Carnifal Cynaliadwyedd #Carnifal20
Ymgyrch i hyrwyddo a dathlu’r holl ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig efo chynaliadwyedd sydd ymlaen mewn mis cyffredin ym Mhrifysgol Bangor. Mae’r Carnifal yn cychwyn ar y 1af o Chwefror ac yn dod i ben ar y 1af o Fawrth. Mae’r holl ddigwyddiadau i’w gweld yma.
Cymerwch ran!
Ydych chi’n trefnu digwyddiad sydd yn gysylltiedig gyda cynaliadwyedd yn ystod mis Chwefror? Cysylltwch efo ni ar sustainability@bangor.ac.uk. Byddwn yn falch o rannu’r digwyddiad fel rhan o’r ymgyrch.
Cymryd Rhan
Mae Prifysgol Bangor wedi sefydlu Y Lab Cynaliadwyedd i fod yn ganolbwynt arweinyddiaeth ar Ddatblygu Cynaliadwy wrth i ni anelu at ddod yn ‘y Brifysgol Cynaliadwy’ ym mhob agwedd. Ein huchelgais fawr yw bod cynaliadwyedd yn cael ei weld fel rhywbeth i bawb ac i wneud hynny mae angen i ni gynnwys cymaint o bobl â phosibl.
Er mwyn Dod a Cynaliadwyedd yn Fyw ym Mangor, i wneud yn siŵr fod ein holl benderfyniadau a gweithredoedd yn atebol, a’n bod yn gwneud cynnydd parhaus fel y Brifysgol Cynaliadwy, rydym wedi sefydlu nifer o fentrau a grwpiau i roi cynaliadwyedd wrth galon addysgu, dysgu, ymchwil ac arloesi.
Ein dywediad yw “gwneud pethau gyda chi, nid i chi nac ar eich cyfer”, a ph’un ai ydych chi’n fyfyriwr, yn aelod staff, neu’n aelod o’r gymuned leol neu fyd-eang, mae eich cyfraniad yn hanfodol i’n llwyddiant.
Rhoi’r byd yn ei le (Melin Drafod Cynaliadwyedd)

Mae sesiynau Rhoi’r byd yn ei le ymlaen yn fisol rhwng Hydref a Mai bob blwyddyn. Mae’n agored i holl staff a myfyrwyr. Mae’n annog cyfranogwyr i gyflwyno a thrafod pob math o syniadau o gwmpas agweddau amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol, ac moesegol.
Mae 8 sesiwn yn y flwyddyn academaidd. Yn dilyn y sesiwn ragarweiniol ym mis Hydref, mae themâu’r 7 sesiwn ddilynol yn seiliedig ar Nodau Llesiant Cymru. Mae hyn yn ein cynorthwyo i roi sylw cyfartal i wahanol feysydd o gynaliadwyedd a lles dros y flwyddyn academaidd.
Sut i gymryd rhan
I ymuno, ewch i’n tudalen digwyddiadau i gael gwybod pryd mae’r sesiwn nesaf, ac ymunwch â ni ar y diwrnod – croeso i bawb! Os oes ganddoch chi destyn neu syniad ynglyn â chynaliadwyedd i’w drafod ymhellach, cysylltwch efo ni!