Cwynion Myfyrwyr
  Mae cwyn yn fynegiant o anfodlonrwydd ynglŷn â safon y gwasanaeth a ddarperir gan y brifysgol neu a ddarperir ar ran y brifysgol. Gall cwynion ymwneud â rhaglen academaidd neu adran neu wasanaeth yn y brifysgol. 
  
Ymdrinnir â chwynion yn unol â'r Drefn Cwynion Myfyrwyr. Yn achos cwynion sy'n fwy priodol i ddelio â hwy trwy ddilyn trefn wahanol, byddwn yn darparu'r arweiniad hwnnw ar ôl derbyn y gwyn. 
    
Er mwyn i ni ystyried eich cwyn, dilynwch y canllaw hwn:
    
Mae angen gwybodaeth arnom
    
Ysgrifennwch atom a dywedwch wrthym pwy ydych chi ac os ydych yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor neu'n aelod staff. Os nad ydych yn fyfyriwr neu'n aelod staff ym Mhrifysgol Bangor, rhowch wybod i ni ym mha rinwedd rydych yn cysylltu, e.e. aelod o'r cyhoedd.
    
Nodwch eich cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn a nodwch pa un yw'r dull cysylltu sydd orau gennych. Byddwn yn anfon e-bost yn y rhan fwyaf o achosion, ond pe byddai'n well gennych i ni ddefnyddio dull cyfathrebu arall, gwnewch hynny'n glir.
    
Disgrifiwch yn glir natur eich cwyn a chynnwys unrhyw dystiolaeth ategol. 
    
Manylwch ar unrhyw drafodaethau neu ymdrechion blaenorol i ddatrys y mater. Bydd disgrifiad sy'n cynnwys dyddiadau, amseroedd ac enwau yn ein cynorthwyo.
    
Nodwch yn glir y canlyniad(au) yr ydych yn eu ceisio trwy wneud cwyn. 
    
Gallwch ddisgwyl ymateb cychwynnol cyn pen 5 diwrnod gwaith ar ôl i ni dderbyn eich cwyn ysgrifenedig. 
    
Trefn adrodd
    
Cyflwynwch eich adroddiad trwy e-bost i complaints@bangor.ac.uk / cwynion@bangor.ac.uk 
    
Os yw'n well gennych, gallwch anfon eich cwyn trwy'r post i'r cyfeiriad canlynol: Tîm Gwaith Achos Myfyrwyr, Prifysgol Bangor, Gwasanaethau Myfyrwyr, Neuadd Rathbone, Ffordd Coleg, Bangor, LL57 2DG.
(Sylwch, os anfonir gohebiaeth atom trwy'r post, bydd angen anfon hwn trwy ddanfoniad wedi'i recordio a chadw copi o'r wybodaeth olrhain ar gyfer eich cofnodion.)
    
Trefn Gwynion Myfyrwyr
    
Gallwch ddod o hyd i'r Drefn Cwynion Myfyrwyr yma.
    
Cwestiynau Cyffredin
    
Gweler ein cwestiynau cyffredin am restr o gwestiynau ac atebion cyffredin.