Rydym yn Hyrwyddo Cydraddoldeb Gender
Cydraddoldeb Gender
Yma ym Mangor rydym yn deall bod dynion a merched yn profi effeithiau steroteipio gender a rhagfarn ar sail rhyw. Rydym yn hyrwyddo amgylchedd cydraddoldeb gender ac yn credu y dylai pob unigolyn gael eu trin yn deg, waeth beth yw eu gender.
Ein nod yw sicrhau y gall pob myfyriwr gymryd rhan lawn a mwynhau holl agweddau ar fywyd prifysgol mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar.
Nid ydym yn dioddef rhagfarn ar sail rhyw na diwylliant y llanc ar y campws.
Mae’n hollbwysig bod pob myfyriwr ym Mangor yn teimlo'n gyfforddus, yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu. Fel myfyriwr, ni ddylech orfod dioddef unrhyw herian rhywiaethol, ni ddylech deimlo bod rhaid i chi fod yn rhan o 'lad culture' yn cynnwys yfed yn drwm fel ffordd o gymdeithasu. Hefyd ni ddylech fyth orfod dioddef merched neu ddynion yn cael eu rhywioli a'u trin fel gwrthrychau.
Nid yw Prifysgol Bangor yn goddef unrhyw fath o aflonyddu, rhagfarn ar sail rhyw na diwylliant y llanc ar y campws, mewn darlithoedd neu unrhyw weithgareddau allgyrsiol. Mae hyn wedi'i gynnwys yn ein Polisi Aflonyddu Myfyrwyr . Ewch i'n gwe-dudalen 'Beth os byddaf yn profi neu'n dyst i aflonyddu?' am ragor o wybodaeth.