Fy ngwlad:
Gold Lady Justice Statue on the top of the Old Bailey in London, UK

Wythnos Groeso: Ysgol Y Gyfraith Gogledd Cymru - Cyfiawnder Cymdeithasol (Ôl-raddedig)

Dyma amserlen eich Wythnos Groeso, sy'n cynnwys digwyddiadau sy’n ymwneud â’ch Ysgol/Cwrs Academaidd a digwyddiadau canolog sy’n agored i bob myfyriwr.

Sylwch y gall y digwyddiadau newid, felly cadwch lygad am ddiweddariadau neu ychwanegiadau newydd.

Côd lliw eich amserlen:

I wneud pethau'n haws, rydym wedi creu côd lliw ar gyfer y digwyddiadau.
Noder mai dim ond un digwyddiad Cofrestru a Gwirio ID y bydd angen i chi fynychu, a gallwch ddewis dyddiad ac amser sy'n addas i chi.
Digwyddiad Gorfodol. Mae pob digwyddiad sydd efo'r bloc coch hwn yn orfodol.

Mae Digwyddiadau Gorfodol (bloc coch) yn cynnwys gwybodaeth a gweithdrefnau hanfodol y bydd eu hangen arnoch i lywio eich taith academaidd.

Bloc Melyn. Mae pob digwyddiad sydd wedi ei nodi gyda'r bloc melyn wedi ei argymell i chi ei fynychu

Mae Digwyddiadau a Argymhellir (bloc melyn) yn cynnig cyfleoedd i gwrdd â chyd-fyfyrwyr a staff y Brifysgol, neu i gael gwybodaeth a chymorth ychwanegol ar wella eich profiad myfyriwr.

Students socialising and having BBQ

Mae Digwyddiadau Cymdeithasol (gyda llun) yn ffordd berffaith o wneud ffrindiau, darganfod angerdd newydd, a chreu atgofion yn ystod eich wythnos gyntaf yn y Brifysgol.