Oherwydd Bangor

Yma, mae alumni Bangor yn dweud wrthym pam fod gan Fangor le mor gynnes yn eu calonnau.

Oherwydd Bangor... rwy'n teimlo ei bod yn bwysig rhoi rhywbeth yn ôl

Bûm ym Mhrifysgol Bangor rhwng 1966 a 1969, a graddiais yn y Saesneg gyda’r hyn a gredaf oedd yn 2:1 uchel.
Efallai y byddai wedi bod yn ddosbarth cyntaf pe na bawn i wedi creu ac ateb fy nghwestiwn fy hun ar August Strindberg yn yr arholiad; doedd gan yr arholwr mo’r craffter i osod y cwestiynau cywir i mi eu hateb – wedi’r holl waith ro’n i wedi’i wneud ar Strindberg! Dyna roi diwedd, fwy neu lai, ar unrhyw ddyheadau oedd gen i i ddod yn academydd, er fy mod i’n awr yn mwynhau’r teitl, Darlithydd er Anrhydedd ym Mangor drwy rinwedd fy ngwaith gydag israddedigion ar y rhaglen Cyflogadwyedd. Dewisais Bangor yn hytrach na Phrifysgol Manceinion drwy hap a damwain; roeddwn yn hoffi’r mynyddoedd, ac roeddwn yn caru'r ardal gyda’i phobl, hanes, diwylliant ac iaith arbennig iawn.
 
Ar wahân i addysg, cefais amser gwych ym Mangor. Yno cwrddais â’m gwraig, bûm yn chwarae i dîm pêl-droed y Brifysgol yng Nghynghrair Cymru gan ddatblygu fy natur gystadleuol ac ennill yr enw "Iron man McGreevy" sydd wedi aros gyda mi hyd heddiw. Mae un gêm yn erbyn Clwb Pêl-droed Nantlle Vale yn aros yn fy nghof. Roedd yn waedlyd, ond mi enillon ni, ac ymddangosodd y pennawd "Brain versus brawn" yn y ‘North Wales Chronicle’.  Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach ar faes yr Eisteddfod, mi welais i ‘El Bandito’, sef y diweddar Orig Williams, capten Nantlle a reslwr proffesiynol, a anfonwyd oddi ar y cae yn ystod y gêm. Mi wnes i ei atgoffa o’r pennawd papur newydd i’r hyn y bu iddo ymateb, "Ia, ond doedden ni methu â gweithio allan pwy oedd y brêns a phwy oedd y brawn".

Rydw i wedi cefnogi Prifysgol Bangor drwy roi i Gronfa Bangor a darparu gweithdai Cyflogadwyedd am ddim i fyfyrwyr. Rydw i’n gwneud hyn oherwydd fy mod yn dymuno rhoi’r cyfle gorau i fyfyrwyr Bangor ddatblygu eu gyrfaoedd trwy rannu’r wybodaeth a’r profiad sydd gennyf i ar ôl cael gyrfa lwyddiannus iawn. Ar ôl i mi gymryd rhan yn y rhaglen rheoli graddedigion llwybr cyflym y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a symud ymlaen drwy wahanol swyddi uwch, yn y diwedd mi ddes i’n Brif Swyddog Gweithredol ysbyty yn Llundain. Bûm yn bennaeth practis ymgynghorol iechyd PA Consulting Group a des yn Gyfarwyddwr Sector Cyhoeddus ar gyfer Ymgynghoriaeth Adnoddau Dynol rhyngwladol wedi’i lleoli yn Lincoln's Inn Fields lle datblygais fy sgiliau cynghori ar yrfaoedd. Roedd y capteiniaid diwydiant a gefnogais drwy eu newidiadau gyrfa’n dweud yn ddieithriad eu bod yn dymuno iddynt fod wedi derbyn y cyngor cyflogadwyedd yr oeddent yn ei gael yng nghanol oed pan oeddent yn llawer iau. Mi wnes i grybwyll hyn wrth Kristen Gallagher, Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni ym Mhrifysgol Bangor, mewn parti, ac mae’r gweddill yn hanes. Rydw i’n awr yn rhedeg fy nghwmni ymgynghorol fy hun yng Nghaerdydd.

Rwy'n teimlo ei bod yn bwysig rhoi rhywbeth yn ôl i Fangor oherwydd i’r lle fy ngwneud i'r hyn ydw i heddiw, felly rwyf eisiau ad-dalu'r ddyled i le arbennig iawn.

Malcolm McGreevy (1969, Saesneg)

 

Oherwydd Bangor… mae gen i atgofion o fwynhau fy hun yn eithriadol

Mae fy atgofion o astudio ym Mangor yn gymysgedd o fwynhau fy hun yn eithriadol, magu fy annibyniaeth, sefydlu sawl cyfeillgarwch agos, a dysgu mwy am bwnc a oedd wrth fodd fy nghalon.   A’r cyfan ym Mangor a Gwynedd.   Lle gwirioneddol hudolus gyda chestyll a môr, mynyddoedd a llynnoedd.   Fe wnaeth y fro hynafol yma danio fy nychymyg yn blentyn pan fûm ar wyliau yno a pharhaodd i wneud hynny tra astudiais yno am dair blynedd wych gan aeddfedu’n oedolyn.   

Chwaraeais rygbi i Borthaethwy, gweithio fel barman yn yr Harp, gwersylla ar lethrau Dyffryn Ogwen yn yr eira, loncian nôl a blaen at y Bont efo Stephen Smith beth bynnag oedd y tywydd, ymosod ar adran B4 neuadd Emrys Evans o’r to (C1 a B3 yn gyfeillion oes!), bragu lager eithriadol gryf ar y stof drydan yn y ffermdy lle roeddwn yn y flwyddyn olaf, a gyrru ar hyd arfordir Gogledd Cymru ac ymlaen i Sir Gaerhirfryn i wylio bandiau wrth i’r ffenomen pync droi’n ‘don newydd’.    Yna, wrth gwrs, roedd y glaw.   Os nad oedd yn bwrw roedd ar fin gwneud hynny, neu os nad oedd am fwrw roedd newydd wneud!   Ond ni allai holl law’r byd daflu dŵr oer ar y pleser a’r boddhad syml o edrych ar gribau Eryri neu ar draws y Fenai i Fôn a meddwl “Ydw, mi rydw i yma ac yn astudio yma hefyd!” 

Ar ôl graddio fel llawer o raddedigion eraill arhosais o gwmpas Bangor am dipyn nes i ddiffyg arian a llety fy ngorfodi i adael. Euthum adref at fy rhieni i ddechrau ac yna symudais i UCL gan ddefnyddio fy ngradd mewn gwaith ymchwil, ac oddi yno symudais i Brifysgol Rhydychen lle rydwyf o hyd.   Fe wnes i feichio crio wrth i Smith a minnau yrru allan o Fangor ac ar yr A5 am y tro olaf fel ‘myfyrwyr’.   Wna i fyth lwyddo i ail-fyw holl egni a hapusrwydd fy nghyfnod yno, ond bydd fy mab yn dechrau ym Mangor ymhen ychydig wythnosau (2012) ac rwy’n gobeithio y bydd hanes yn ailadrodd ei hun yn eich achos o. 

Andrew Thompson (1981, Sŵoleg gyda Sŵoleg Môr)

 

Oherwydd Bangor… dysgais i gyd-weithio gyda phobl o bob rhan o’r byd

Roeddwn yn rhan o’r garfan MBA Marchnata 2010-2011 ym Mangor.  Hoffwn ddweud bod Bangor wedi dysgu rhai o bethau pwysicaf bywyd i mi.  Nid yn unig mae wedi fy natblygu’n academaidd, ond mae hefyd wedi cwblhau’r gwaith o ddatblygu a ffurfio fy mhersonoliaeth.  Heddiw rwy’n gweithio fel Swyddog Cyswllt Rhyngwladol i Brifysgol Lerpwl ym Mhacistan ac ni fyddai hynny wedi bod yn bosibl pe na bai MBA Bangor wedi’i nodi ar fy CV.  Fe wnaeth Bangor fy nysgu sut i fod yn amyneddgar a chymwynasgar tuag at bobl o bob rhan o’r byd.  Byddwn yn dal i roi unrhyw beth am gael ail-fyw’r dyddiau gwych hynny a dreuliais ym Mhrifysgol Bangor.

Hassan Tariq (2011, MBA Marchnata)

 

Oherwydd Bangor… roeddwn i’n aelod cyntaf fy nheulu i fynd i Brifysgol

Daeth Alex fy ngŵr a minnau i Fangor yn 1949 gan raddio yn 1952.

Bu Alex yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Grove Park, Wrecsam a chafodd Ysgoloriaeth Agored i astudio Ffiseg ym Mangor.  Ar ôl graddio a threulio dwy flynedd ar Wasanaeth Cenedlaethol a chyfnod byr yn y diwydiant electroneg, ymunodd â’r Gwasanaeth Sifil gan wneud ymchwil yn yr Adran Gwyddoniaeth Ymbelydredd yn NPL yn Teddington.  Fe’i penodwyd yn Is-ysgrifennydd yn yr Adran Diwydiant a Masnach yn Llundain ac yna, yn 1987 fe’i penodwyd yn Gemegydd y Llywodraeth yn LGC yn Teddington, er mawr syndod i rai o aelodau’r Royal Society of Chemistry!  Fe wnaeth wirioneddol fwynhau ei bedair blynedd yno, gan ymddeol yn 1991 pan ddyfarnwyd y CBE iddo.

Credwch neu beidio, yn 81 oed mae’n dal i ysgrifennu papurau a siarad mewn cynadleddau ar Gemeg Ddadansoddol. Rydym newydd ddychwelyd o gynhadledd ym Merlin a dweud y gwir.  Dechreuodd ei yrfa ryfeddol ym Mangor!

Beryl ydi fy enw i a chefais fy ngeni yn Crewe, Sir Gaer.  Roeddwn yn ddisgybl yn Crewe County Grammar School a gwnes gais i astudio Almaeneg ym Mangor. Doeddwn i erioed wedi bod yno o’r blaen, a’r rheswm pennaf dros ymgeisio oedd nad oedd credyd mewn Lladin yn un o’r gofynion mynediad, tra ei fod mewn prifysgolion eraill!   Pan gyrhaeddais ar ddiwrnod cyntaf y tymor a cherdded allan ar y teras, fedrwn i ddim credu fy mod wedi dod i le mor rhyfeddol.  Roedd y golygfeydd yn ysblennydd!  Wedi cael fy magu mewn tref reilffordd fudr a llawn huddygl, roedd popeth mor lân a’r aer mor ffres.  Roedd fy rhieni’n dod yn wreiddiol o’r Bala a Rhuthun (yn wir enillodd fy mam le yn Ysgol Sir Rhuthun i Ferched tua 1913). Roedd fy rhieni’n siaradwyr Cymraeg ac fe’u priodwyd yn 1927 yn un o’r ddau gapel Cymraeg a oedd yn Crewe bryd hynny. Daeth cymaint o bobl o Gymru i Crewe i weithio ar y rheilffordd ddechrau’r ugeinfed ganrif.

Roedd fy nghyfnod ym Mangor yn un arbennig iawn.  Yn fy ail flwyddyn daeth y rhyfeddol a’r carismataidd Dr (Athro’n ddiweddarach) Spalding i arwain yr Adran Almaeneg ac yn wir buom yn gohebu yn ystod blynyddoedd olaf ei oes.  Dywedodd mai fi oedd y cyn fyfyriwr hynaf i ysgrifennu ato!  Ar ôl graddio arhosais am flwyddyn arall i gael fy niploma dysgu.  Hyd nes i ni briodi bûm yn athrawes yn New Mills Grammar School yn Swydd Derby. Yn ddiweddarach, bûm yn dysgu pynciau eraill mewn Ysgol Uwchradd Fodern yn Farnborough, a ddaeth yn ysgol gyfun ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Bryd hynny deuthum yn Bennaeth Ieithoedd Modern yno a chael cyfle i ddysgu Almaeneg unwaith eto!  Felly, tair gwahanol fath o ysgol, ond nid gyrfa arbennig iawn.
Roedd ein cyfnod ym Mangor mor arbennig, y dawnsfeydd wythnosol yn PJ, y ddawns flynyddol gyda cherddorfa fawr pan oedd pawb mewn gwisgoedd smart a ffurfiol, a hefyd yr Eisteddfod.

Roeddem mor ffodus. Roeddem ein dau’n dod o gefndiroedd dosbarth gweithiol ond fe wnaethom lwyddo, gydag anogaeth ein rhieni, i fynd i ysgol ramadeg ac yna ymlaen i brifysgol, a ni oedd aelodau cyntaf ein teuluoedd i wneud hynny.

Beryl Williams (1982, Almaeneg)

 

Oherwydd Bangor .... aeth fy astudiaethau i gyfeiriad gwahanol i'r hyn roeddwn wedi’i fwriadu

Ar ôl gwneud cais i astudio Ffiseg Môr, methais â chael y graddau angenrheidiol yn fy Ffiseg Lefel A a chollais y lle.  Fodd bynnag, fe wnaeth yr Adran Gemeg fy ffonio adref a gofyn a hoffwn i wneud Cemeg Môr yn hytrach.  Roedd hyn yn drobwynt i mi.  Fe wnes ddarganfod fy mod wrth fy modd gyda Chemeg prifysgol ac i ddechrau cefais swydd lle roeddwn yn defnyddio fy ngradd yn uniongyrchol gan astudio llygredd olew o gwmpas llwyfannau olew ym Môr y Gogledd.  Ers hynny rwyf wedi gweithio gyda sawl cangen o Gemeg Ddadansoddol cyn sefydlu fy labordy fy hun.  Ar hyn o bryd rwy’n gweithio ar gynhyrchu data diogelwch ar gyfer Chwynladdwyr a Phlaladdwyr.  Wrth gwrs, heb y newid gyrfa a awgrymwyd gan yr Adran Gemeg ym Mangor, byddai fy mywyd yn sicr wedi bod yn wahanol iawn.

David Norris (1990, Cemeg Môr)

 

Oherwydd Bangor  .... cyflwynwyd pwnc newydd i mi

Pan oeddwn yn astudio Lefelau A mewn Ffiseg, Cemeg, Mathemateg a Ffrangeg, gwnes geisiadau’n wreiddiol i brifysgolion i astudio ffiseg.  Yn ystod fy mlwyddyn olaf yn astudio am lefel A sylweddolais fy mod wedi gwneud camgymeriad enbyd a’r diwedd fu i mi ddod i Fangor drwy’r drefn glirio i astudio Ffrangeg.  Roedd yno Adran Rwsieg ar y pryd ac fe wnaeth hynny newid fy mywyd yn llwyr.  Treuliais 3 blynedd yn byw yn Rwsia a phriodais â dyn o Georgia (fel teulu rydym yn siarad Rwsieg y rhan fwyaf o’r amser, hyd yn oed pan wyf ar ben fy hun gyda’n mab) ac rwyf wedi defnyddio fy Rwsieg gydol fy ngyrfa.  Mae’n anodd iawn dychmygu beth a allai fod wedi digwydd pe na bawn i wedi dod i Fangor.  

Margaret Newens (1991, Ffrangeg/Rwsieg)


Oherwydd Bangor .... enillais flynyddoedd o brofiad yn fy maes

Deuthum i astudio i ddechrau am radd yn yr hyn a elwid yn ‘SPAMS’ bryd hynny; yna euthum ymlaen i wneud graddau MSc a PhD yn ‘SEES’, cyn gweithio am 9 mlynedd fel Ôl-ddoethur ar dri gwahanol gontract. Felly, mae Bangor yn gyfrifol am gynhyrchu’r amryfal sgiliau a phrofiad rwyf yn eu defnyddio ar hyn o bryd.  Yn ogystal, cefais gyfle i diwtora plant dau o gyn aelodau staff y Brifysgol, y Penaethiaid Gyrfaoedd a Cherddoriaeth ganol y 1970au, ac fe wnaeth hynny hefyd gyfoethogi fy mhrofiad ym maes dysgu.  Ym Mangor hefyd y ganed fy ngwraig, felly mae wedi dylanwadu ar fy holl fywyd, nid dim ond fy ngyrfa.

Dr Chris Barnes (1982, Peirianneg)

 

Oherwydd Bangor .... y gwnes i gyfarfod fy ngŵr

Rydw i’n dal yn briod â’r myfyriwr ôl-radd y gwnes i ei gyfarfod tra oeddwn yn astudio am radd mewn Bioleg Môr/Eigioneg yn 1978-81 ac rydw i’n dal mewn cysylltiad â’r ffrindiau roeddwn yn rhannu tŷ efo nhw.  Gwaetha’r modd, dwi ddim yn defnyddio fy ngradd mewn byd gwaith yn awr ond, yn ddiweddar mewn cyfweliad swydd pwysig, holwyd fi am fy nghymhwyster academaidd 'anarferol' hyd yn oed ar ôl yr holl flynyddoedd – felly diolch Bangor am bob un o’r tri!   Fe wnaeth colli Gareth Edwards Jones ein tristau’n fawr iawn – trychineb oedd colli un mor ifanc ac mor amryddawn mewn llawer ffordd.   Rydym yn cydymdeimlo’n fawr â’i deulu, ei gydweithwyr a’i fyfyrwyr.  

Sarah Bealey, Marlar  gynt (1981, Bioleg Môr/Eigioneg 

 

Oherwydd Bangor .... cefais gyfle i astudio.

Yn ffodus i mi, roedd Dr Tom Owen (Coedwigaeth a Gwyddor Coed) yn caniatáu un lle i fyfyriwr heb record academaidd ddisglair iawn, ar yr amod ei fod yn credo bod ganddynt y gallu a’r ymroddiad i astudio.  Fe wnes i raddio yn 1974 a dechrau ar yrfa hir gyda’r Comisiwn Coedwigaeth.  Yn ddiweddarach bûm yn gweithio gydag adran Coedwigaeth a Choed Comisiwn Economaidd Ewrop y Cenhedloedd Unedig yn Genefa, nes daeth fy nghytundeb i ben yn Rhagfyr 2011. Rwyf nawr yn mwynhau byw gartref yn Elgin, Yr Alban, a gwneud gwaith ymgynghorol o bryd i’w gilydd. 

Paul Douglas Clark (1974, Coedwigaeth)

 

Oherwydd Bangor… mae gen i ddigon o hyder i hedfan awyren!  

Graddiais mewn Hanes yn 1996 ac mae gennyf atgofion gwych, rhy niferus i’w crybwyll.  Bangor, fodd bynnag, a daniodd fy nghariad at fynyddoedd a cherdded mynyddoedd.  Syrthiais mewn cariad â Bangor ac Eryri pan fûm yno gyntaf ar wyliau teuluol yn 1988. Pan ddaeth y cyfle i astudio ynghanol golygfeydd mor odidog, neidiais ato’n awchus.  Clwb Cerdded Mynyddoedd y Brifysgol oedd rhan orau bywyd ym Mangor.  Roedd un grŵp ohonom a fyddai’n mynd i’r mynyddoedd bob penwythnos, boed law, hindda, eira neu wynt. Cawsom rai troeon gwallgof  ond llawer o hwyl, a rhoddodd hyder i mi gerdded mewn eira a rhew. Un o’m hoff lwybrau oedd dros y Grib Goch ac roeddwn wrth fy modd ar Y Glyderau hefyd.  Does dim yn well i feithrin cyfeillgarwch nag eistedd mewn pabell ar gopa mynydd mewn coblyn o storm!! Roeddem yn dweud bob amser pa mor lwcus oeddem o gael bod mewn prifysgol mewn rhan mor hardd o Brydain a’r fath golled roedd myfyrwyr mewn prifysgolion ynghanol dinasoedd mawr yn ei chael.  Fe wnes i lawer o ffrindiau oes gwych ym Mangor, yn y Clwb Cerdded ac yn Rathbone.  A minnau’n un o genod ‘Ratbin’, deuthum yn ffrindiau â merch oedd y gyntaf un i mi gyfarfod â hi ym Mangor ar ddiwrnod cyntaf un Wythnos y Glas, ac rydym wedi bod yn ffrindiau da ers hynny.   

Fe wnaeth Bangor fy nysgu hefyd sut i chwarae criced.  Roeddwn yn aelod o dîm criced y merched ac yn Is Gapten.  Roedd y ddau hogyn (Phil a John) a wnaeth ein dysgu yn wych.  Roeddwn eisoes yn hoff o’r gêm, ond fe wnaeth cyfle i’w chwarae’n iawn wneud i mi ei gwerthfawrogi’n fwy byth – ac mae’r diolch i gyd i Fangor! Roeddwn yn aelod hefyd o SODA ac yn un o’r aelodau a sefydlodd Fand Cyngerdd Prifysgol Bangor a’i lyfrgellydd cyntaf!

Nawr rwyf yn Guradur Coleg yr RAF yn Cranwell ac wrth fy modd gyda’r swydd. Rwyf hefyd yn astudio i gael trwydded peilot sy’n uchelgais arall yn cael ei gwireddu.  Rhoddodd Bangor radd i mi mewn hanes. Hebddi ni fyddwn wedi cael swydd mor arbennig ac fe wnaeth bywyd prifysgol hefyd ddechrau’r daith o droi merch swil 18 oed yn oedolyn llawer mwy hyderus, gyda digon o hyder i hedfan awyren!

Hazel (Jane) Crozier (1996, Hanes)

 

Oherwydd Bangor... dysgais am fywyd, cariad a llenyddiaeth i gyd ar yr un pryd

Roeddwn ym Mhrifysgol Bangor o 1975 tan 1978, ac astudiais Lenyddiaeth Saesneg a Drama.

Frances BarberY dyddiau hynny, dim ond wyth o brifysgolion yn y wlad oedd yn arbenigo yn y math yma o radd gydanrhydedd, felly roedd Bangor ar y blaen hyd yn oed bryd hynny.
Fe wnaeth Bangor apelio ataf oherwydd ei bod yn ddinas fach gyda llawer o fyfyrwyr a hynny mewn rhan hynod hardd o Brydain.  Teimlais yn gartrefol yn syth yno. 
Roeddwn yn ddigon ffodus i fod yn rhan o genhedlaeth o fyfyrwyr ar fy nghwrs a oedd yn cynnwys Danny Boyle, a aeth ymlaen i ennill Oscar, a hefyd llawer o bersonoliaethau mawr eraill sydd wedi mynd ymlaen i weithio’n llwyddiannus iawn yn y diwydiant Teledu a Ffilm ar amryw o ffurfiau. 

Roedd y cwrs ei hun yn rhagorol. Roedd y tiwtorialau, darlithoedd a’r staff academaidd yn ddiguro. Roedd y rhan fwyaf eisoes wedi cyhoeddi gweithiau llenyddol ac aeth eraill ymlaen i wneud hynny. Bu un yn rhoi cyngor arbenigol i ffilmiau Shakespearaidd, gan arbenigo yng ngwaith Kenneth Branagh.

A rhaid sôn am y bywyd cymdeithasol! Mewn prifysgol fach rhaid i’r myfyrwyr lunio’u difyrrwch eu hunain ... ac fe wnaethom lawer o hynny. Fel merch ifanc 18 oed roeddwn yn teimlo’n llawer mwy diogel mewn lle cymharol fychan. Daethom i gyd i adnabod ein gilydd a helpu ein gilydd wrth i ni adael cartref am y tro cyntaf.  
Treuliais dair o flynyddoedd gorau fy mywyd yno.

Rwy’n dal i berthyn i garfan fawr o ‘Hen Fangoriaid’ sy’n parhau’n gyfeillion agos iawn i mi hyd heddiw.

Ni allwn fod wedi gobeithio am well. 

Bydd Prifysgol Bangor bob amser â lle yn fy nghalon, gan imi ddysgu am fywyd, cariad a llenyddiaeth i gyd ar yr un pryd …. Hir y parhao i ysbrydoli.

Frances Barber, Actor (1978, Saesneg a Drama)

 

Oherwydd Bangor... mae gen i ffrindiau am oes

Roedd yn amser hapus iawn, iawn o’m bywyd! Syrthiais mewn cariad â Bangor ar ôl y tro cyntaf i mi fynd yno ar gyfer fy nghyfweliad, a thra’r oeddwn i ar y ffordd gartref ar y trên y noson honno, yn teimlo - dwi eisiau mynd yno! Roeddwn i wrth fy modd ym Mangor a chefais 3 blynedd wych. Rwy’n dal yn ffrindiau gorau gyda’r hogiau a oedd yn byw ar yr un coridor â mi ar Safle Ffriddoedd yn fy mlwyddyn gyntaf!

Timothy Jones (2002, Hanes)


Oherwydd Bangor... mae gen i atgofion gwych

Graddiais gyda gradd yn y Saesneg yn 1999 ac mae gen i atgofion gwych o fy amser ym Mangor. Mae’n lle hyfryd gyda golygfeydd godidog a chymuned y myfyrwyr hynod gefnogol – alla i ddim meddwl am unrhyw le gwell i astudio.

Samantha Davies (1999, Saesneg)

 

Oherwydd Bangor... mae gen i hyder yn fy ngallu

Mae Prifysgol Bangor wedi rhoi cymaint i mi. Mae gen i atgofion gwych am fy nghyfnod yn y Brifysgol ac rydw i’n dal mewn cysylltiad efo rhai ffrindiau rhagorol a wnes i tra’r oeddwn i’n astudio ym Mangor.  Yn bwysig, drwy gydol fy ngyrfa rydw i wedi darganfod bod cael gradd wedi agor drysau i mi, ac yn sicr wedi rhoi hyder mewnol yn y gweithle i mi.

John Jones, Landseer Partners, (1980, Mathemateg)

 

Oherwydd Bangor... fe wnes i ddarganfod ymdeimlad o antur!

Bûm yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor o 1975 hyd 1978 gan raddio mewn Mathemateg ac Eigioneg Ffisegol; y prif reswm i mi ddewis Bangor yn hytrach nag unrhyw brifysgol arall oedd enw da’r Ysgol Gwyddorau Eigion yn fyd-eang. 
 
Ond, ar wahân i’r addysg, mwynheais fy hun yn fawr iawn ym Mangor. Roedd yr ymdeimlad o dref fach, hanes unigryw a chefn gwlad godidog Cymru ar garreg y drws yn ysgogi rhywun i ddysgu ac i fwynhau bywyd.
 
Fel hogyn 18 oed o ddinas fawr (Lerpwl) roedd yn fantais ac yn antur fawr cael byw yng nghanol mynyddoedd Eryri. Bûm yn byw mewn bwthyn yn Y Gerlan ar gyrion Bethesda ac, ar un achlysur, cawsom ein cau i mewn gan eira yn ein bwthyn gwledig am 4 diwrnod! Yn ddi-os fe wnaeth Bangor fy helpu i dyfu i fyny a rhoi llawer o hyder i mi ar gyfer y dyfodol.  Yn amlwg fe wnaeth fy helpu i ddatblygu gyrfa addawol, yn cynnwys gweithio fel Rheolwr Gyfarwyddwr Castlemaine Perkins (XXXX) Awstralia a Phrif Swyddog Gweithredol Tyrrells Potato Chips.
 
Erbyn hyn rwy’n rhedeg fy musnes ymgynghorol fy hun, gan helpu busnesau bach ddod i’r farchnad a ffynnu a gwneud elw.  Rwy’n edrych yn ôl yn aml ar hynt fy ngyrfa ac yn gwerthfawrogi’r cymorth enfawr a gefais gan y staff a’r myfyrwyr tra’r oeddwn ym Mangor.
 
Les Sayers, KingsfordSmith Consultancy (1978, Mathemateg ac Eigioneg Ffisegol)

 

Oherwydd Bangor... rwyf wedi mynd ymlaen i weithio ar hyd a lled y byd

Yn sicr fe wnaeth Bangor ehangu fy nghyfleoedd gyrfa a rhoi cefndir ariannol cadarn i mi.  Ar wahân i fod yn Athro, mae fy swyddogaethau ymgynghorol a chynghori mewn llawer o sefydliadau yn Ewrop a’r Unol Daleithiau (yn cynnwys y Federal Reserve Bank of Chicago) yn dyst i’r enw da arbennig sydd gan Fangor.                

Santiago Carbo Valverde, Athro Economeg yn yr Universidad de Granada, Sbaen (1993, Economeg)

 

Oherwydd Bangor… rydw i’n dal yn dod yn ôl!

Fe wnes i gyfarfod â Laura, fy ngwraig, ym Mangor ac mae’r cysylltiadau mor glos ag erioed. Dim ond un penwythnos Hen Fechgyn dwi wedi’i cholli mewn 29 mlynedd ac roedd llawer o’r alumni dwi’n eu gweld  eisoes yn Hen Fechgyn pan nad oeddwn i ond yn fyfyriwr. Mae cyfeillgarwch oes wedi datblygu erbyn rhwng ein plant hefyd ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn dod draw i’r hyn a ystyrir yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn. Eleni, fe wnes i gyfarfod â nifer o enethod a adawodd rhyw 6 neu 7 mlynedd yn ôl - maen nhw wedi bod yn dychwelyd bob blwyddyn ers hynny ac yn llwyr fwriadu dal ati i ddod yn ôl. Hefyd gwelais fyfyrwyr blwyddyn olaf sy’n benderfynol o barhau’r traddodiad. Yr ymdeimlad cyffredin yw ‘bod Bangor yn gwneud rhywbeth i chi’. Mae’n gyfuniad o’r lleoliad, y bobl, y cwlwm cyffredin, y tyfu i fyny, yr atgofion, yr hwyl a’r chwerthin ... gallwn fynd ymlaen yn hir.  

Yr hyn sy’n sicr yw bod angen llawer iawn i’m cadw i draw. Fedra i ddim dweud y byddaf yn dal ati i redeg allan ar y cae rygbi yn 51 oed ond, cyn hired ag y gallaf ddal i redeg byddaf yno efo fy nillad! Os oes yna gyfoedion allan yna, pam na wnewch chithau roi cynnig arni?

Tim Clay (1982, Bioleg Môr ac Eigioneg)

 

Oherwydd Bangor… rydw i’n mynd ar bererindod pob blwyddyn

Cymysgedd o bererindod (tebyg i Lourdes, ond bod y dŵr yn dod mewn gwydr peint), adnewyddiad ysbrydol a phenwythnos o hwyl a sbri. Dyna ydi Penwythnos Hen Fechgyn Bangor i mi a bob mis Ionawr byddaf yn ei nodi’n ddeddfol yn fy nyddiadur newydd. Am le gwych i dreulio penwythnos! Sir Fôn, yr olygfa i lawr y Fenai o’r bont, y mynyddoedd, ond pam mynd yn ôl bob blwyddyn? Mae’r ateb yn hawdd – cefais ddigonedd o hwyl tra’r oeddwn yn astudio yno ac mae Penwythnos yr Hen Fechgyn yn estyniad o’r hwyl hwnnw.  

Bydd atgofion yn llifo’n ôl: yr hiwmor crafog, diod, bwyd, mwy o ddiod ond, hefyd, cyfle i ystyried beth sydd wedi dod ohonom ers hynny. Yn fwy na dim, mae fy hen ffrindiau’n fy atgoffa mai rhif yn unig ydi oedran ... er bod fy nghorff yn tynnu’n groes pan fyddaf yn ceisio rhoi tro o amgylch y cae rygbi. Ond mae’r cwestiwn “wyt ti wedi dŵad a dy ddillad?" yn dal yn her, a hir y parhao felly.

Ged Bailes (1978, Seicoleg a TAR)