Ymgyrchoedd
Ymgyrch gwastraff blynyddol y Brifysgol yw Wythnos Am Wastraff
Y nôd yw cynyddu ymwybyddiaeth am leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu
gwastraff, a denu myfyrwyr a staff i ddigwyddiadau a gweithgareddau
sy’n ymwneud ag effeithlonrwydd adnoddau.
Mae gennym ymweliadau gwastraff wedi'u trefnu yn ein Neuaddau
Preswyl ac yn y gymuned, yn ogystal â digwyddiadau rhodd cadw’r
gwpan, cwis a diwrnod casglu sbwriel - felly plîs dewch i gymryd rhan.
Byddwch yn rhan o Chwildro Adnoddau Bangor!
Mwy o wybodaeth am Wythnos am Wastraff
Ymgyrch Ail-Ddefnyddio Diwedd Tymor
Mae Prifysgol Bangor yn ymdrechu i fod y Brifysgol fwyaf effeithlon o ran adnoddau; yn wir roeddem yn 7fed yn y byd yng nghyngrair THE impact 2020 am ein hymrwymiad i nôd 12 ‘sicrhau cynhyrchu a defnyddio cynaliadwy.
Er ein bod ar hyn o bryd yn wynebu heriau hollol anghyfarwydd yn sgîl Covid-19, rydym yn parhau i weithio'n galed y tu ôl i'r llenni i sicrhau ein bod yn casglu eitemau a deunyddiau i'w hailddefnyddio a'u hailgylchu.
Gyda gwyliau'r haf yn agosáu, mae llawer o fyfyrwyr yn symud allan o'u neuaddau preswyl dros yr wythnosau nesaf. Wrth i iddynt bacio fe fyddant mwy na thebyg yn sylweddoli bod ganddynt lawer o eitemau dros ben. Rydym ni yn cynnig y cyfle iddynt osgoi eu taflu, ond yn hytrach eu rhoi i elusen yn lle hynny.
Rhoi nid taflu ffwrdd
Mae Ymgyrch Ailddefnyddio Diwedd Tymor sydd wedi ei threfnu yn gwreiddiol ar y cyd rhwng Neuaddau, Ystadau a’r Lab Cynaliadwyedd yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr roi yr eitemau y gellir eu hailddefnyddio i elusen leol, Antur Waunfawr. Mae modd cyfranu eitemau fel llestri, potiau a sosbenni, dillad, esgidiau, ac offer cegin. Y cyfan sy'n rhaid i’r myfyrwyr ei wneud yw rhoi’r eitemau mewn bag plastig coch sydd wedi ei ddarparu, yna gadael y bag y tu allan i ddrws eu hystafell wely. Nid yw gwastraff cyffredinol, gwastraff i’w ailgylchu na gwastraff bwyd i gael ei roi yn y bag coch. Mae modd i’r myfyrwyr gyfranu bwyd oes silff hir (heb eu hagor) megis grawnfwyd, tuniau a jariau drwy ei gadael ar ffwrdd eu cegin.
Ystyried Cyn Yfed
Cyfres o fentrau sy’n annog defnydd cynaliadwy ar draws holl fannau arlwyo Prifysgol Bangor yw ‘Ystyried Cyn Yfed’. Cafodd yr ymgyrch ei lansio yn gynharach eleni.

Mae’n haws i ni gyd, yn fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr ddeall effaith ein gweithgareddau a defnyddio adnoddau’n fwy effeithlon os ydym yn deall mai atal gwastraff yn y lle cyntaf ac ail ddefnyddio cynnyrch yw’r ffordd fwyaf cynaliadwy o greu campws, cartref a dinas daclus.
Mae’r enghreifftiau isod yn rhoi syniad gwell i chi o beth mae hyn yn ei olygu.
Y rownd derfynol! Mae ymgyrch ‘Ystyried Cyn Yfed’ Prifysgol Bangor wedi cyrraedd rownd derfynol gwobrau Green Gowns 2019, yng nghategori ‘Iechyd, bwyd a diod y Campws’.
Ymgyrch gydweithredol rhwng Y Lab Cynaliadwyedd, tîm Arlwyo’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr oedd Ystyried Cyn Yfed. Bydd sawl ymgyrch debyg yn dilyn drwy’r flwyddyn felly cadw’ch llygaid allan amdanynt ar hyd y campws a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Mwy o fanylion am Ystyried Cyn Yfed
Pob Can yn Cyfri
Ar y 30ain o Fedi 2019, lansiwyd ymgyrch “Pob Can yn Cyfri” fel rhan o Wythnos Am Wastraff.
Mae gennym gyfleusterau ailgylchu helaeth tu fewn i’n hadeiladau ond rydym yn ymwybodol ein bod yn dal i golli deunydd gwerthfawr pan fydd ein myfyrwyr, staff ac ymwelwyr allan o gwmpas ar y campws.
Mae caniau alwminiwm yn ddeunydd gwych i’w gasglu gan eu bod yn rhan o gylch caeedig. Hynny yw, mae’n bosib eu hailgylchu drosodd a throsodd, am byth, heb golli ansawdd a thrwy wneud hyn dim ond 5% o’r egni sy’n cael ei ddefnyddio i greu’r cynnyrch o’r newydd sy’n cael ei ddefnyddio. Rydyn ni’n gobeithio y bydd hwn yn gam arall eto i sicrhau bod deunydd gwerthfawr yn cael ei gasglu yma ym Mangor i’w ailgylchu yn hytrach na’i golli drwy ei anfon i’r safle adfer ynni.
Gwyliwch allan am y biniau arbennig yma ar draws y campws.

Ailgylchu plastig o’r labordai
Mae holl labordai’r Brifysgol yn ddibynnol iawn ar blastigau. Felly, yn ddiweddar buom yn adolygu ein harferion ledled y campws, i weld sut y gallwn roi’r hierarchaeth wastraff ar waith. Er bod llawer iawn o blastig untro yn cael ei daflu, mae llawer iawn yn cael ei olchi a’i ailddefnyddio yn y rhan fwyaf o’n labordai, a hoffem sicrhau bod hwn yn arfer cyffredin. Pan nad yw ailddefnyddio yn opsiwn, gofynnwn i’n myfyriwr a’n staff ailgylchu’r deunydd.
I ddathlu Wythnos Ailgylchu, ar y 23ain o Fedi 2019 gwnaethom ddechrau casglu ailgylchu plastig o’n labordai.




