Newyddion: Medi 2018

Nid yw pympiau inswlin yn well - er eu bod yn ddrutach - na phigiadau i blant yn y flwyddyn gyntaf ar ôl cael diagnosis gyda Diabetes Math 1

Arweiniodd Dr Colin Ridyard a'r Athro Dyfrig Hughes o'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) y dadansoddiad economaidd iechyd mewn astudiaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar oedd yn archwilio a yw inswlin a roddir trwy bwmp yn fwy effeithiol a chost-effeithiol na phigiadau i fabanod, plant a phobl ifanc a oedd newydd gael diagnosis gyda diabetes math 1.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Medi 2018

Bydd cynllun y Brifysgol yn dechrau mynd i'r afael â phrinder meddygon teulu yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru

Wrth i’r Gymru wledig wynebu diffyg enbyd yn nifer y meddygon teulu i ymateb i’r galw cynyddol gan gleifion yn sgîl poblogaeth sy’n heneiddio ac ar gynnydd, mae tair prifysgol yng Nghymru yn cynnal cynllun peilot sy’n ceisio dod â meddygon ifanc yn ôl i Ogledd a Chanolbarth Cymru. 

Bydd rhaglen CARER (Llwybr Addysg Cymunedol a Gwledig), sydd yng ngofal Prifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â phrifysgolion Bangor ac Aberystwyth, yn rhoi cyfle i fyfyrwyr meddygol o Gaerdydd gael blwyddyn o’u haddysg mewn practisau Meddygon Teulu yng ngogledd a chanolbarth Cymru, fel eu bod yn cael profiad amhrisiadwy o gydweithio’n agos â chlinigwyr a chleifion mewn lleoliadau cymunedol.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Medi 2018