Darganfyddwch ein Cyrsiau Israddedig
Pam Astudio Sŵoleg?
Mae Prifysgol Bangor yn swatio rhwng y mynyddoedd a'r môr ac felly dyma'r dewis amlwg i unrhyw un sydd eisiau astudio Sŵoleg gan fod ein lleoliad yn darparu'r labordy naturiol gorau yn y Deyrnas Unedig. Does dim rhaid i'n myfyrwyr deithio i ymweld â safleoedd maes pwysig ac amrywiol yn ystod eu cwrs - maent ar garreg ein drws. Taith o ychydig funudau yn unig yw godre mynyddoedd Eryri a glannau Môn.
Trwy gydol eich gradd byddwch yn elwa o fod yn agos at amrywiaeth mor eithriadol o gynefinoedd tir, môr a dŵr croyw.
Mae Prifysgol Bangor hefyd yn eithaf unigryw am fod gennym amgueddfa astudiaethau natur ein hunain, gardd fotaneg, acwaria dŵr croyw a dŵr môr, casgliad o nadroedd gwenwynig, labordy pridd tanddaearol mwyaf Ewrop, adardai, llong ymchwil, a fferm ymchwil weithredol - ac mae pob un ohonynt yn cael eu defnyddio'n gyson at ddibenion addysgu ac ymchwil.
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Swoleg.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Swoleg llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Swoleg ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Swoleg ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?
Ein Hymchwil o fewn Sŵoleg
Mae darlithwyr ac ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor yn gwneud ymchwil i nifer fawr o feysydd sŵolegol, ac mae'r gwaith hwnnw yn mynd â nhw i bob cwr o'r byd. Rydym yn annog myfyrwyr i ymwneud â nifer o'r projectau hyn ac i fanteisio ar y cyfleusterau blaengar sydd ar gael yma. Mae gennym sylfaen ymchwil helaeth a thrwyadl sy'n cynnwys ecoleg foleciwlaidd, biogeocemeg a gwyddor planhigion, ffisioleg, ymddygiad a chadwraeth anifeiliaid. microbioleg, parasitoleg a biotechnoleg, geneteg pysgodfeydd, DNA hynafol, bioleg esblygiadol a chadwraeth, biogeocemeg, biohydrofeteleg, biocemeg cynnyrch planhigion a ffisioleg straen (planhigion), biogeocemeg gwlypdiroedd, niwroffisioleg anifeiliaid cramennog, niwroffisioleg anifeiliaid cramennog, ymatebion anifeiliaid i straen a microbioleg gymhwysol.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.