Cerddorfa WNO - Dathliad Ganol Haf
Bydd Cerddorfa WNO yn perfformio rhaglen ganol haf hyfryd o ffefrynnau bythol a chomisiwn newydd sbon.
Mendelssohn, Finzi, Owain Llwyd, Vaughan Williams
Cerddorfa WNO
Cyngerddfeistr ac unawdydd: David Adams
Bariton: Aaron O’Hare
Programme
Mendelssohn: A Midsummer Night’s Dream Suite
Finzi: Let us Garlands Bring
Owain Llwyd: Gogarth
EGWYL
Vaughan Williams: The Lark Ascending
Mendelssohn: Symphony No 4 ‘Italian’
Mae harddwch parhaol The Lark Ascending gan Vaughan Williams yn ymddangos rhwng dau o gampweithiau Mendelssohn: yr hardd a’r rhamantus A Midsummer Night’s Dream Suite a’i Symffoni Rhif 4, sy’n darlunio awyr las a chefn gwlad agored yr Eidal.
I gwblhau’r rhaglen bydd un o’r gosodiadau mwyaf cyseiniol o waith Shakespeare, sef cylch caneuon Gerald Finzi, Let us Garlands Bring, a gyflwynwyd i Vaughan Williams ar achlysur ei benblwydd yn 70, a darn newydd sbon gan y cyfansoddwr o Gymru Owain Llwyd, Gogarth, a ysbrydolwyd gan Pen-y-Gogarth Llandudno ar bywyd gwyllt o’i gwmpas.
Yn ymuno a Cherddorfa ddawnus WNO mae’r cyngerddfeistr ac unawdydd y noson, David Adams ag Artist Cyswllt WNO Aaron O’Hare
#WNOorchestra