Newyddion: Mai 2016
Myfyriwr o Brifysgol Bangor ar restr fer am wobr genedlaethol
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr genedlaethol.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mai 2016
Perfformiad rhyfeddol lled-ddargludydd yn chwyldroi maes electroneg hyblyg gyflym iawn
Mae deunyddiau electroneg hyblyg ar gyfer rhyngrwyd pethau ar gael erbyn hyn o ganlyniad i dechnoleg newydd a gafodd ei chreu gan gwmni o Ogledd Cymru, SmartKem Ltd, gyda chymorth gwyddonwyr o Brifysgol Bangor Mae gwyddonwyr yn yr Ysgol Peirianneg Electronig wedi bod yn profi deunydd lled-ddargludydd SmartKem, truFLEX ® , ac wedi dangos sut mae gweithredu mewn ffurf electronig ar yr amleddau sydd eu hangen i wireddu gwneud deunyddiau electroneg hyblyg cyflym iawn. Mae hyn yn agor y drws i ystod eang o bosibiliadau yn y maes hwn.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mai 2016
Dethol myfyrwyr mentergarwch i gynrychioli’r Brifysgol yng Nghystadleuaeth Prifysgolion Santander
Bu myfyrwyr yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i gynrychioli’r Brifysgol yng Nghystadleuaeth Entrepreneuriaeth Prifysgolion Santander . Wedi iddynt gyflwyno’u syniadau busnes neu eu cwmnïau newydd i banel beirniaid ac ymateb i holi manwl ganddynt, bydd y myfyrwyr llwyddiannus yn awr yn cael eu hystyried ar gyfer rhestr fer i ennill y gwobrau drwy Brydain. Cynigir gwobrau o hyd at £15,000, mentora a chefnogaeth i gwmni cychwynnol.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2016