Graddio 2024

Gwyliwch y seremonïau Graddio yn fyw

#GraddioBangor: dyddiadau seremoniau, amserlen a gwybodaeth allweddol

Bydd y dolenni hyn yn fyw ym mis Hydref2024

Cofrestru yma; Myfyriwr Presennol

Cofrestru yma; Cyn-fyfyriwr

Mae angen i'r holl fyfyrwyr sydd â hawl i ddod i'r Seremonïau Graddio roi gwybod i ni erbyn 9yb TBC a fyddant yn dod i'r seremoni neu beidio. Dilynnwch y bwtwm 'Cofrestru Yma' (i'r dde) o TBC ymlaen er mwyn cofrestru

Ni chaniateir i fyfyrwyr fynychu'r seremoni os nad ydynt wedi cofrestru eu presenoldeb erbyn TBC

Ar y diwrnod:

 Mae'r holl Seremonïau'n cael eu dangos yn fyw ar wefan y Brifysgol felly gellir eu gwylio'n fyw.

Dylai myfyrwyr yn unig gyrraedd y Prif Ddarlithfa'r Celfyddydau o leiaf 90 munud cyn ddechrau'r seremoni i gofrestru eu presenoldeb,

Mae mynediad i'r seremoni ar gyfer pob gwestai DRWY DOCYN YN UNIG Nid oes ar fyfyrwyr angen tocyn. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn hoffi dod â ffrindiau a theulu gyda nhw i'w seremoni raddio. Gan fod nifer y seddi yn Neuadd Prichard-Jones yn gyfyngedig, ni allwn warantu ond DAU DOCYN GWESTAI i bob myfyriwr os ydych yn archebu erbyn TBC

Gallwch archebu tocynnau ar-lein drwy'r ddolen yn yr ebost

Os methwch â phrynu'ch tocynnau gwesteion erbyn (TBC)  ni allwn warantu y bydd eich gwesteion yn gallu bod yn bresennol yn y seremoni.

Os daw unrhyw docynnau ychwanegol ar gael ar gyfer unrhyw rai o'r seremonïau, caiff y rhain Ar-lein am 9yb TBC drwy ddilyn y ddolen wreiddiol a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru eich presenoldeb. Bydd y tocynnau'n costio (am ddim) yr un a chyfyngir hwy i ddau docyn ychwanegol i westeion i bob myfyriwr. Os bydd tocynnau ychwanegol ar gael fe'u gwerthir ar sail y cyntaf i’r felin.

Dim ond ar-lein y gellir prynu tocynnau

I anfonir y tocynnau atoch trwy’r post, byddant ar gael i’w casglu ar ddiwrnod eich seremoni o Brif Ddarlithfa’r Celfyddydau.

Casglu Tocynnau

Bydd holl docynnau gwesteion ar gael i’w casglu wrth y ddesg cofrestru myfyrwyr ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau.

Mae'n rhaid i docynnau gael eu casglu 30 munud cyn dechrau'r seremoni.

Ym Mhrifysgol Bangor mae graddio'n achlysur teuluol ac mae croeso i blant ddod i'r seremoni.  Fodd bynnag, mae'n rhaid i oedolyn fod efo nhw. Mae'r seremonïau’n para oddeutu 90 munud ac rydym wedi gweld trwy brofiad bod plant yn diflasu a mynd yn aflonydd; felly nid ydynt yn addas i blant ifanc iawn.  O ran parch at westeion eraill rydym yn gofyn am i blant gael eu hebrwng allan o'r neuadd os byddant yn mynd yn aflonydd yn ystod y seremoni rhag iddynt darfu ar y digwyddiadau a mwynhad gwesteion eraill.

Rhaid i blant dan 3 oed (dim mwy na dau i bob myfyriwr) eistedd ar lin oedolyn ac nid ar sedd.  Nid oes angen tocyn arnynt. Rhaid i blant 3 oed a hŷn gael tocyn  i westeion i gael mynd i'r seremoni.Os ydych yn dod â babi sy'n dal mewn pram neu goets fach i'r seremoni, a fyddech cystal â nodi hynny pan fyddwch yn prynu eich tocynnau.  Gofynnir i chi p'un a ydyw unrhyw rai o'ch gwesteion angen unrhyw drefniadau arbennig. Ein cyngor yw i blant wylio'r seremoni o Brif Ddarlithfa'r Celfyddydau, lle nad oes angen tocynnau.

Gwesteion ychwanegol:

Mae croeso i chi ddod â gwesteion ychwanegol a gallant wylio’r seremoni a ddarlledir ar sgrin fawr mewn darlithfa gerllaw - nid oes angen tocynnau ar gyfer hyn

 

Mae graddio yn achlysur ffurfiol ac mae gofyn i fyfyrwyr wisgo gwisg academaidd.

Mae'r wisg yn cael ei harchebu drwy Ede and Ravenscroft fan yma o TBC ymlaen Gwisg Academaidd. Dyddiad cau i archebu ar-lein yw TBC

Mae'r dyddiadau ar gyfer Seremoniau y Gaeaf wedi'u cadarnhau fel 19 & 20 Rhagfyr 2024

Bydd union dyddiad ac amser pob ysgol yn cael eu gadarnhau yn gynnar ym mis Hydref

Bydd Myfyrwyr rhyngwladol sydd angen llythyr fisa ar gyfer eu gwesteion yn gallu trefnu hyn wrth archebu tocynnau gwestai ar lein ym mis Hydref.

Cyfle i longyfarch ein Graddedigion a rhannu eich dathliadau Graddio.

Defnyddiwch #GraddioBangor a #PrifysgolBangor ar Instagram neu Twitter - gall ymddangos yma.

A group of students throwing their caps in their air after their graduation ceremony

Cwestiynau Cyffredin

Dewch o hyd i atebion am yr holl gwestiynau cyffredin ynglŷn â'n seremonïau graddio.

A group of female students in taking a selfie on their graduation day

WEDI I CHI RADDIO

Wedi i chi raddio byddwch yn aelod o'n cymuned alumni am byth. Bydd ein Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni yn cadw mewn cysylltiad â'n holl alumni wedi i chi raddio fel ein bod yn gallu eich diweddaru ar ddatblygiadau'r Brifysgol a rhoi gwybod i chi am unrhyw ddigwyddiadau penodol ar gyfer ein alumni.

Bwrdd wedi ei osod ym mwyty Teras ym Mhrif Adeilad y Brifysgol

Cinio Graddio

Dewch i ddathlu eich graddio mewn steil ym mwyty 1884 yn y Ganolfan Rheolaeth.  Gyda golygfa hyfryd dros y Fenai, mae ein bwyty lled-ffurfiol yn helpu i greu awyrgylch braf i ddathlu ac mae'n lle perffaith i ddod â'ch gwesteion.

Bwydlen Graddio

Newyddion Graddio

Grŵp o ferched yn gwenu i'r camera yn ystod diwrnod graddio

Lluniau Grŵp Graddio 2023

 

Mae Lluniau Grŵp - Seremonïau Graddio Haf  2023 nawr ar gael i chi eu gweld a’u prynu drwy ddolen Ede & Ravenscroft isod:

Memorabilia

Rwyt ti wedi cael y radd, dim ond prynu'r crys-t sydd ei angen nawr! Rydym wedi ymuno â’r anhygoel Campus Clothing i ddarparu ystod unigryw o Anrhegion a Dillad Graddio Swyddogol wedi’u brandio. O hwdis moethus a chrysau-t gydag enwau graddedigion wedi'u hargraffu ar y cefn, mygiau, a bathodynnau pin. Dewiswch rywbeth arbennig i'w gadw i gofio'ch seremoni radio. Gallwch hyd yn oed ei bersonoleiddio i wneud i'ch enw sefyll allan hefyd!

Dewch i ymweld â stondin cyfeillgar Campus Clothing yn eich seremoni raddio, lle bydd casgliad o nwyddau graddio ar gael i'w prynu. Bydd yr holl stoc ar gael ar sail y cyntaf i’r felin gaiff falu. Gallwch hefyd archebu eitemau yr hoffech eu personoli yn y digwyddiad.

Fel arall, porwch yr ystod lawn o Anrhegion a Dillad Graddio ac archebwch nwyddau graddio wedi’u personoleiddio ar-lein i'w danfon gartref.

Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG

Cysylltwch â ni

Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?