Egwyddorion Llorweddol/Themâu Traws Torri yng Nghronfa Gymdeithasol Ewrop
Mae’r egwyddorion llorweddol neu’r themâu traws torri (TTT) yn faterion sy’n cyffwrdd egwyddorion cyffredin fel democratiaeth, cydraddoldeb, cynaliadwyedd a threfn lywodraethol dda. Mae angen eu gweithredu mewn sawl maes ac o ganlyniad rhaid eu hintegreiddio i holl feysydd rhaglenni Cyllid Ewropeaidd er mwyn eu cynnwys yn y ddeialog ar ddatblygiad y rhaglenni. Ar gyfer y rhaglenni 2014–2020 dewiswyd. Cyfleoedd Cyfartal a Prif Ffrydio gender, Datblygiad Cynaliadwy a Threchu Tlodi a Gwaharddiad Cymdeithasol fel TTT. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth berthnasol yn Nogfen Allweddol y TTT.
Mae dau agwedd i ymrwymiadau’r TTT – yn fewnol i’r gweithrediad ac yn allanol h.y. unrhyw un arall sy’n elwa o’r cyllid. Wrth dderbyn cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd drwy WEFO, rydym wedi ymrwymo i’r canlynol:
Wrth gyflawni’r Gweithrediad, mae’n rhaid:
(i) Cydymffurfio gyda’r canllawiau sy’n ymwneud â’r Themâu Traws Torri canllawiau | matrics
(ii) Cydymffurfio gyda’r anghenion mewn perthynas â:
(b) Cynllun Strategol Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru:
Amcanion Cydradoldeb 2016–2020: gwneud Cymru’n genedl decach Mawrth 2016
(c) the Welsh Language (Wales) Measure 2011
(e) Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015
(f) Trechu Tlodi a Gwaharddiad Cymdeithasol wedi osod allan ar EU platform against poverty and social exclusion, Europe 2020 Flagship Initiative a Cynllun gweithredu ar gyfer trechu tlodi 2012–2016 Llywodraeth Cymru
Rydym hefyd yn derbyn cyfrifoldeb i sicrhau bod anghenion y Themâu Traws Torri yn cael eu pasio ymlaen i unrhyw un arall sy’n cael eu contractio i gyflawni’r Gweithrediad a bod person sy’n arwain yn cael eu hadnabod fel yr un sy’n atebol am y Themâu Traws Torri.
Rydym yn credu bod mabwysiadu dull Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ein galluogi i gyflawni ein cyfrifoldeb mewn modd sy’n annog rheoli prosiect da a gwneud synnwyr busnes.
Dyma rhai o ddogfennau allweddol a defnyddiol ar Themâu Traws Torri:
- Cross Cutting Themes Key Document European Social Fund: integrating the Cross Cutting Themes across the 2014–2020 European Structural Funds v. 2 March 2016
- Cross Cutting Themes matrix: European Social Fund 2014–2020 v. 2 March 2016
- Cross Cutting Themes v 1.0 April 2016
- Annex 4 – SEE guidance on horizontal themes: – equal opportunities – sustainable development