Ein Campws Amrywiol
Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo integreiddio cymdeithasol ymysg ein myfyrwyr er mwyn creu cymuned Brifysgol gydlynol. Yn greiddiol i hynny mae dealltwriaeth a pharch tuag at yr amrywiaeth o ddiwylliannau sydd ar y campws.
O'r 11,000 o fyfyrwyr sy'n astudio yma ym Mangor, mae dros 2,000 ohonynt yn dod o'r tu allan i'r DU, o dros 85 o wledydd gwahanol. Felly, mae gan fyfyrwyr gyfle i wneud ffrindiau o lawer o wahanol ddiwylliannau a chefndiroedd, gan eu galluogi i ehangu ar eu gwybodaeth ddiwylliannol.
Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo amgylchedd diogel a chefnogol ac rydym yn gwerthfawrogi profiadau pob myfyriwr yn ein cymuned. Mae hyn wedi'i gynnwys yn ein polisi Polisi Aflonyddu Myfyrwyr. Ewch i'n gwe-dudalen Aflonyddu i gael rhagor o wybodaeth.
Myfyrwyr Rhyngwladol
Mae llawer o ffyrdd y gall myfyrwyr rhyngwladol gymryd rhan ym mywyd y Brifysgol ac mae nifer fawr o Gymdeithasau Rhyngwladol y gallant ymuno â nhw a digwyddiadau y gallant gymryd rhan ynddynt. Mae cefnogaeth arbenigol, yn academaidd a chymdeithasol ar gael trwy Ganolfan Addysg Rhyngwladol y brifysgol i sicrhau eich bod yn teimlo'n gartrefol yn ein cymuned gyfeillgar.
Rydym yn deall i fyfyrwyr rhyngwladol bod dod i'r brifysgol nid yn unig yn golygu gadael cartref ond hefyd symud i wlad dramor a dod i arfer â diwylliant gwahanol a ffordd wahanol o fyw hefyd. Dyna pam fod gan Brifysgol Bangor Hyrwyddwyr Myfyrwyr Rhyngwladol i'ch helpu i gynefino, i ddangos Bangor i chi a'ch helpu i deimlo'n gartrefol. Maent eisoes wedi bod drwy'r broses o addasu i fywyd newydd mewn gwlad newydd felly maent yn gwybod yn union sut rydych yn teimlo ac maent yno i chi drwy gydol eich cyfnod yn y Brifysgol. Gallwch ddysgu mwy trwy fynd i wefan y Ganolfan Addysg Rhyngwladol.
Darllenwch y Llawlyfr Myfyrwyr Rhyngwladol lle ceir gwybodaeth ynglŷn â chyrraedd Bangor, bywyd myfyrwyr a sut i gadw mewn cysylltiad pan fyddwch wedi graddio.
Mae gennym dudalen Facebook fywiog sy'n sôn am y newyddion diweddaraf gan ein Myfyrwyr Rhyngwladol a beth sy'n digwydd ar hyn o bryd.. Mae gennym hefyd newyddlen fisol gyda rhagor o wybodaeth.
E-bost: international@bangor.ac.uk
Ffôn: 01248 250008