Cyllid Israddedig
Ysgoloriaethau, Bwrsariaethau ac Efrydiaethau
Mae Ysgoloriaethau , Efrydiaethau a Bwrsariaethau yn cael eu hariannu gan y Brifysgol ac ein hysgolion academaidd unigol.
Gwobrau’r Ysgol
Ysgoloriaethau Perfformio a Chlyweliadau
Mae'r Ysgol Cerddoriaeth yn cynnig nifer o ysgoloriaethau perfformio i fyfyrwyr sy'n cychwyn ar eu blwyddyn gyntaf.
Gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i'r Ysgol Cerddoriaeth i ddod i Ddiwrnod Agored UCAS, pryd bydd cyfle iddynt gael clyweliad ar gyfer Ysgoloriaeth Perfformio gwerth £400. Rhoddir nifer o'r rhain fel anogaeth i berfformwyr sy'n dangos addewid arbennig. Fodd bynnag, ni fydd y ffaith a ydych yn derbyn ysgoloriaeth ai peidio yn effeithio ar ein cynnig o le ar y cwrs Cerddoriaeth.
Caiff ysgoloriaethau eu talu ar ffurf gostyngiad yn eich ffioedd dysgu blwyddyn gyntaf, ac fe'i rhoddir ar yr amod eich bod yn cofrestru ar gyfer y modiwl blwyddyn gyntaf, Perfformiad Unawdol (WXP1016 neu WXC1016).
University awards
Gwobrau’r Prifysgol
Fel y byddech yn ei ddisgwyl gan brifysgol sy'n rhoi pwyslais ar gymorth i fyfyrwyr, mae Bangor yn awyddus i gynnig help ychwanegol i fyfyrwyr. Dyma’r bwrsariaethau a’r ysgoloriaethau sydd ar gael i fyfyrwyr israddedig.
Ysgoloriaeth Teilyngdod
Mae tua 40 Ysgoloriaeth Teilyngdod o hyd at £3,000 yr un ar gael i'r rheini sy'n rhagori yn arholiadau Ysgoloriaethau Mynediad blynyddol y Brifysgol. Mwy o fanylion a dyddiad cau.
Bwrsariaethau Bangor
Mae’r Bwrsariaethau a gynnigir yn cynnwys Bwrsariaethau Bangor o hyd at £1,000 y flwyddyn ar gyfer myfyrwyr o deuluoedd â incwm isel a £1,000 ar gyfer myfyrwyr o ofal.
Astudiaethau Cyfrwng Cymraeg
Mae Ysgoloriaethau Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyfleoedd Ariannol Eraill
Mae'r brifysgol hefyd yn cynnig ysgoloriaethau a bwrsariaethau chwaraeon a bwrsariaethau i gefnogi astudiaethau cyfrwng Cymraeg.