Rhaglenni MSc
Golwg Gyffredinol ar Raglenni MSc
Mae ein rhaglenni MSc wedi eu dylunio i fod yn hyblyg a pherthnasol i anghenion a diddordebau’r unigolyn, gyda phwyslais cryf ar gymhwysiad damcaniaeth i ymarfer proffesiynol.
Bydd rhaid i fyfyrwyr astudio modiwlau craidd mewn Dulliau Ymchwil a dewis modiwlau opsiynol mewn Seicoleg, Seicoleg Chwaraeon, Seicoleg Ymarfer Corff, Cinseicoleg, Hyfforddi Effeithiol neu adferiad athletwyr wedi eu hanafu, yn ôl y rhaglen. Gellir hefyd wneud profiad dan oruchwyliaeth*, astudiaeth annibynnol, a thraethawd hir sy’n berthnasol i’r rhaglen a dewiswyd.
* Mae’r modiwl hwn yn eich paratoi tuag at y flwyddyn gyntaf o Brofiad dan Oruchwyliaeth Cymdeithas Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain.
Mae yna 5 llwybr:
- Gwyddorau Chwaraeon Cymhwysol;
- Ffisioleg Chwaraeon ac Ymarfer Gymhwysol;
- Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Gymhwysol;
- Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer**
- Adferiad Ymarfer Corff.
** Cydnabyddedig gan y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig.
Rydym yn falch o fod yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon cyntaf ym Mhrydain i dderbyn y cydnabyddiaeth gan y BPS am y rhaglen MSc yma.