Newyddion: Mehefin 2018

Gŵyl R.S. Thomas, Aberdaron a Bangor

Mae gŵyl flynyddol sydd yn dathlu gwaith y bardd, R.S. Thomas a’i wraig, yr artist Mildred ‘Elsi’ Eldridge, i’w chynnal yn ei blwyf olaf, Aberdaron, ym mhen-draw penrhyn Llŷn, ar Fehefin 29 - 1 Gorffennaf.

Mae’r Athro Tony Brown, cyd-gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil R.S. Thomas Prifysgol Bangor wedi bod yn ymwneud â’r ŵyl ers sawl blwyddyn.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mehefin 2018