Ymgysylltu
Datganiad Ymgysylltu
Er bod Prifysgol Bangor yn uniongyrchol gyfrifol am lawer o effeithiau ei gweithrediadau, mae'n dibynnu ar ei chymuned o fyfyrwyr a staff i gyfrannu'n sylweddol at addasu ei heffeithiau cyffredinol trwy gamau gweithredu personol a grŵp.
Mae'r Brifysgol yn annog ei myfyrwyr a'i staff i wneud newidiadau ymddygiad cynaliadwy hirhoedlog a phellgyrhaeddol nid yn unig i'w galluogi i wneud gwelliannau cynaliadwy parhaus i weithrediadau ac arferion sefydliadol, ond hefyd i alluogi'r myfyrwyr a'r staff hynny i gymryd eu hymddygiad newydd i mewn i bob maes o'u bywydau yn y Brifysgol a'r tu allan iddi.
- Ymgysylltu â Myfyrwyr a Staff y Strategaeth Gynaliadwyedd
- UM - Prosiectau Cymunedol Cynaliadwy Lleol
- Ceir manylion am ymgyrchoedd staff a myfyrwyr presennol a blaenorol yma
Mae'r Brifysgol yn cefnogi ac yn ariannu prosiectau cynaliadwyedd a arweinir gan staff a myfyrwyr trwy nifer o gyllidebau.
Ymgyrch Cynaladwyedd 25 erbyn 25
Lansiwyd yr ymgyrch gynaliadwyedd staff a myfyrwyr 25 erbyn 25, ym mis Tachwedd 2022, a’i nod yw lleihau 25% o allyriadau carbon erbyn 2025. Yn dilyn lansio’r ymgyrch cynaliadwyedd 25 erbyn 25, gwahoddwyd cydweithwyr i gyflwyno syniadau a mentrau ar sut y gallai’r Brifysgol leihau ei hôl troed carbon.
Aseswyd 40 o gynigion gan banel o arbenigwyr a'u cyflwynwyd yn ystod cinio anffurfiol gyda'r Is-ganghellor yr Athro Edmund Burke. Ymhlith y cynigion llwyddiannus i dderbyn cyllid gan y Brifysgol mae cynllun arbrofol sy’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf o ran synwyryddion gofod sydd â'r nod o ddeall defnydd amser real yn well, yn ogystal ag amodau atmosfferig a'r defnydd o ynni. Cynlluniau eraill llwyddiannus oedd project ymchwil gan yr Ysgol Busnes i ymchwilio a ddylai'r Brifysgol newid i borwr carbon-negyddol (yn lle Google), a chael storfa feiciau cwbl ddiogel ar y campws. At hyn, cynigiwyd rhoi gostyngiadau ar ddiodydd poeth pan fydd myfyrwyr/cydweithwyr yn defnyddio eu mygiau eu hunain, ac i gyd-fynd â'r fenter hon mae cyllid wedi'i roi i’r fenter 25 wrth 25 i brynu mygiau teithio amldro ecogyfeillgar.
Diweddariad ar y Cynigion
Ymchwilio'r posibilrwydd o newid peiriant chwilio Prifysgol i un carbon negatif - Cynhaliwyd prosiect ymchwil gan Dr Edward Jones a Cem Soner, o Ysgol Busnes Bangor a edrychodd ar nodweddion amgylcheddol a pherfformiad gwahanol beiriannau chwilio. Mae copi o'u hadroddiad terfynol i'w weld yma.
Ymwybyddiaeth a Chyfathrebu Amgylcheddol
Rydym wedi datblygu System Rheoli Amgylcheddol (EMS) i gefnogi ein hymrwymiad i gyflawni gwelliant amgylcheddol parhaus. Mae'r EMS wedi'i ardystio i safon amgylcheddol fawreddog ISO14001:2015. Mae Tîm Perfformiad Amgylcheddol Campws wedi'i sefydlu i sicrhau cymaint o ymgysylltu a chynhwysiant â phosibl.
- System Rheoli Amgylcheddol
- Ymwybyddiaeth a Chyfathrebu Amgylcheddol
- Adroddiadau Blynyddol yr Amgylchedd
- Targedau ac Amcanion Amgylcheddol - gan gynnwys Ymgysylltu
Wythnos Groeso - Myfyrwyr
Bydd pob myfyriwr yn mynychu'r cymhellion iechyd, diogelwch a'r amgylchedd gorfodol pan fyddant yn cychwyn yn y Brifysgol. Yn ogystal, rydym wedi cynhyrchu'r fideo canlynol i egluro ymhellach am y gwaith cynaliadwyedd a'r amgylchedd a wnawn a sut y gallwch ein helpu.
Sesiwn Cynefino - Staff Newydd
Rydym yn hynod falch o’n hamgylchedd ac ym Mhrifysgol Bangor, rydym wedi ymroi’n i’w amddiffyn a’i wella. Mae hyn yn golygu ein bod yn ystyried yr effaith y gall popeth yr ydym yn ei wneud ei gael, ac o safbwynt amgylcheddol, yn ystyried a allwn wneud rhywbeth yn well. Gydag ystâd o dros 100 o adeiladau wedi eu lleoli ar draws 346 hectar, yn ogystal ag oddeutu 10,000 o fyfyrwyr a 2,000 o staff, rydyn ni’n cydnabod oblygiadau ein heffaith ar yr amgylchedd.
Bydd yr holl staff newydd naill ai'n mynychu'r sesiwn cynefino iechyd, diogelwch a'r amgylchedd gorfodol yn bersonol neu'n cwblhau'r fersiwn ar-lein. Mae'r ddolen isod yn manylu ar ein Llawlyfr Staff a manylion ar ddeunydd y sesiwn.
- Llawlyfr Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd Staff a Sesiwn Cynefino
- Sesiwn Cynefino Cynaliadwyedd Staff a'r Amgylchedd
Gwybodaeth a Digwyddiadau Cynaliadwyedd o'r Brifysgol
Mehefin 2025
22ain Cynhadledd Entrepreneuriaeth Gwledig (REC2025) - Mehefin 3
Mai 2025
The Power of Listening: How Counselling Can Change Lives - Mai 12
Ebrill 2025
Prifysgol Bangor i gynnal cynhadledd ddylunio ac arloesi 'fydd yn ysbrydoli' - Ebrill 4
Mawrth 2025
Prifysgol Bangor i gynnal tribiwnlys cyflogaeth ffug i helpu cyflogwyr i ymdopi â heriau cyfreithiol
Gwyddonydd hinsawdd i astudio effaith digwyddiadau tywydd eithafol ar fasn yr Amazon
Agor Canolfan Dysgu Cymunedol ar Stryd Fawr Bangor
What deer poo can tell us about the future of Britain’s woodlands
How climate change could be increasing your chance of catching a virus from sewage – new study
Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2025 - Mawrth 5
Dylid rhoi mwy o lais i nyrsys wrth weithredu gofal yn y gymuned, medd ymchwilwyr
Astudiaeth Newydd yn Amlygu Effaith Adfyd yn ystod Plentyndod a Phrofiadau Ysgol ar Iechyd Oedolion
Chwefror 2025
Deall esblygiad dynol trwy wyddoniaeth siarcod
Athro yn teithio i Wcrain i gasglu samplau o daflegrau
Gwyddonydd hinsawdd yn ennill gwobr fawreddog
Gwirfoddolwyr yn Rhoi Bywyd Newydd i Ben Y Bonc ym Mangor Uchaf
The United Nations: Working for Global Ecological Stewardship - Chwefror 12
Cyflymu Gweithredu, Ysbrydoli Gyrfaoedd mewn Gwyddor Môr - Chwefror 11
Clwstwr Datgarboneiddio Diwydiannol Gogledd-ddwyrain Cymru (NEWID) - lansio cynllun clwstwr
Pam y gallai astudio baw ceirw yng ngogledd Cymru daflu goleuni ar ddyfodol cadwraeth coetiroedd
Prifysgol Bangor: 140 mlynedd o Gasglu Celf - Chwefror 1 - Ebrill 5
Ionawr 2025
Hwb Ariannol Mawr i Ddatblygu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ledled Cymru
Thriving in the Anthropocene, Yr Athro Mike Berners-Lee - Ionawr 29
Prifysgol Bangor yn arwain ymdrechion i wella sut mae ymchwil yn cael ei adrodd o fewn gofal y GIG
Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, yn Ymweld â M-SParc i Ddathlu Arloesedd a Thwf y Dyfodol
Prifysgol Bangor yn cael ei dewis i gyfrannu at Raglen LIBRTI Awdurdod Ynni Atomig y Deyrnas Unedig
Prifysgol Bangor yn hyrwyddo strategaeth llythrennedd cefnforol gyntaf y Deyrnas Unedig
Seicolegydd o Brifysgol Bangor yn helpu ymwelwyr â Chymru i deimlo'r ‘hwyl’ mewn ymgyrch dwristiaeth
Gwaith i ddechrau ym Mharc y Coleg
Rhagfyr 2024
Prifysgol Bangor yn dal ei gafael yn y wobr dosbarth cyntaf am y chweched flwyddyn yn olynol
Model deallusrwydd artiffisial yn rhagfynegi risg anafiadau yn rygbi'r undeb
Predicting the Ocean: 80 years of progress, Yr Athro Tom Rippeth - Rhagfyr 13
Prifysgol Bangor ymysg yr 11% uchaf yn fyd-eang o ran cynaliadwyedd
Biobotiau - cefnogi amaeth-goedwigaeth a lleihau gwastraff plastig untro yn nwyrain Affrica
Lansio Pecyn Recriwtio Gweithlu Dwyieithog
Gwyddonwyr yn rhagweld effeithiau’r hinsawdd ar briddoedd Ewrop
Ymchwilwyr o Brifysgol Bangor i wneud astudiaeth arloesol ar tswnamis tanddwr o amgylch Antarctica
Prifysgol Bangor yn lansio 'Labordy Plant Bangor' i hybu ymchwil ac ymarfer yn y blynyddoedd cynnar
Tachwedd 2024
Meithrin gweithlu dwyieithog: Digwyddiad undydd i gyflogwyr - Tachwedd 29
Julia Fiedorczuk: Experimental Ecopoetics and Climate Crisis - Tachwedd 25
Dylunio Offer ar gyfer Adfer Symudiad Echddygol ar ôl Strôc
Staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor yn ymuno â miloedd yn Llundain i brotestio yn erbyn llygru afonydd
Ymchwilwyr Prifysgol Bangor wedi eu rhestru ymysg 1% ucha’r byd
Hwb Datgarboneiddio Arloesol yn agor ym Mhenygroes – y cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig
Mwy na iaith: Cipolwg ar ddyfodol y Gymraeg - Tachwedd 13
Prifysgol Bangor yn addo ei hymrwymiad i staff technegol
Astudiaeth yn herio damcaniaethau hirsefydlog ynglŷn â sut mae adar mudol yn awyrlywio
Adroddiad newydd ar sut y gall byw mewn cartref oer effeithio ar ein hiechyd
Noson yng Nghwmni Cheryl Foster a Noel Mooney - Tachwedd 8
Mae trin bwlio fel problem pawb yn lleihau nifer yr achosion mewn ysgolion cynradd
Syr Bryn Terfel a Gwesteion Arbennig - Tachwedd 1
Prifysgol Bangor yn dewis Ecosia’n beiriant chwilio diofyn er mwyn cefnogi arferion cynaliadwy
Hydref 2024
Darlith Flynyddol yr Archifdy 2024 gan Yr Athro Terence Dooley - Hydref 30
Economegydd gofal cymdeithasol o Brifysgol Bangor yn derbyn Cymrodoriaeth Uwch o fri
Cronfa Gymunedol Bangor yn cefnogi uwchgynhadledd cynaliadwyedd Yr Wyddfa
Cartref y Chwedlau - Hydref 23
Y Coleg ar y Bryn: 140 mlynedd o hanes Prifysgol Bangor - Hydref 19
Morwellt ac wystrys: Perthynas gymhleth mewn byd sy'n newid
Linguistic diversity in Europe: why, where and how? - Hydref 9
Cynhadledd Archif Menywod Cymru 2024 - Hydref 5
Tuag at ddyfodol cynaliadwy i ogledd Cymru a’i chymunedau - Hydref 3
Difodiant ac Esblygiad: Astudiaeth arloesol yn adolygu gwreiddiau bioamrywiaeth
Medi 2024
Ancient DNA helped us uncover the Iberian lynx’s potential secret weapon against extinction
Prifysgol Bangor yn ennill cyllid i wneud ymchwil rhyngddisgyblaethol ar ecosystemau’r môr
Gardd Fotaneg Treborth yn ennill grant gan y cynllun Grant Buddsoddi mewn Coetir
Dr Salamatu Jidda-Fada, Learning to Contribute to Society: Insights from Wales and Nigeria - Medi 18
Prifysgol Bangor â Verily yn bartneriaid i ehangu gwasanaethau profi dŵr gwastraff ledled Ewrop
Myfyrwyr y gyfraith ym Mhrifysgol Bangor yn cynnig cyngor cyfreithiol AM DDIM i'r cyhoedd
OR66 - The Operational Research Society's Annual Conference - Medi 10
Awst 2024
Michael Mosley’s final series: how we showed what happens to your body when you’re stressed
Coedwigoedd aeddfed yn hanfodol ar y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd
Cyllid wedi'i gymeradwyo ar gyfer cyfleusterau biotechnoleg amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor
Newid Eryri - Changing Eryri - Awst 8
The International Conference on Mindfulness 2024 - Awst 2
Syr Bryn Terfel a chyfeillion i berfformio fel rhan o ddathliadau 140 Prifysgol Bangor