Newyddion: Gorffennaf 2016
Kieran yn gwireddu ei freuddwyd drwy ennill gradd mewn cyfrifiadureg
Mae myfyriwr Cyfrifiadureg, sydd wedi mwynhau pob eiliad o'i amser ym Mhrifysgol Bangor, yn graddio yr wythnos hon. Mae Kieran Bold, 21, o Landrillo-yn-Rhos, wastad wedi bod ag angerdd ynghylch cyfrifiadureg, ac wedi blogio am gemau amrywiol ers iddo fod yn 15 oed.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2016
Myfyriwr Prifysgol Bangor yn ennill grant wnaiff newid ei fywyd i ddatblygu ei syniad technoleg addysg
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi ennill cystadleuaeth genedlaethol i feddwl am syniadau am offer ac apps digidol newydd ar gyfer dysgu.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2016
Llwyddo yn y diwydiant niwclear
Yn ddiweddar mae dau fyfyriwr Prifysgol Bangor o Ogledd Cymru wedi cymryd camau breision at wireddu eu huchelgais o ddilyn gyrfa yn y diwydiant niwclear. Mae Lara Pritchard o Ddinbych, sydd ar hyn o bryd yn cwblhau blwyddyn olaf ei gradd Daearyddiaeth , wedi cael cynnig swydd ddisglair i raddedigion gyda Horizon Nuclear Power a bydd yn dechrau yno ym mis Medi. Bydd Ilan Davies o'r Bala, a fydd yn dechrau ar flwyddyn olaf ei gwrs Meistr Peiriannu Electronig pedair blynedd ym mis Medi, yn un o bump intern o'r Deyrnas Unedig a gaiff gyfle i weithio yn ninas Hitachi yn Japan am dri mis gyda Hitachi-GE Nuclear Energy Ltd.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2016