Mae Cyfathrebu yn bwnc rhyngddisgyblaethol sy'n tynnu ar seiliau llenyddiaeth mewn cyfrifeg, marchnata, seicoleg, ac astudiaethau'r cyfryngau yn bennaf. Mae pedwar ar ddeg o ymchwilwyr yn ymchwilio mewn cyfathrebiadau ariannol neu'n ymchwilio i ymatebion defnyddwyr i gyfathrebiadau.
Staff Thema Ymchwil:
Yr Athro John Ashton, Dr Sara Closs-Davies, Yr Athro Owain ap Gwilym, Dr Sonya Hanna, Yr Athro Louise Hassan, Dr Danial Hemmings, Yr Athro Lynn Hodgkinson, Yr Athro Aziz Jaafar, Yr Athro Doris Merkl-Davies, Dr Sara Parry, Dr Helen Rogers, Yr Athro Edward Shiu, Yr Athro Jonathan Williams, Dr Gwion Williams
Mewn perthynas â chyfathrebiadau ariannol a CSR, mae gwaith ymchwil wedi canolbwyntio ar ddeall sut mae cwmnïau’n cyfleu gwybodaeth gyfrifyddu i gynulleidfaoedd allanol i ddylanwadu ar eu canfyddiadau a llywio penderfyniadau cyfranddalwyr a rhanddeiliaid (Ashton, Hemmings, Hodgkinson, Jaafar, Merkl-Davies, G Williams) . Ceir hefyd enghreifftiau o waith sy’n ymwneud â newyddion ariannol (J Williams, O ap Gwilym), a sut mae newyddion o’r fath yn dylanwadu ar y farchnad stoc, yn ogystal ag archwilio ymateb y farchnad i weithrediad polisi undeb bancio. Mae ymchwil ychwanegol hefyd wedi nodi effeithiau risg cyn ac ar ôl cyhoeddi fod banciau wedi caffael cwmnïau yswiriant a chwmnïau gwarantau. Mae gwaith arall yn dadansoddi rhyngweithio rhwng cwmnïau a rhanddeiliaid a gweithredwyr sifil, gan gynnwys cyrff anllywodraethol a grwpiau symud cymdeithasol (Merkl-Davies). Cynhelir ymchwil hefyd ar archwilio a deall sut mae gweithredoedd ac ymddygiad dinasyddion yn cael eu trosi i, a'u cyfathrebu trwy, wybodaeth ariannol trwy dechnolegau llywodraethu a'u heffaith ar unigolion a chymdeithas. (Closs-Davies, Merkl-Davies, Rogers). Cynrychiolir diddordebau ymchwil trwy ddau glwstwr ymchwil arbenigol.
Clystyrau Ymchwil Arbenigol
- Defnyddwyr a Chyfathrebu
- Cyfathrebu Corfforaethol