CAMWCH FEWN I FYD O BOSIBILIADAU
O feistroli’r rhifau mewn Cyfrifeg i archwilio bywyd ei hun drwy Sŵoleg, gyda'n dewis eang o bynciau rydych yn siŵr o ddod o hyd i’r un perffaith i chi. Beth bynnag yw eich angerdd, darganfyddwch y cwrs a fydd yn siapio eich dyfodol ac yn lansio eich gyrfa.
israddedigÔl-raddedig trwy ddysgu ymchwil ôl-raddedig cyrsiau byr a datblygiad proffesiynol
[0:00] Mae Prifysgol Bangor,
[0:03] yn bwerdy ymchwil
[0:06] sy'n ysgogi newid.
[0:08] Mae ein darganfyddiadau yn llunio'r byd heddiw gyda ffocws ar
[0:11] gynaliadwyedd,
[0:13] diogelu'r amgylchedd,
[0:15] a hyrwyddo bywiogrwydd economaidd, cymdeithasol, dwyieithog a diwylliannol.
[0:20] Mae ein hymchwil yn chwilio am atebion i rai o broblemau mwyaf heriol y byd
[0:24] O wella iechyd a lles,
[0:27] i ddatblygu'er economi 5G byd-eang.
[0:30] a chanfod atebion ynni i'r dyfodol.
[0:33] Gweithio mewn partneriaeth â llunwyr polisi, diwydiant, busnesau a chymunedau
[0:37] Cefnogi'r sector Gwyddorau Bywyd
[0:41] ac ymchwil perfformiad dynol mewn Gwyddorau Chwaraeon
[0:45] Mae Bangor yn datblygu technolegau a gwytnwch ym maes ynni niwclear a meddygaeth,
[0:48] trwy ein Sefydliad Dyfodol Niwclear blaenllaw.
[0:52] Mynd i'r afael â newid Hinsawdd
[0:55] gydag ymchwil i ynni carbon isel.
[0:58] Ymdrin ag un o faterion amylcheddol mwyaf y blaned
[1:01] gwastraff plastig a gorddefnyddio plastigau untro
[1:04] a gwarchod yr amrywiaeth o rywogaethau ac ecosystemau
[1:08] trwy ymchwil cadwraeth bioamrywiaeth.
[1:12] Mae ein hymchwil ar Gymru, y Gymraeg a sgiliau ieithyddol
[1:16] yn ysbrydoli cenedl ddwyieithog fywiog.
[1:21] Mae ein darganfyddiadau yn llywio addysgu
[1:24] gan alluogi myfyrwyr i ddysgu am ymchwil mewn amser real
[1:28] Mae ein hymchwilwyr yn rhannu ethos sy'n croesawu
[1:31] dewrder
[1:32] uniondeb
[1:33] cydweithio
[1:34] hyder
[1:35] ac ymddiriedaeth
[1:36] gydag agwedd fyd-eang
[1:38] sy'n ein helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.
[1:42] Ymchwil
[1:43] wrth wraidd ein gwaith
[1:45] Ers 1884
DOD O HYD I GWRS
Rydym yn cynnig cyrsiau yn y gwyddorau, celfyddydau, dyniaethau, busnes a'r gyfraith.
Testun: DYMA
Disgrifiad Gweledol: Clip fideo drôn ysgubol wedi'i saethu dros Afon Menai, gyda Phorthaethwy i'r dde a Bangor i'r chwith. Mae Pont Menai yn sefyll yn y canol o dan awyr glir.
Testun: BRIFYSGOL
Disgrifiad Gweledol: Mae myfyriwr yn darllen ar fainc o flaen adeilad Hen Goleg Prifysgol Bangor ar ddiwrnod heulog, braf.
Testun: BANGOR
Disgrifiad Gweledol: Prif Adeilad y Celfyddydau Prifysgol Bangor, wedi'i fframio gan goed yng nghanol y ddinas ar ddiwrnod braf.
Testun: Lle mae uchelgais a pherthyn yn cyfarfod
Disgrifiad Gweledol: Myfyriwr yn sefyll y tu allan i adeilad Cerddoriaeth y brifysgol, yn edrych yn uniongyrchol i'r camera ac yn siarad â'r gwyliwr.
Testun: Mae Bangor wedi ei amgylchynu gan harddwch syfrdanol
Disgrifiad Gweledol: Triawd o fideos drôn o Eryri wedi’u cyflwyno mewn arddull taflunydd ffilm retro, yn dangos Llyn Padarn yn Llanberis, Yr Wyddfa, a chopa’r Wyddfa.
Testun: Ni allwch helpu ond cael eich ysbrydoli
Disgrifiad Gweledol: Myfyriwr yn cerdded heibio'r murlun lliwgar y tu allan i Pontio, gan edrych yn syth i'r camera a siarad â'r gwyliwr.
Testun: O leoedd tawel
Disgrifiad Gweledol: Dilyniant o bum llun:
– Chwe myfyriwr yn ymarfer ioga yng Ngardd Fotaneg Treborth.
– Myfyriwr yn astudio coeden yng Ngardd Fotaneg Treborth.
– Pedwar myfyriwr yn cymdeithasu ac ymlacio wrth Bont Menai.
– Myfyriwr yn padlfyrddio ar Lyn Padarn.
– Grŵp o bedwar myfyriwr yn tynnu hunlun ar draeth Aberffraw.
Testun: I leoedd anturus
Disgrifiad Gweledol: Fideo o’r Gymdeithas Beicio Mynydd yn beicio ar drac Braichmelyn, gyda dau ohonynt yn reidio dros ramp.
Testun: Dwi'm jest yn astudio mewn lle hardd, dwi'n dysgu ganddo
Disgrifiad Gweledol: Mae myfyriwr yn cerdded drwy Lyfrgell Shankland, yn dal llyfr melyn ac yn edmygu'r ystafell. Mae'n oedi wrth ffenestr, gan edrych ar olygfa ddinas Bangor, a gyflwynir mewn arddull taflunydd ffilm retro
Testun: Mae dysgu yma yn fwy na mynd i ddarlithoedd, yn fwy na darllen llyfrau
Disgrifiad Gweledol: Mae'r un myfyriwr yn eistedd yn Llyfrgell Shankland, yn edrych yn uniongyrchol i'r camera ac yn siarad â'r gwyliwr. Mae'n gorffen trwy orchuddio lens y camera yn chwareus â'i llyfr.
Testun: Mae'n ymarferol, mae'n fyw;
Disgrifiad Gweledol: Mae myfyrwraig yn codi het galed i ffwrdd o'r camera ac yn ei rhoi ar ei phen. Mae hi'n cerdded ar hyd y bont i fynd ar long ymchwil y brifysgol, y Prince Madog, ac yn edrych yn syth i'r camera.
Testun: Mae’n seiliedig ar y syniadau diweddaraf
Disgrifiad Gweledol: Dilyniant o dri fideo:
– Clip fideo drôn o'r Prince Madog yn teithio tuag at Bont Menai ar Afon Menai.
– Trafodaeth rhwng tri myfyriwr a dau aelod o staff academaidd ar y llong.
– Clip o academydd yn cymryd rhan mewn trafodaeth fywiog gyda myfyriwr.
Testun: Mae'n cael ei arwain gan bobl efo breuddwydion mawr;
Disgrifiad Gweledol: Mae pedwar myfyriwr ac aelod o staff academaidd yn hyfforddi yn yr ystafell sgiliau clinigol yn Fron Heulog. Mae myfyriwr arall yn tynnu gwaed o fannequin yn adeilad Brigantia.
Testun: Academyddion sy'n trawsnewid diwydiannau gyda'u darganfyddiadau
Disgrifiad Gweledol:
Dilyniant o ddeg llun:
– Athro a dau fyfyriwr yn samplu morfeydd heli yng Nghanolfan Henfaes, gydag Ynys Seiriol yn y cefndir.
– Llun agos o’r un athro yn samplu.
– Dau fyfyriwr yn dadansoddi canfyddiadau mewn labordy.
– Llun agos o fyfyriwr yn defnyddio bwrdd anatomeg.
– Llun uwchben o’r un myfyrwyr yn defnyddio’r bwrdd.
– Myfyrwyr nyrsio yn defnyddio rhithrealiti yn ystod hyfforddiant.
– Myfyriwr yn archwilio sbesimen.
– Myfyriwr yn y labordy ERP yn gwisgo cap monitro.
– Athro a myfyriwr yn dal model o’r ymennydd dynol mewn labordy
Testun: Yn mynd i’r afael â heriau
Disgrifiad Gweledol: Mae myfyriwr cyfraith mewn wig a gŵn bargyfreithiwr yn cymryd rhan mewn sesiwn yn Ffug Lys y brifysgol.
Testun: Yn newid y byd
Disgrifiad Gweledol: ‘Time-lapse’ o aelod o staff academaidd a dau fyfyriwr yn defnyddio'r sganiwr delweddu yn Uned Delweddu Bangor.
Testun: Mewn dosbarthiadau sy'n ddigon bach i deimlo bod fy llais yn cael ei glywed
Disgrifiad Gweledol: Myfyriwr yn cymryd rhan mewn seminar busnes yn y Co-Lab yn Pontio, yn edrych yn uniongyrchol i'r camera ac yn siarad â'r gwyliwr. Yna mae pedair delwedd llonydd yn dangos myfyrwyr a staff academaidd mewn trafodaeth fywiog.
Testun: Mewn sgyrsiau sy'n sbarduno syniadau
Disgrifiad Gweledol: Dau fideo o academydd yn rhyngweithio â myfyrwyr yn Derfynell Bloomberg y brifysgol.
Testun: A chreu cysylltiadau sy'n agor drysau.
Disgrifiad Gweledol: Dilyniant o dri chlip:
– Clip fideo drôn yn agosáu at M-SParc yng Ngaerwen.
– Fideo o un person yn siarad yn ardal gyffredin M-SParc.
– Fideo o'r person arall yn gwrando ac yn ymateb.
Testun: Dyma lle mae fy niddordebau’n cael eu meithrin;
Disgrifiad Gweledol: Tîm pêl-fasged y brifysgol yn chwarae gêm yng Nghanolfan Brailsford, gan orffen gyda ‘slam dunk’.
Testun: Lle rydwi'n troedio llwybr fy hun a dilyn fy mreuddwydion
Disgrifiad Gweledol: Mae myfyriwr yn cerdded i fyny Chwarel Dinorwig yn Llanberis, gan oedi i siarad yn uniongyrchol â'r camera. Yna ddilyniant o dri llun:
– Dau fyfyriwr yn cerdded tuag at Gastell Dolbadarn.
– Yr un myfyrwyr yn archwilio Chwarel Dinorwig gyda'r Wyddfa yn y cefndir.
– Llun agos o'r myfyrwyr yn gwenu ar ei gilydd wrth ymyl Llyn Padarn.
Testun: Yma rwy’n gwneud ffrindiau – y math sy’n para oes
Disgrifiad Gweledol: Grŵp o fyfyrwyr yn rhannu pitsa ac yn cymdeithasu mewn ‘pizzeria’ ym Mangor Uchaf, ac yna dau fyfyriwr yn gwenu ac yn cofleidio y tu allan i Pontio.
Testun: Rydw i’n cael fy nghefnogi, fy annog a’m codi, bob cam o’r ffordd;
Disgrifiad Gweledol: Dilyniant o bedwar clip fideo:
- Mae aelod o staff academaidd yn sgwrsio'n gynnes gyda myfyrwyr yng Nghaffi Cegin Pontio.
- Clip fideo agos o fyfyriwr yn gwenu yn yr un drafodaeth.
- Dau fyfyriwr yn chwerthin gyda'i gilydd ar draeth Aberffraw.
- Myfyrwyr yn cerdded heibio’r murlun lliwgar y tu allan i Pontio, yn gwenu ac yn cael hwyl.
Testun: Mewn cymuned lle rydw i’n perthyn go iawn. Prifysgol Bangor – dyma dy ddyfodol ar waith.
Disgrifiad Gweledol: Montage o'r holl fyfyrwyr sy’n ymddangos yn y fideo yn gwenu ac yn edrych i'r camera.
Testun: Prifysgol Bangor. Dy ddyfodol ar waith.
Disgrifiad Gweledol: Animeiddiad i ddangos bod y fideo wedi dod i ben
Newyddion a Digwyddiadau
Gweld MwyDarganfyddwch brifysgol fywiog mewn lleoliad hyfryd sy'n cynnig dimensiwn gwahanol i fywyd myfyriwr.
Darganfyddwch brifysgol fywiog mewn lleoliad hyfryd sy'n cynnig dimensiwn gwahanol i fywyd myfyriwr.