Gwobr Effaith Werdd
Cynllun achredu cynaliadwyedd yw Effaith Werdd Undebau Myfyrwyr (GISU) dan arweiniad Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM) sy'n mesur perfformiad cynaliadwyedd undebau myfyrwyr yn annibynnol.
- Ei diben yw:
- Annog, meithrin, gwobrwyo, ac yn bennaf oll ymgorffori cynaliadwyedd ar draws holl weithgareddau undebau myfyrwyr.
- Mae'n herio undebau i:
- Ddilyn arfer gorau amgylcheddol a chadw cynaliadwyedd mewn cof wrth weithio'n llwyddiannus dros fyfyrwyr.
- Mae'n ceisio sicrhau:
- Datblygiadau arloesol cynaliadwy, cadarnhaol mewn undebau a'u hyrwyddo i'r cyhoedd.
Gallwch ddarllen mwy am GISU yma.
Rydym wedi bod yn llwyddiannus iawn trwy gydol ein hamser yn cymryd rhan yn yr Effaith Werdd gan ennill nifer o wobrau cenedlaethol:
- 2010-11:Safon Aur.
- 2011-12: Gwobr y Co-operative am ‘Undeb Wnaeth Wella Fwyaf’, || Gwobr 'Her Gyfathrebu' The Ecologist || Gwobr Aur.
- 2012-13: Gwobr Ragoriaeth Effaith Werdd (Cynllun Beiciau Bangor).
- 2013-14: Undeb y Flwyddyn (Anfasnachol) || Gwobr Adfywio a Her Gyfathrebu The Ecologist || Gwobr Aur.
- 2014-15: Rhagoriaeth Effaith Werdd (Partneriaeth Caru Bangor) || Yn y 5 uchaf o Undebau Myfyrwyr yn genedlaethol.
- 2015-16: Undeb y Flwyddyn (Anfasnachol) || Gwobr Arbennig am fenter ar y cyd i Hyrwyddo Datblygu Cynaliadwy trwy rannu dysg ar draws cyfandiroedd (Partneriaeth rhwng Undeb Bangor a Phrifysgol Makerere, Uganda || Gwobr Aur.
- 2016-17: Gwobr Ragoriaeth.