Fy ngwlad:

98%

Boddhad Cyffredinol ar gyfer Busnes

Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2025

5 Uchaf

o holl brifysgolion y DU ar gyfer ymchwil ym maes Bancio

RePEc, Hydref 2025

100%

Boddhad Cyffredinol ar gyfer Astudiaethau Rheolaeth

Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2025

Professor Bruce Vanstone, Head of Bangor Business School

Neges gan Bennaeth yr Ysgol, Yr Athro Bruce Vanstone Amdanom Ni

Yn Ysgol Fusnes Albert Gubay, byddwch yn rhan o gymuned ddeinamig, groesawgar, sy’n rhoi pwyslais ar ymchwil. Byddwch yn cael eich dysgu gan academyddion blaenllaw y mae eu hymchwil yn llunio polisi, yn sbarduno arloesi yn y diwydiant ac yn dyfnhau dealltwriaeth o fusnes yn y byd go iawn. 

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o raglenni - o raddau israddedig ac ôl-radd i astudiaethau doethurol - wedi eu cynllunio i'ch arfogi â'r sgiliau, y wybodaeth a'r hyder i lwyddo yn y byd cystadleuol sydd ohoni. 

Ymunwch â ni i gael profiad o fod mewn amgylchedd bywiog a chefnogol lle mae eich syniadau'n bwysig, lle mae eich uchelgeisiau'n cael eu meithrin a lle mae eich gyrfa yn y dyfodol yn flaenoriaeth i ni. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu a'ch cynorthwyo i wireddu eich potensial.
 

Cartref Newydd i Addysg Fusnes yng Ngogledd Cymru

Mae rhodd o £10.5m gan Sefydliad Elusennol Albert Gubay yn dod ag Ysgol Fusnes newydd, o'r radd flaenaf i Ogledd Cymru.

Bydd yr adeilad newydd yn ganolfan fodern i ysbrydoli a grymuso'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr busnes.

Darllenwch y Stori Gyfan

Delwedd gysyniadol o adeilad newydd Ysgol Fusnes Albert Gubay
Delweddau gysyniad yn dangos tu allan Adeilad Ysgol Fusnes Albert Gubay. Yn amodol ar ganiatâd cynllunio.

Wedi'i Ddylunio O Amgylch Eich Dyfodol Ysgol Fusnes Albert Gubay: Creu Arweinwyr Busnes Yfory

Yn Ysgol Fusnes Albert Gubay, mae eich addysg wedi'i hadeiladu o'ch cwmpas - gyda mannau ysbrydoledig, rhaglenni arloesol a chyfleoedd cydweithredol byd-go-iawn sy'n eich paratoi i ffynnu mewn economi fyd-eang sy'n newid yn gyflym. 

Cyrsiau Israddedig

Darganfyddwch ein meysydd pwnc israddedig.

Cyrsiau Ôl-raddedig

Darganfyddwch ein meysydd pwnc ôl-raddedig.

Darganfyddwch ein meysydd pwnc ôl-raddedig.

Skyscrapers modern looking buildings

Addysg Weithredol

Mae Ysgol Fusnes Albert Gubay ym Mhrifysgol Bangor yn ysgol fusnes blaenllaw sy’n canolbwyntio ar addysgu ac ymchwil ac mae’n cynnig MBA Addysg Weithredol flaengar ac arloesol i’r sector gwasanaethau ariannol byd-eang. Yma ceir amrywiaeth o raglenni dysgu o bell arloesol sydd wedi eu cynllunio i gynorthwyo datblygiad proffesiynol arweinwyr a rheolwyr cwmnïau.

Cyfleoedd Ymchwil

Rydym yn cynnig amryw o raddau ymchwil ôl-radd sy'n rhoi cyfleoedd diddiwedd i raddedigion ddyfnhau eu gwybodaeth a'u harbenigedd yn eu priod feysydd. Byddwch yn rhan o dîm o arbenigwyr, yn ymwneud ag ymchwil arloesol a chryno a all wneud gwahaniaeth go iawn, o farchnadoedd ariannol i dwristiaeth, ymddygiad defnyddwyr i lywodraethu, mae ein gwaith yn cwmpasu cyd-destunau lleol a byd-eang.

Canolfannau Ymchwil

Mae Ysgol Fusnes Albert Gubay yn gartref i ddwy ganolfan ymchwil ddeinamig sy'n dod ag arbenigwyr, myfyrwyr a phartneriaid ynghyd i fynd i'r afael â heriau mawr a chreu effaith yn y byd go iawn. Darganfyddwch mwy am eu gweithgareddau, eu cyflawniadau a'u cyfleoedd i gymryd rhan.
 

Themâu Ymchwil

Mae Ysgol Fusnes Albert Gubay yn gartref i ddwy ganolfan ymchwil ddeinamig sy'n dod ag arbenigwyr, myfyrwyr a phartneriaid ynghyd i fynd i'r afael â heriau mawr a chreu effaith yn y byd go iawn. Darganfyddwch mwy am eu gweithgareddau, eu cyflawniadau a'u cyfleoedd i gymryd rhan.
 

A group around a table with laptops and phones

Y Clinig Busnes a'n Partneriaethau

Mae'r Clinig Busnes yn adeiladu ar gysylltiadau cryf Ysgol Fusnes Albert Gubay â diwydiant ac yn creu cyfleoedd newydd i gydweithio. Mae'n cynnig cyfle i fusnesau sefydledig a busnesau newydd uchelgeisiol fanteisio ar gyfoeth arbenigedd yr ysgol. Mae busnesau'n cael mynediad at wybodaeth arloesol, atebion ymarferol, a meddwl arloesol, tra bod myfyrwyr yn cael profiad ymarferol, yn datblygu sgiliau gwirioneddol ac yn cydweithio ar brojectau byw. Gyda'n gilydd, rydym yn troi heriau'n gyfleoedd ac yn sbarduno twf a llwyddiant.

Myfyrwyr yn cerdded tuag at Hen Goleg

Ysbrydoli'r Dyfodol: Allgymorth yn Ysgol Fusnes Albert Gubay

Mae ein Tîm Allgymorth yn gweithio gydag ysgolion a cholegau ledled gogledd Cymru i greu cyfleoedd sy'n mynd y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth — gan helpu pobl ifanc i ddarganfod eu potensial, cael profiad o fywyd prifysgol, a dychmygu'r dyfodol sy'n disgwyl amdanynt. Os ydych chi’n ddisgybl sy'n chwilfrydig am beth i’w wneud nesaf, yn athro sy'n chwilio am gyfleoedd i gyfoethogi eich addysgu, neu'n gynghorydd sy'n cynnig arweiniad i ddisgyblion sy’n ystyried addysg uwch, mae ein rhaglenni ni wedi cael eu cynllunio i ysbrydoli, addysgu a grymuso.

Myfyriwr a darlithydd yn edrych ar wybodaeth fasnachu ar un o derfynellau Bloomberg yn y Llawr Masnachu.

Cyfleusterau ac Adnoddau sy'n Pweru Cynnydd

Cewch fynediad at gyfleusterau o safon i helpu chi gyda'ch astudiaethau a pharatoi ar gyfer y byd go iawn. Darganfyddwch ein Hystafell Fasnachu sydd â therfynellau Bloomberg safonol, a defnyddiwch rai o'r cronfeydd data busnes gorau'r byd. Mae ein mannau astudio cydweithredol wedi'u hadeiladu i ysbrydoli arloesi, gwaith tîm, a syniadau mawr.

Albert Gubay Business School, Prifysgol Bangor, Bangor LL57 2DG

Cysylltwch

Albert Gubay Business School, Prifysgol Bangor, Bangor LL57 2DG

Cysylltwch â ni ar Gyfryngau Cymdeithasol

Facebook

LinkedIn

Instagram

Twitter