Yr Athro Vyv Evans i gymryd rhan mewn dadl yn yr International Science Festival, Caeredin.

Bydd yr Athro Vyv Evans yn cymryd rhan mewn dadl 90 munud yn yr Edinburgh International Science Festival eleni, ar 15 Ebrill 2015 am 8pm. Yn ystod y sesiwn “Speaking our minds” bydd yr Athro Vyv Evans yn dadlau beth sy’n dod gyntaf, y gair neu’r syniad, gyda’r anthropolegwr esblygiadol Thom Scott-Phillips, arbenigwr ar brosesu iaith naturiol Diarmuid Ó Séaghdha a’r primatolegydd Klaus Zuberbuehler.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2015