Amserlen

Neuadd Mathias, Adran Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio, Prifysgol Bangor

Wyneb yn wyneb ac ar Zoom

9.45 - 10.15yb: Cofrestru 

10.15 - 10.30yb: Croeso a chyflwyniad

10.30 - 11.30yb: Siaradwr gwadd - Pax Demir: jazz, Perception and understanding of improvisation

Mae'r cysyniad o fyrfyfyrio yn amrywio mewn gwahanol draddodiadau, yn ymarferol ac yn ddamcaniaethol. Mae'r sgwrs hon yn ymwneud â'r broses o fyrfyfyrio o wahanol safbwyntiau.

11.30yb - 1.00yp: Byrfyfyrio: Sesiwn Ymarferol I – gyda Pax Demir a mynychwyr (WYNEB YN WYNEB YN UNIG)

 

 

Neuadd Powis, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor

Perfformiad byw a ffrydio’n fyw ar AM Cymru

David Toop - byr fyfyr rhydd unawdol 

 

Neuadd Mathias, Adran Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio, Prifysgol Bangor

Wyneb yn wyneb ac ar Zoom

2.15 - 3.15yp:  Siaradwr gwadd - David Toop: Improvisation, Sympathetic Resonance, Community.  

I gerddor o'r unfed ganrif ar hugain, mae dysgu sut i fyrfyfyrio yn hanfodol - datganiad cryf ond mae'n codi cwestiynau pam ei fod yn hanfodol ac a oes modd dysgu gwaith byrfyfyr mewn gwirionedd. Bydd y sgwrs hon yn defnyddio'r cysyniad o gyseiniant cydymdeimladol i archwilio pwysigrwydd gwrando mewn gwaith byrfyfyr a pham mae gwrando ar sylfaen cymuned.

3.15 - 5.00yp:  Gwaith byrfyfyr: Sesiwn Ymarferol II – gyda David Toop a mynychwyr (WYNEB YN WYNEB YN UNIG)

5.00 - 6.00yp:  Siaradwr gwadd - Richard Barrett: Transforming Moments

“Caiff fy llyfr newydd, Transforming Moments ei gyhoeddi'n ddiweddarach yn y gwanwyn, ac mae'n canolbwyntio ar fyrfyfyrio mewn amrywiol ffyrdd, er enghraifft: cyfoethogi'r eirfa ar gyfer siarad am fyrfyfyr cerddorol drwy edrych ar arferion byrfyfyr mewn disgyblaethau artistig eraill; rhoi gwaith byrfyfyr yng nghanol hyfforddiant cerddorol; cysyniadau byrfyfyr fel offer cyfansoddi. Byddaf yn cyflwyno rhai o'r syniadau hyn a sut maent yn cyd-fynd â dimensiynau moesegol meddwl ac ymarfer byrfyfyr.”

Perfformiad byw a ffrydio’n fyw ar AM Cymru

Stiwdio, Pontio - Gellir prynu tocynnau yma

Pax Demir (Offerynnau taro), Andreas Hesselberg Hatzikiriakidis (Trwmped), Peter Dybvig Søreide (Gitâr), Torkil Hjelle (Bas)

Jazz gwahanol! Defnyddia’r band cyffrous hwn elfennau o gerddoriaeth De India, yn rhythmig ac yn felodig, gan ganolbwyntio ar fyr fyfyr, fusion a’r arbrofol. 


Pax Demir - David Troop - Richard Barrett

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?