Beth yw Diwrnod i Ymgeiswyr?
Hyd yn oed os rydych wedi bod i Ddiwrnod Agored ym Mhrifysgol Bangor, byddwch yn elwa o ddod i Ddiwrnod i Ymgeiswyr. Bydd yn rhoi profiad gwahanol sydd wedi ei deilwro i chi - cewch fynd i sesiwn blasu a chael mwy o fanylion am eich pwnc.
Diwrnodau i Ymgeiswyr 2026
Dal i ystyried eich opsynau ar gyfer Medi 2026?
Os ydych chi dal yn ystyried eich opsiynau ar gyfer Medi 2026, dewch i'r Diwrnod Ymweld ar Ddydd Sul, 26 Ebrill. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu yma.
Beth i'w ddisgwyl ar Ddiwrnod i Ymgeiswyr
Gadewch i ni wybod ymlaen llaw drwy ebostio diwrnodagored@bangor.ac.uk os oes gennych chi, neu rywun fydd gyda chi, anabledd neu broblemau symud, fel y gallwn wneud unrhyw drefniadau angenrheidiol.
Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld - gobeithio y byddem yn gallu eich helpu i wneud eich penderfyniad terfynol.
PAM DEWIS PRIFYSGOL BANGOR?
Yn ogystal â’r addysgu rhagorol a’r adnoddau ardderchog, mae yna lawer o bethau eraill sy’n cyfrannu at wneud y profiad o astudio yma yn un unigryw. Mae awyrgylch gyfeillgar i'r ddinas a chewch gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal â hynny, mae amgylchedd naturiol ein hardal gyfagos yn arbennig!
Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig
[0:04] Croeso i Ddiwrnod Agored Prifysgol Bangor!
[0:07] Welcome to Bangor University Open Day!
[0:29] Fedrwn i ddim meddwl am le gwell i roi hwb i'm gyrfa na Bangor.
[0:35] Dwi'n meddwl ei fod o'r penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed.
[0:51] Dewch i Fangor - rydych yn mynd i garu'r lle!
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?