Newyddion: Mawrth 2016
Mae myfyrwyr bodlon i’w cael ym Mhrifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn parhau i gynyddu ei phoblogrwydd ymysg myfyrwyr. Mae’r Brifysgol wedi llwyddo i aros yn safle 14 ym Mhrydain, ac mae’r Brifysgol yn ail yng Nghymru mewn arolwg newydd ar brofiad myfyrwyr ( Times Higher Education Student Experience Survey 2015 ).
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2016
Dulliau Dylunio Deunyddiau i hwyluso gwneud graffen
Labordy Dynameg Mater dan arweiniad E.M. Mae Campo wedi datblygu dull addawol ar gyfer hwyluso gwneud graffen. Gydag ariannu gan HPC Cymru-Fujitsu a Swyddfa Ymchwil a Datblygu Awyrofod UDA ac Ewrop, mae grŵp Campo yn cyfuno sbectrosgopiau synchroton arbrofol a damcaniaethol i greu'r dyfeisiadau electronig graffen gorau. Bydd y genhedlaeth newydd o ddyfeisiadau yn galluogi cael dyfeisiadau electronig cyflymach, llai a mwy hyblyg y bydd y defnydd arnynt yn amrywio o decstiliau clyfar at ddyfeisiadau llaw.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2016