Yn ystod y weminar, byddi di’n archwilio'r amrywiaeth lawn o gyrsiau addysgu rydym yn eu cynnig - o Addysg Gynradd ac Uwchradd i lwybrau arbenigol mewn Anghenion Dysgu Ychwanegol. Fe weli di sut mae ein haddysgu sy'n seiliedig ar ymchwil a'n profiad yn y byd go iawn yn dod at ei gilydd i dy helpu i gamu i'r ystafell ddosbarth yn hyderus.
Byddwn hefyd yn egluro’r gefnogaeth ariannol sydd ar gael, gan ei gwneud hi'n glir ac yn syml i ddeall pa gyllid y gelli di fod yn gymwys i'w gael. Bydd Addysgwyr Cymru yn ymuno â ni i esbonio'r gwahanol fathau o gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru.
Bydd hefyd cyfle i ti ofyn cwestiynau a chael darlun clir o'r hyn y gelli di ei ddisgwyl o strwythur dy gwrs, lleoliadau, a'r cyfleoedd gyrfa gwerth chweil y gall addysgu eu cynnig.
P'un a dy fod yn barod i wneud cais neu newydd ddechrau archwilio dy opsiynau, y sesiwn hon yw'r lle perffaith i ddechrau.
Dyma dy gyfle i ddarganfod ble gall dy ddyfodol dy arwain — a sut y gall Prifysgol Bangor dy helpu i roi dy ddyfodol ar waith.