Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Athro yn ymuno â bwrdd adolygwyr cyfnodolyn rhyngwladol blaenllaw

Mae Athro ym Mhrifysgol Bangor wedi cael ei gwahodd i ymuno â Bwrdd Adolygwyr cyfnodolyn o fri byd-eang.

Mae'r Athro Astrid Ensslin yn Athro Diwylliant Digidol a Chyfathrebu yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau.

Caiff Game Studies ei ystyried fel y cyfnodolyn gorau yn ei faes, a gwelir ei sefydlu yn 2001 fel man cychwyn astudiaethau gemau fel disgyblaeth. 

Golygydd y cyfnodolyn yw Espen Aarseth, a ystyrir gan lawer fel tad Astudiaethau Gemau.

Cyhoeddwyd llyfr diweddaraf yr Athro Astrid, Literary Gaming gan MIT Press yn gynharach eleni.  Mae ei hymchwil presennol yn ymwneud â darllen ffuglen ddigidol (a gyllidir gan yr AHRC) a gemau llenyddol. 

Gellir gweld aelodaeth lawn y Bwrdd Adolygwyr yma.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Rhagfyr 2014