Cwrdd â'ch Cymuned Fferylliaeth
Cwrdd â chynrychiolwyr myfyrwyr Fferylliaeth a dysgu mwy am y gefnogaeth a'r cyfleoedd sydd ar gael i chi yn ystod eich astudiaethau.
Bydd y sesiwn yn cynnwys cyflwyniad i BPSA a PharmSoc, gyda chyfle i ofyn cwestiynau a chwrdd â myfyrwyr presennol. Dilynir hyn gan daith ymgyfarwyddo o amgylch mannau a chyfleusterau addysgu Fferylliaeth.
Cliciwch yma i weld gwybodaeth am leoliad yr adeilad a'r ystafell ar Fap y Campws.