Darganfyddwch ein Cyrsiau Israddedig
Pam Astudio Bioleg?
Cewch eich dysgu gan staff o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol sy'n arbenigwyr yn eu maes. Mae ein myfyrwyr yn mwynhau bod yma ac rydym yn ymfalchïo yn ansawdd y dysgu a'r gofal bugeiliol a gynigiwn. Mae gennym draddodiad hir o ddysgu ac ymchwil ym maes gwyddorau biolegol.
Mae ein hymchwil yn newid y byd ym meysydd Systemau Daear a Gwyddorau’r Amgylchedd. Rydym wedi ein gosod yn 1af yn y Deyrnas Unedig am effaith ein hymchwil. Gydag un o'r grwpiau mwyaf o wyddonwyr amgylcheddol yn y Deyrnas Unedig, mae ein hymchwil wedi'i restru yn chweched yn y Deyrnas Unedig ac yn 1af yng Nghymru am bŵer ymchwil.
Mae gennym adnoddau rhagorol ar y campws ar gyfer astudio fflora a ffawna, sy'n cynnwys ein hamgueddfa hanes natur ein hunain, gardd fotaneg, acwaria dŵr croyw a morol, casgliad o nadroedd gwenwynig, labordy pridd tanddaearol mwyaf Ewrop, adardai, llong ymchwil sy'n mynd dros y môr, a fferm ymchwil weithredol - y mae pob un ohonynt yn cael eu defnyddio'n gyson at ddibenion dysgu ac ymchwilio.
Yn eich ail flwyddyn, gallwch ddewis astudio mewn prifysgol yn yr Unol Daleithiau am y flwyddyn gyfan neu ran ohoni.
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?
Ein Hymchwil o fewn Bioleg
Rydym yn cefnogi ymchwil helaeth a thrylwyr ym maes gwyddorau biolegol, yn cynnwys ecoleg foleciwlaidd, biogeocemeg a gwyddor planhigion ffisioleg, ymddygiad a chadwraeth anifeiliaid , microbioleg, parasitoleg a biotechnoleg geneteg pysgodfeydd, DNA hynafol, bioleg esblygiadol a chadwraeth, biogeocemeg, biohydrofeteleg, biogemeg cynnyrch planhigion, ffisioleg straen (planhigion), biogeocemeg gwlypdiroedd, niwroffisioleg anifeiliaid cramennog, ymatebion anifeiliaid i straen a microbioleg gymhwysol.
Rydym yn derbyn cefnogaeth ariannol sylweddol gan y cynghorau ymchwil, elusennau, adrannau'r llywodraeth, y Comisiwn Ewropeaidd a diwydiannau ym Mhrydain a thramor. Mae ein sylfaen ôl-ddoethurol yn cael ei chryfhau gan gymrodoriaethau a noddir yn unigol gan yr NERC a'r CE (e.e. Marie-Curie). Mae ein diddordebau amrywiol yn hwyluso cyfnewid syniadau a thechnegau rhyngddisgyblaethol ac yn hyrwyddo cydweithredu yma ym Mangor a chyda cydweithwyr mewn sefydliadau a diwydiannau eraill, yn y DU a thramor.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.