Undeb y Myfyrywr
Datganiad Cynaliadwyedd Undeb y Myfyrwyr
Mae Undeb Bangor wedi ymrwymo i ddatblygu sefydliad cwbl gynaliadwy. Rydym wedi ymrwymo i wella lles myfyrwyr Prifysgol Bangor, trwy ystyried eu lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol a byddwn yn gweithio gyda'n cymuned myfyrwyr ac ystod eang o randdeiliaid i wireddu ein nodau yn y maes hwn. Byddwn yn gweithio i addasu ac integreiddio saith nod Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i ddiwallu anghenion ein haelodau a'n sefydliad ac yn hynny o beth byddwn yn ceisio creu cymdeithas ddwyieithog ddeinamig, ddychmygus, deg a llewyrchus, a all fod yn gatalydd ar gyfer dyfodol mwy disglair i Brifysgol Bangor, ei myfyrwyr a'r gymuned yr ydym wedi'i lleoli ynddi.
Ein Hegwyddor Datblygu Gynaliadwy:
Yr Egwyddor Datblygu Gynaliadwy sy'n llywio ein meddwl a'n gweithredoedd yw bod yn rhaid i ni weithredu mewn modd sy'n ceisio sicrhau bod anghenion yn cael eu diwallu heb gael effaith negyddol ar allu myfyrwyr yn y dyfodol i ddiwallu eu hanghenion.
Wrth wneud penderfyniadau bydd pawb yn Undeb Bangor (beth bynnag yw ein safle) yn sicrhau ein bod yn ystyried yr effaith y gallem ei chael ar fyfyrwyr a staff Bangor heddiw ac yn y dyfodol (a'r bobl sy'n byw eu bywydau yng Nghymru a'r byd).
I gael rhagor o wybodaeth am addewid Undeb y Myfyrwyr (UM) ar gynaliadwyedd ewch i'r dudalen hon.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Undeb y Myfyrwyr a Chynaliadwyedd ar y dolenni canlynol a thrwy'r botymau llywio:
- Wobr Effaith Werdd
- Gwaith Cynaliadwyedd
- Polisi Cynaliadwyedd Undeb Myfyrwyr Bangor
- Yr Undeb yn gweithio efo'r Brifysgol
- Digwyddiadau Cynaliadwyedd Undeb y Myfyrwyr
- Cyfleoedd Gwirfoddoli Amgylcheddol
- Cyfleoedd Gwirfoddoli Cynaliadwyedd Cymdeithasol
- UM - Prosiectau Cymunedol Cynaliadwy Lleol
Pwyllgorau Undeb a Phwyllgorau'r Brifysgol
Mae cynrychiolwyr o'r Undeb y Myfyrwyr yn eistedd ar ystod eang o Bwyllgorau'r Brifysgol, megis Cyngor y Brifysgol, Pwyllgor Iechyd a Diogelwch, Grŵp Strategaeth Gynaliadwyedd, Pwyllgor Cyllid a Strategaeth, Grŵp Strategaeth Academaidd, Grŵp Strategaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Grŵp Strategaeth Ystadau a Grŵp Strategaeth Profiad Myfyrwyr.
Gwasanaeth Cyflogadwyedd
Dîm o weithwyr proffesiynol ymroddedig sydd wedi ymrwymo i helpu myfyrwyr i gyflawni eu potensial o ran gyrfa yn ystod eu cwrs ac ar ôl graddio.