Modiwl DXC-1004:
Daearyddiaeth Dynol
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Natural Sciences
20.000 Credydau neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1 a 2
Trefnydd: Dr Eifiona Lane
Amcanion cyffredinol
Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i’r prif ddadleuon damcaniaethol a’r prif feysydd o ddiddordeb ym maes Daearyddiaeth Ddynol.
- Datblygu dealltwriaeth o gwmpas a diffiniad Daearyddiaeth Ddynol.
- Darparu trosolwg ar y prif ddadleuon damcaniaethol ym maes daearyddiaeth ddynol.
- Cyflwyno’r prif gysyniadau a’r prosesau sy’n gysylltiedig ag ymwneud pobl â'i gilydd, a chyda’r amgylchedd maent yn byw ynddo.
- Cyflwyno’r cysyniad o ‘gynaliadwyedd’, a'r dadleuon sydd wedi ymddangos mewn perthynas â’r cysyniad.
Cynnwys cwrs
Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i syniadau daearyddol, yn cynnwys rhai o’r cysyniadau canlynol: globaleiddio; gofod a lleoliad; pobl a’r amgylchedd; trefoli; hunaniaeth a gwahaniaeth; poblogaeth; ymfudiad; cynaliadwyedd. Ystyrir y cysylltiad eang ac integredig rhwng pobl a lleoliad a’u hamgylchedd economaidd-gymdeithasol, gwleidyddol, diwylliannol a naturiol.
Meini Prawf
rhagorol
- Gwaith eithriadol, arbennig o ddawnus;
- Cyflwyno'r wybodaeth berthnasol yn gywir;
- Dealltwriaeth ardderchog o elfennau damcaniaethol/cysyniadol/ymarferol; 4. Integreiddio da iawn o theori/ymarfer/gwybodaeth wrth geisio cyflawni amcanion y gwaith a asesir;
- Tystiolaeth gref o ddefnyddio sgiliau creadigol ac adfyfyriol. Mae hyn yn rhoi Safon Ragorol Dosbarth Un A- i A*
trothwy
- Dim bylchau mawr na gwallau mawr wrth gyflwyno’r wybodaeth/sgiliau;
- Rhywfaint o ddealltwriaeth o elfennau damcaniaethol / cysyniadol / ymarferol;
- Integreiddio theori /ymarfer/gwybodaeth wrth geisio cyflawni amcanion y gwaith a asesir. Mae hyn yn rhoi Safon Foddhaol Llwyddo: D- i D+
dda
- Llawer neu’r rhan fwyaf o’r wybodaeth a’r sgiliau perthnasol wedi’u cyflwyno'n gywir;
- Dealltwriaeth dda/ddigonol o elfennau damcaniaethol/cysyniadol/ymarferol;
- Cyfuno theori/ymarfer/gwybodaeth yn dda/foddhaol wrth gyflawni amcanion y gwaith a asesir;
- Tystiolaeth o ddefnyddio sgiliau creadigol ac adfyfyriol. Mae hyn yn rhoi Safon Uchel Llwyddo: C- i B+
Canlyniad dysgu
-
Defnyddio cysyniadau a safbwyntiau damcaniaethol Daearyddiaeth Ddynol yn feirniadol gydag amrywiaeth o enghreifftiau o'r byd go iawn.
-
Deall cwmpas a diffiniad Daearyddiaeth Ddynol.
-
Disgrifio a gwerthuso cyfraniad prif safbwyntiau damcaniaethol Daearyddiaeth Ddynol.
-
Asesu’r safbwyntiau gwahanol y mae daearyddwyr dynol wedi eu defnyddio i egluro’r prif brosesau sy’n gysylltiedig ag ymwneud pobl â’r amgylchedd.
-
Disgrifio cyd-destun y dadleuon am gynaliadwyedd, ac asesu cyfraniad gwahanol ddamcaniaethwyr at y dadleuon hynny.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
TRAETHAWD DAEARYDDIAETH DYNOL | 25.00 | ||
ADRODDIAD GWAITH MAES | 25.00 | ||
ARHOLIAD | 50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | 18 darlith x 2 awr |
36 |
Fieldwork | Ymweliad maes semester 1 - 8 awr |
9 |
Fieldwork | Ymweliad maes semester 2 - 9 awr |
8 |
Private study | Astudio unigol. |
147 |
Rhagofynion a Chydofynion
Rhagofynnol ar gyfer:
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- CL83: BA Sociology/Psychology year 1 (BA/PS)
- L300: BA Sociology year 1 (BA/S)
- L31B: BA Sociology (4 year with Incorporated Foundation) year 1 (BA/S1)
- 3L3Q: BA Sociology and English Literature year 1 (BA/SEL)
- L30F: BA Sociology [with Foundation Year] year 1 (BA/SF)
- LV31: BA Sociology/History year 1 (BA/SH)
- 8Y70: BA Sociology (with International Experience) year 1 (BA/SIE)
- L402: BA Social Policy year 1 (BA/SOCPOL)
- L40F: BA Social Policy [with Foundation Year] year 1 (BA/SOCPOLF)
- L30P: BA Sociology with Placement Year year 1 (BA/SOP)
- LVH2: BA Welsh History/Sociology year 1 (BA/WHS)
- LQ35: BA Cymraeg and Sociology year 1 (BA/WS)