gwneud i chi a'ch plentyn/gward deimlo'n gysylltiedig tra'n parchu eu hannibyniaeth newydd.

Mae gan wahanol gyrsiau ofynion amrywiol, ond mae pob un ohonynt yn cynnwys elfen o ddysgu annibynnol. Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i’ch plentyn/gward gymryd cyfrifoldeb am rai agweddau ar eu hastudiaethau, megis cwblhau aseiniadau, ymgymryd â gweithgareddau ffurfiannol, darllen pellach a gwneud ymchwil y tu allan i sesiynau ar yr amserlen. Yn ystod eu cyfnod ymgartrefu, byddant yn dechrau deall yn well y disgwyliadau o ran dysgu annibynnol ar eu cwrs penodol.

Mae sawl math o gefnogaeth ar gael ym Mhrifysgol Bangor i helpu myfyrwyr sy'n wynebu heriau academaidd. Neilltuir tiwtor personol i bob myfyriwr, sef aelod staff academaidd o'u hysgol (neu o'u meysydd pwnc dewisol, yn achos myfyrwyr cydanrhydedd). Mae tiwtoriaid personol yn cyfarfod â myfyrwyr yn rheolaidd trwy gydol eu cwrs ac maent yn bwynt cyswllt pwysig am gyngor a chymorth.

Gall tiwtor personol helpu gyda phryderon academaidd megis dewis modiwlau, pryderon am arholiadau, neu drafferth cyflwyno gwaith ar amser. Maent yno hefyd i gynnig arweiniad ar faterion anacademaidd. Anogir myfyrwyr i gysylltu â hwy am gymorth ar unrhyw adeg.

Yn ogystal, mae Prifysgol Bangor yn darparu cefnogaeth bellach trwy’r Gwasanaethau Myfyrwyr a’r Gwasanaethau Anabledd, gan sicrhau cefnogaeth gynhwysfawr ar gyfer amrywiol anghenion.

Mae Prifysgol Bangor yn gwerthfawrogi cyfranogiad myfyrwyr at y profiad yn y brifysgol ac yn cynnig llawer o gyfleoedd i fyfyrwyr leisio eu barn. Mae'r brifysgol yn cynnal digwyddiadau lle gall myfyrwyr ddysgu sut i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau, edrych ar ffyrdd o wneud gwahaniaeth ystyrlon, a datblygu sgiliau arwain, cyfathrebu ac eiriol.

Er mwyn sicrhau bod anghenion myfyrwyr yn cael eu diwallu, mae'r brifysgol yn cymryd rhan yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr ac yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr roi adborth ar ddiwedd pob modiwl trwy ffurflenni gwerthuso. Mae Undeb y Myfyrwyr yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o leisio barn myfyrwyr, gydag adran bwrpasol sy'n cynnwys y system cynrychiolwyr cwrs, rhwydweithiau myfyrwyr a fforymau myfyrwyr. Mae gan Undeb y Myfyrwyr hefyd is-lywydd dros addysg sy'n cynrychioli'r corff myfyrwyr ac yn rhedeg mentrau yn rheolaidd, megis ymgyrchoedd ar y cyfryngau cymdeithasol ac arolygon i gasglu adborth.

Fel y byddech yn ei ddisgwyl gan brifysgol sy’n rhoi pwyslais mawr ar gefnogi myfyrwyr, mae Bangor yn awyddus i gynnig cefnogaeth ychwanegol i’n myfyrwyr. Mae Prifysgol Bangor yn cynnig amrywiaeth o fwrsariaethau ac ysgoloriaethau i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd.

Mae'r dudalen fwrsariaethau ac ysgoloriaethau yn rhoi gwybodaeth am yr holl fwrsariaethau ac ysgoloriaethau, gan gynnwys yr Ysgoloriaethau Teilyngdod i’r rhai sy'n rhagori yn yr Ysgoloriaethau Mynediad blynyddol.

I'r rhai sy'n gweld eu bod angen cymorth ariannol yn ystod eu cyfnod ym Mhrifysgol Bangor, mae'r Uned Cymorth Ariannol yn wasanaeth sydd ar gael i bob myfyriwr. Mae'r Uned Cymorth Ariannol yn rhan o'r Tîm Cefnogi Myfyrwyr, a gall y staff profiadol gynnig cyngor, gwybodaeth ac arweiniad ar bob agwedd ar gyllid myfyrwyr.

Fel arfer telir cyllid myfyrwyr mewn tri rhandaliad, yn syth i’ch cyfrif banc:

  • Ar ôl cofrestru
  • Dechrau Ionawr
  • Ar ôl y Pasg

Gall aros i glywed am gais fod yn anodd ac rydym yn gwneud ein gorau i wneud penderfyniadau cyn gynted â phosibl.
Ein nod yw gwneud penderfyniad o fewn pythefnos i bum wythnos o dderbyn cais. Gall faint o amser y gall hyn ei gymryd dibynnu ar:
 

  • dyddiad wnaeth eich person ifanc gais (fel arfer rydym yn derbyn nifer uchel o geisiadau a gall fod yn brysur iawn ar adegau penodol o'r flwyddyn)
  • y cwrs y maent wedi gwneud cais iddo.


I asesu cais, bydd ein tîm derbyniadau yn ystyried y canlynol yn fanwl:

  • graddau
  • datganiad personol
  • geirda academaidd


Ar gyfer rhai cyrsiau bydd gofyniad cyfweliad hefyd.
O bryd i'w gilydd mae angen rhagor o wybodaeth arnom er mwyn gwneud penderfyniad. Yn y sefyllfaoedd hyn byddwn bob amser yn cysylltu â’r ymgeisydd drwy e-bost – ac os na fyddwn yn clywed yn ôl fel arfer byddwn yn dilyn hyn gyda galwad ffôn.
Os nad ydych chi neu’ch person ifanc wedi clywed oddi wrthym ac yn poeni, peidiwch â phoeni, gallwch gysylltu â ni unrhyw bryd.

Gellir ystyried bod cyflwyno datganiad personol wedi ei ysgrifennu gan ddeallusrwydd artiffisial (AI) yn dwyll, gan fod prifysgolion yn disgwyl gwaith personol, dilys. Mae UCAS yn gwirio am ddefnydd o ddeallusrwydd artiffisial a llên-ladrad, a allai effeithio ar eich cais.

Mae gwefan UCAS yn cynnig arweiniad pellach ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial er mwyn gwirio eich gwaith a dylid darllen y dudalen hon yn ofalus cyn ystyried y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn eich datganiadau personol.

Gellir trosglwyddo o brifysgol arall mewn nifer o wahanol ffyrdd. Byddem bob amser yn argymell cysylltu â’n Tîm Derbyniadau fel man cychwyn gan mai nhw fydd yn y sefyllfa orau i roi cyngor ar beth i’w wneud. Byddwn yn gallu trafod opsiynau a darparu cymorth drwy'r broses. 
 
Mewn llawer o achosion bydd angen cwblhau cais a darparu prawf bod y myfyriwr wedi tynnu'n ôl yn llwyr o'i gwrs astudio presennol.

Os yw eich plentyn/gward eisiau newid i gwrs arall ym Mhrifysgol Bangor, rhaid iddynt fynd at gyfarwyddwr y cwrs maent eisiau trosglwyddo iddo, boed y cwrs yn eich ysgol bresennol neu mewn ysgol arall. Mae hyn er mwyn gweld a oes llefydd ar y cwrs hwnnw ac a ydynt yn barod i'w derbyn. Unwaith y bydd y broses hon wedi ei dilyn a’r cyfarwyddwr wedi cytuno, bydd rhaid i’ch plentyn/gward gwblhau cais i newid gradd trwy’r Ganolfan Geisiadau ar FyMangor (dyma borth y byddant yn cael mynediad iddo unwaith y byddant yn fyfyriwr yma lle byddant yn gallu rheoli gwybodaeth bwysig)..

Fel arfer, ni chaniateir newid cwrs ar ôl i 4 wythnos o’r semester gyntaf fynd heibio.

Rydym yn rhoi sicrwydd o lety i ymgeiswyr israddedig newydd sydd:

  • Yn gwneud cais i gwrs llawn-amser sy'n dechrau ym mis Medi.
  • Yn gwneud cais i gwrs ar ein campws ym Mangor.
  • Yn dewis Prifysgol Bangor fel eu dewis cadarn (rhaid i ymgeiswyr rhyngwladol a wnaeth gais uniongyrchol i'r brifysgol feddu ar lythyr cynnig, amodol neu ddiamod, gan y brifysgol).
  • Yn gwneud cais am le mewn neuadd erbyn 31 Gorffennaf.

Sylwer mai llety sengl, en-suite a hunanarlwyo yn bennaf yw mwyafrif ein llety i israddedigion. Os bydd eich person ifanc yn gwneud cais am le mewn neuadd cyn y dyddiad cau ar 31 Gorffennaf, bydd cyfle iddyn nhw ddewis yr ystafell sydd orau ganddyn nhw, yn dibynnu a yw ar gael ar yr adeg honno.

Byddwn yn anfon e-bost atoch pan fydd ein system archebu’n agor ddiwedd mis Ionawr, gan roi’r cyfle i chi ddewis yr ystafell fyddai orau gennych trwy ein system archebu ar-lein.

Rydym yn rhoi sicrwydd o lety i ymgeiswyr ôl-radd newydd sydd:

  • Yn gwneud cais i gwrs llawn-amser sy'n dechrau ym mis Medi.
  • Yn gwneud cais i gwrs ar ein campws ym Mangor.
  • Yn cael cynnig diamod cyn 7 Awst (gall ymgeiswyr rhyngwladol sydd â llythyr cynnig amodol wneud cais hefyd).
  • Yn gwneud cais am le mewn neuadd erbyn 7 Awst.

Sylwer mai llety sengl, en-suite, stiwdios a thai tref yn bennaf yw mwyafrif ein llety i ôl-raddedigion. Os bydd eich person ifanc yn gwneud cais am le mewn neuadd cyn y dyddiad cau ar 7 Awst, bydd cyfle iddyn nhw ddewis yr ystafell sydd orau ganddyn nhw, yn dibynnu a yw ar gael ar yr adeg honno.

Byddwn yn anfon e-bost atoch pan fydd ein system archebu’n agor ddiwedd mis Ionawr, gan roi’r cyfle i chi ddewis yr ystafell fyddai orau gennych trwy ein system archebu ar-lein.

Hydref: Y dyddiad cau i wneud cais i’r cwrs meddyginiaeth (mynediad 2025) yw 15 Hydref 2024, felly mae ceisiadau am fynediad yn 2025 bellach wedi cau. Bydd myfyrwyr yn gallu gwneud cais am fynediad yn 2026 ym mis Hydref 2025. Rhaid i bob myfyriwr sy'n gwneud cais i’r cwrs meddygaeth sicrhau ei fod wedi sefyll yr arholiad UCAT cyn gwneud cais.

Hydref – Ionawr: Dyma'r prif gyfnod i wneud cais a bydd y rhan fwyaf o ddarpar fyfyrwyr yn gwneud cais yn ystod y cyfnod hwn. Rydym yn cynghori bod eich plentyn/gward yn gwneud cais cyn gynted â phosib gan y byddwn yn dechrau ystyried ceisiadau a gwneud cynigion yn syth. Dyddiad cau cychwynnol UCAS am fynediad yn 2025 yw 29 Ionawr 2025.

Ionawr – Mehefin: Gellir cyflwyno ceisiadau rhwng 29 Ionawr a 30 Mehefin (2025) i UCAS a chânt eu hanfon ymlaen atom. Bydd cynigion yn dal i gael eu gwneud os bydd lleoedd dal ar gael.

Gorffennaf – Medi Bydd rhai myfyrwyr yn dewis gwneud cais yn uniongyrchol trwy'r system glirio am nifer o resymau megis nad oeddent yn meddwl eu bod am fynd i'r brifysgol neu eu bod yn cael gwell canlyniadau yn yr arholiadau nag yr oeddent wedi disgwyl cael. Mae ceisiadau trwy'r system glirio yn agor ar 5 Gorffennaf 2025 ar gyfer mynediad ym mis Medi 2025. Sylwer na fydd pob cwrs ar gael trwy'r system glirio.

Mae yna ddigonedd o gyfleoedd i gymdeithasu i’r rhai sy’n yfed alcohol a’r rhai nad ydynt yn yfed alcohol ym Mhrifysgol Bangor. Mae nifer o ddigwyddiadau yn ystod yr Wythnos Groeso nad ydynt yn canolbwyntio ar yfed alcohol, gan gynnwys digwyddiadau gan Gampws Byw ac Undeb y Myfyrwyr. Trwy gydol y flwyddyn academaidd, cynhelir digonedd o ddigwyddiadau gan Gampws Byw yn ogystal â’r clybiau a’r cymdeithasau sy'n cael eu hystyried yn ddigwyddiadau cymdeithasol di-alcohol.

Mae bywyd nos ym Mangor yn brysur, mae’r gymuned glos yn golygu bod noson allan yn groesawgar ac yn gofiadwy - p'un a ydych yn mwynhau noson meic agored, tafarn glyd neu ddawnsio trwy’r nos gyda’ch ffrindiau.

Mae gan Brifysgol Bangor glwb nos swyddogol i fyfyrwyr, sef Academi, sy’n darparu bywyd nos gwych a sin cymdeithasol, gyda mynediad am ddim i fyfyrwyr sy’n byw yn neuaddau’r brifysgol, mynediad am ddim i aelodau timau a noddir a diodydd rhad yn y bar, mae’n lle gwych i gymdeithasu a chwrdd â ffrindiau.

Ceir tafarndai ar hyd a lled Bangor sy’n boblogaidd iawn gyda myfyrwyr, yn fariau annibynnol a thafarndai cadwyn a lleoliadau mawr a bariau chwaraeon sy’n berffaith i wylio’r gêm ddiweddaraf.

Mae gan y brifysgol dri phrif gyfnod o wyliau, 3 wythnos dros gyfnod y Nadolig, 3 wythnos dros gyfnod y Pasg a thua 4 mis dros yr haf. Os yw eich plentyn/gward yn byw mewn neuadd nid oes rhaid iddynt symud eu heiddo yn ystod gwyliau'r Nadolig na'r Pasg, ond bydd rhaid iddynt symud allan yn ystod gwyliau'r Haf.

Nid oes unrhyw weithgareddau swyddogol gan y brifysgol yn ystod y cyfnod hwn ond mae adrannau fel Campws Byw ac Undeb y Myfyrwyr yn cynnal digwyddiadau’n achlysurol i sicrhau nad yw unrhyw un sy'n aros ym Mangor dros y gwyliau yn teimlo’n unig. Mae rhai myfyrwyr yn dewis aros ym Mangor dros y gwyliau ac fel arfer gallant ddod o hyd i fyfyrwyr eraill sydd wedi dewis aros hefyd.

Mae croeso i chi ymweld â'ch plentyn/gward unrhyw bryd, ond dyma rai awgrymiadau i chi eu hystyried cyn eich ymweliad.

Gwnewch yn siŵr fod ganddynt amser i'w dreulio gyda chi yn ystod eich ymweliad. A yw'n gwrthdaro â'u darlithoedd? A ydynt wedi trefnu noson allan? A ydynt wedi trefnu gweithgaredd allgyrsiol?

Caniateir un gwestai dros nos i’ch plentyn/gward am hyd at uchafswm o 2 ddiwrnod mewn unrhyw gyfnod o 7 niwrnod, ar y telerau yn eu contract ac ar yr amod eu bod wedi cael cydsyniad eu cyd-letywyr a’u cymdogion. Fodd bynnag, efallai nad yw aros ar lawr ystafell wely myfyriwr yn beth braf iawn i riant. Os ydych yn dymuno aros yn rhywle arall yng ngogledd Cymru yn ystod eich ymweliad, cysylltwch â Thwristiaeth Gogledd Cymru ar 01492 531731 neu www.nwt.co.uk am fanylion llety a gymeradwywyd gan Fwrdd Croeso Cymru.

 

Esboniad o'r Prif Dermau

Cynnig amodol yw cynnig o le mewn prifysgol sy'n dibynnu ar y myfyriwr yn bodloni gofynion mynediad penodol, megis cael canlyniadau arholiadau penodol (e.e. Lefel A neu gyfwerth). Os bodlonir yr amodau, cadarnheir lle'r myfyriwr yn y brifysgol.

Cynnig diamod yw cynnig o le mewn prifysgol nad yw’n ddibynnol ar ganlyniadau arholiadau neu amodau pellach. Mae'r myfyriwr eisoes wedi bodloni'r holl ofynion academaidd a mynediad ar gyfer ei gwrs.

Y dewis cadarn yw prif ddewis y myfyriwr o blith y prifysgolion y mae wedi derbyn cynigion ganddynt. Os yw'r myfyriwr yn bodloni amodau ei ddewis cadarn, caiff ei gofrestru'n awtomatig yn y brifysgol honno.

Y dewis wrth gefn yw’r brifysgol mae’r myfyriwr yn ei dewis rhag ofn nad ydynt yn bodloni'r gofynion ar gyfer eu dewis cadarn. Mae gofynion y dewis wrth gefn fel arfer yn is na rhai'r dewis cadarn.

Rhif adnabod unigryw a roddir i bob myfyriwr pan fyddant yn cofrestru gydag UCAS (Universities and Colleges Admissions Service) yw rhif adnabod UCAS. Mae'n helpu prifysgolion ac UCAS i olrhain cais y myfyriwr trwy gydol y broses dderbyn.

Mae hyb UCAS yn llwyfan ar-lein lle mae myfyrwyr yn rheoli eu ceisiadau prifysgol, yn olrhain cynigion, yn ymateb i gynigion ac yn gweld dyddiadau cau. Gallant hefyd ddod o hyd i wybodaeth am eu dewis gyrsiau a phrifysgolion yno.

Gohirio mynediad yw dewis gohirio dechrau ar gwrs prifysgol am flwyddyn ar ôl derbyn cynnig. Defnyddir hwn yn aml gan fyfyrwyr sydd am gymryd blwyddyn allan i deithio, gweithio neu er mwyn eu datblygiad personol.

Rhaglen ragarweiniol a luniwyd i fyfyrwyr nad ydynt yn bodloni’r gofynion mynediad safonol ar gyfer cwrs lefel gradd neu’r rhai sy’n dychwelyd i addysg ar ôl amser i ffwrdd o astudio yw blwyddyn sylfaen. Mae'n darparu sylfaen gref yn y maes pwnc, ac yn helpu myfyrwyr ennill y wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnynt i astudio ar lefel prifysgol. Ar ôl cwblhau'r flwyddyn sylfaen yn llwyddiannus, mae myfyrwyr yn symud ymlaen yn syth i flwyddyn gyntaf y cwrs gradd a ddewiswyd ganddynt.

Myfyrwyr sy'n astudio am eu gradd prifysgol gyntaf, fel arfer gradd baglor (BA, BSc, ac ati), yw israddedigion.

Myfyrwyr sydd eisoes wedi cwblhau gradd israddedig ac sydd bellach yn astudio am radd uwch, fel gradd meistr (MA, MSc) neu PhD yw ôl-raddedigion.

Rhaglen radd sy'n cyfuno astudiaethau israddedig ac ôl-radd mewn un cwrs parhaus yw gradd meistr integredig. Fel arfer mae'n para pedair neu bum mlynedd, ac yn arwain at gymhwyster meistr (e.e. MEng neu MSci).

Rhaglen brifysgol sydd wedi ei chydnabod yn swyddogol gan gorff proffesiynol yw cwrs achrededig. Mae hyn yn golygu bod y cwrs yn bodloni'r safonau sy'n ofynnol i fyfyrwyr gael mynediad i broffesiwn penodol ar ôl graddio, e.e. peirianneg, y gyfraith neu feddygaeth.

Mae llety prifysgol yn cyfeirio at lety a ddarperir gan y brifysgol i fyfyrwyr.

Mae cynnig cyd-destunol yn cymryd i ystyriaeth amgylchiadau personol neu gefndir y myfyriwr, megis ffactorau economaidd-gymdeithasol, yr ysgol a fynychodd, neu unrhyw heriau personol y mae wedi eu hwynebu. Efallai y bydd gan y cynigion hyn ofynion mynediad is i gefnogi myfyrwyr sydd wedi wynebu rhwystrau ychwanegol i addysg.

Rhywun sy'n ystyried gwneud cais i brifysgol neu sydd yn y broses o ymchwilio neu ymweld â phrifysgolion cyn gwneud cais yw darpar fyfyriwr.

Myfyrwyr sydd wedi cael cynnig lle mewn prifysgol, naill ai’n amodol neu’n ddiamod ond nad ydynt wedi derbyn neu ddechrau eu cwrs eto yw deiliaid cynnig.

Clirio yw’r broses y mae prifysgolion yn ei defnyddio i lenwi unrhyw leoedd sy’n weddill ar eu cyrsiau ar ôl y prif gylch ymgeisio. Fel arfer mae'n digwydd ar ôl i ganlyniadau arholiadau gael eu rhyddhau. Gall myfyrwyr na fodlonodd amodau eu cynigion gwreiddiol, neu na dderbyniodd gynigion, neu a wnaeth yn well na'r disgwyl, wneud cais i brifysgolion eraill yn ystod y broses glirio i ddod o hyd i’r cyrsiau sydd ar gael. Gall rhai myfyrwyr wneud cais yn uniongyrchol trwy'r system glirio.

Mae'r rhan fwyaf o brifysgolion yn cynnig clybiau, cymdeithasau a phrojectau gwirfoddoli, er y gall y derminoleg amrywio. Ym Mhrifysgol Bangor, mae clybiau'n cyfeirio'n benodol at glybiau chwaraeon sy’n rhan o'r Undeb Athletau o fewn Undeb y Myfyrwyr. Mae cymdeithasau’n cwmpasu amrywiaeth eang o grwpiau sy’n canolbwyntio ar ddiddordebau, hobïau, credoau neu ddiwylliannau cyffredin. Mae projectau gwirfoddoli ym Mangor yn fentrau dan arweiniad myfyrwyr sy'n cyfrannu at y gymuned leol a'r amgylchedd, ac ar yr un pryd yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr wella eu sgiliau cyflogadwyedd a rhoi rhywbeth yn ôl i gymdeithas.