Newyddion: Chwefror 2018
Hummit, ap newydd gan fyfyriwr o Prifysgol Bangor
Rydym i gyd wedi teimlo’n rhwystredig ar adegau wrth fethu â rhoi enw i gân neu alaw sy’n chwarae yn ein pennau. Wel, mae Joey Elliott, sy’n 22 oed ac yn dod o Groesoswallt, wedi datblygu ‘ap’ i ddatrys eich penbleth! Mae’r ap a ddatblygwyd ganddo yn eich galluogi i ddarganfod enw alaw sy’n troi yn eich pen, megis enw rhyw gân fachog a glywsoch ar y radio, a chithau wedyn yn methu’n lân a chofio beth oedd ei henw neu pwy oedd yn ei chanu. Creodd Joey’r Ap ar ôl profi hyn ei hun, ac mae’n gobeithio datrys y broblem i eraill.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Chwefror 2018
Bwrsariaethau cenedlaethol am dalent beirianyddol i fyfyrwyr Bangor
Mae tair myfyrwraig o Brifysgol Bangor wedi derbyn Bwrsari Peirianneg Gorwelion (Horizons Bursaries) gan yr Institution of Engineering and Technology (IET). Dyfernir y bwrsariaethau i fyfyrwyr sydd yn frwd dros beirianneg ac yn astudio cwrs gradd mewn peirianneg neu dechnoleg sydd wedi’i achredu gan yr IET.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Chwefror 2018
Darganfod ffyrdd newydd o adnabod a thrin canserau mwyaf heriol yr ymennydd
Mae project ymchwil cydweithredol mawr ar draws Ewrop yn defnyddio technoleg newydd i fynd i’r afael â dau o ganserau mwyaf ymosodol yr ymennydd. Mae’r project ymchwil yn cyfuno arbenigedd biolegwyr a pheirianwyr electronig blaenllaw er mwyn datblygu dyfeisiau microtechnoleg arloesol fydd yn y pen draw yn gallu adnabod a thrin bôn-gelloedd canser Glioblastoma multiforme a Medulloblastoma.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Chwefror 2018