Cyllido
Fel myfyriwr ar incwm cyfyngedig mae’n rhaid i chi fod yn ofalus
iawn gyda’ch arian. Mae’n bwysig iawn i chi fel myfyriwr allu
rheoli’ch arian ac mae hefyd yn bwysig eich bod yn dechrau dysgu
clustnodi arian ar gyfer biliau, llyfrau, bwyd a phethau angenrheidiol
eraill er mwyn osgoi mynd i ormod o ddyled. Cofiwch mai mewn rhandaliadau
y byddwch yn cael eich arian yn ôl pob tebyg. Dyna pam ei bod yn
bwysig i chi gynllunio sut y byddwch yn gwario’ch arian. Dylai’r
arian eich cadw hyd ddiwedd y tymor.
Os ydych yn dod i brifysgol yn syth o’r ysgol neu goleg chweched
dosbarth, rydym yn eich cynghori i lunio cyllideb gyda’ch rhieni
gan fod angen iddynt fod yn ymwybodol o’r gwariant fydd gennych.
Dyma ffurflen cyllido gwag i’ch helpu
Os ydych angen help i gyllido neu gyngor ar sut i reoli eich arian, cysylltwch gyda’n Ymgynghorydd Ariannol.
Syniadau da am wneud i'ch arian bara:
- Treuliwch amser yn cynllunio
- Rhestrwch eich gwario hanfodol
- Cadwch gofnod o bopeth ydych yn wario - mae hyn yn help i nodi patrymau gwario rheolaidd/achlysurol
- Cynlluniwch ar gyfer gwariant ychwanegol megis costau dechrau blwyddyn / achlysuron arbennig /pen-blwydd teuluol etc.
- Talwch am gymaint ag y medrwch pan gewch eich Benthyciad Myfyriwr, megis rhent am y semester cyfan, ffioedd dysgu a biliau.
- Prynwch bethau fel llyfrau yn ail law
- Cofiwch y llyfrgell, does dim rhaid i chi brynu pob llyfr ar eich rhestr
ddarllen.
- Cofiwch eich cardiau gostyngiad myfyrwyr
- Agorwch gyfrif banc myfyriwr os nad oes gennych un yn barod
- Os oes raid i chi fenthyca arian, yna defnyddiwch gyfleusterau gorddrafft
am ddim yn unig ond peidiwch ag mynd dros derfyn eich gorddrafft heb ganiatâd.
- Osgoi defnyddio cardiau credyd a chardiau siopau