Raglenni MRes
Golwg Gyffredinol ar Raglenni MRes
I fyfyrwyr sydd eisiau cael hyfforddiant helaethach mewn ymchwil yn y gwyddorau chwaraeon, iechyd ac ymarfer, rydym yn awr yn cynnig rhaglenni MRes* (yn amodol ar gael eu dilysu).Mae gan y rhain lai o fodiwlau hyfforddedig a mwy o elfen ymchwil nag MSc.
Mae ein rhaglenni MRes wedi eu hanelu at fyfyrwyr a all fod â diddordeb mewn gyrfa PhD/ymchwil. Maent wedi’u cynllunio i roi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o egwyddorion a defnyddio cynlluniau ymchwil a dulliau dadansoddol perthnasol i'w disgyblaeth wyddonol. Bydd myfyrwyr hefyd yn dysgu ynghylch pwysigrwydd cynnal ymchwil gan gyfeirio at ganllawiau moesegol a rheolaethol, a datblygu eu dealltwriaeth o ddamcaniaethau ymchwil cyfoes y ddisgyblaeth o’u dewis. Mae’r rhaglenni newydd hyn yn hwyluso cyfuno theori ac ymarfer proffesiynol a thrwy gydol y rhaglenni mae’r broses ymchwil a phwyslais ar fyfyrwyr yn dysgu’n annibynnol yn dod yn gynyddol bwysig.
O fewn fframwaith modiwlaidd mae myfyrwyr yn gwneud modiwlau gorfodol mewn Sgiliau Ymchwil a Dulliau Ymchwil Ansoddol ac yn dewis o blith modiwlau dewisol mewn Ffisioleg Ymarfer Clinigol, Seicoleg Chwaraeon, Seicoleg Ymarfer, Hyfforddi Effeithiol, Ffisioleg Perfformio, Anabledd ac Adferiad neu Adferiad Athletwyr Anafus, yn ôl y rhaglen a ddewiswyd, hyd at gyfanswm o 60 credyd. Mae’r Project Ymchwil terfynol gorfodol yn 120 credyd.
Ceir tri llwybr:
- Ffisioleg Chwaraeon ac Ymarfer (MRes)*
- Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer (MRes)*
- Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer (MRes)*
* yn amodol ar ddilysu
I rai sydd eisiau dilyn gradd ymchwil yn unig, mae rhaglenni MPhil a PhD ar gael.
Efrydiaeth Meistr drwy Ymchwil (MRes) - Ychwanegu Creatin wrth drin Cachexia Rhiwmatoid
Mae Dr Tom O’Brien a’r Athro Andy Lemmey yn gwahodd ceisiadau am efrydiaeth MRes lawn-amser yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, yn dechrau ym mis Medi 2012.
Manylion y project
Mae cyhyrau hyd at ddwy ran o dair o gleifion ag arthritis rhiwmatoid wedi gwywo. Gelwir hyn yn cachexia rhiwmatoid, ac mae’n cyfrannu’n fawr at yr anabledd sy’n nodweddiadol o arthritis rhiwmatoid. Bydd y project hwn yn ymchwilio i weld a yw ychwanegu creatin trwy’r geg yn driniaeth effeithiol i cachexia rhiwmatoid, trwy asesu a yw’n cynyddu mas y cyhyrau ac yn gwella gweithredu corfforol, ac ymchwilio i’r addasiadau biocemegol a moleciwlaidd ar yr un pryd.
Cyd-destun
Mae grŵp ymchwil ReMeDES (grŵp ymchwil Cachexia gynt) sy’n cynnal yr astudiaeth hon, yn adnabyddus o amgylch y byd am ei waith ar drin ac adfer clefydau cyhyrysgerbydol. Yr ysgol yw un o’r adrannau gorau un sy’n gysylltiedig â phynciau chwaraeon ym Mhrydain a chaiff ei chydnabod am ansawdd ei hymchwil. Rhoddwyd yr ysgol yn y 10 uchaf yn y DU yng nghategori gwyddorau chwaraeon Ymarfer Asesu Ymchwil 2008 ac yn ail ymysg y sefydliadau a gyflwynodd o leiaf 80% o’u staff. Mae’r ysgol mewn lleoliad hyfryd ar lannau’r Fenai ger mynyddoedd Eryri.
Gwerth
Telir ffioedd dysgu llawn yr ymgeisydd llwyddiannus a chaiff hefyd lwfans cynhaliaeth gwerth £2,500. Ni fydd unrhyw lwfansau eraill yn daladwy. Disgwylir i ymgeiswyr llwyddiannus am efrydiaethau roi tua 60 awr y flwyddyn o wasanaeth dysgu/cymorth ymchwil i oruchwyliwr/tîm ymchwil. Bydd hyn yn rhan o’u datblygiad fel academyddion y dyfodol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn gymwys i ymgeisio am fwrsariaeth arall gwerth £1,000 a roddir i bawb gyda gradd israddedig ddosbarth gyntaf ac a ddyfarnir yn ôl teilyngdod i rai gyda gradd israddedig 2:1. Os caiff y project ei gwblhau’n llwyddiannus, bydd y grŵp ymchwil yn ceisio am gyllid ychwanegol er mwyn i'r ymgeisydd fynd ymlaen i astudio am PhD.
Gofynion Ymgeiswyr
Fel rheol bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn meddu ar radd anrhydedd ddosbarth gyntaf ym maes ymarfer neu iechyd neu faes cysylltiedig, y gallu i weithio'n annibynnol gyda chefnogaeth gan oruchwyliwr, a'r brwdfrydedd i gyfrannu at amgylchedd ymchwil cyffrous.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Dr Tom O’Brien, Thomas.Obrien@bangor.ac.uk.
Gwneud cais
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener, 27 Gorffennaf 2012.
Llenwch y ffurflen gais electronig sydd ar gael yn: www.bangor.ac.uk/courses/postgrad/research/apply_research.php.en
Rhowch "Tom O'Brien, MRes Creatine Supplementation in the Treatment of Rheumatoid Cachexia" ar eich cais.