Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
Fel Ysgol amlddisgyblaethol sy'n cynnwys popeth o Gyfrifeg a Chyllid i Fusnes a Rheolaeth, mae Ysgol Busnes Bangor yn cynnig amrywiaeth o raglenni addas ar gyfer ystod eang o yrfaoedd. Os nad ydych wedi penderfynu ar eich llwybr gyrfa, mae hyblygrwydd ein rhaglenni'n eich galluogi i roi cynnig ar fodiwlau a meysydd pwnc gwahanol er mwyn gweld beth sy'n apelio orau at eich chwaeth bersonol a'ch dyheadau.
Cysylltiadau helaeth â diwydiant
Mae gan ein staff gysylltiadau helaeth â diwydiant. Maent yn amlwg iawn fel ymchwilwyr yn eu meysydd, yn cyhoeddi llyfrau niferus ac erthyglau mewn cyfnodolion blaenllaw, a hyd yn oed yn gwneud gwaith ymgynghorol ar lefel uchel i sefydliadau amlwg, megis Banc y Byd a Thrysorlys y Deyrnas Unedig. Lle bynnag y byddwch yn mynd iddo ar ôl graddio, byddwch yn gadael Bangor gyda gradd sy'n gyfoes, yn berthnasol ac yn cyd-fynd â'r datblygiadau diweddaraf yn y diwydiannau busnes ac ariannol.
Cyflogwyr
Dyma enghreifftiau o swyddi a gafwyd gan rai o'n graddedigion diweddar:
Israddedigion | Ôl-raddedigion |
Cydlynydd Cefnogaeth Weithredol |
Banciwr |
Cyfrifydd dan hyfforddiant |
Ymgynghorydd Rheoli |
Cyfrifydd dan hyfforddiant |
Uwch Reolwr Marchnata |
Archwilydd Cynorthwyol |
Rheolwr Cangen |
Swyddog Marchnata |
Is-lywydd |
Is Reolwr Cyfrifon |
Cynorthwywr Marchnata |
Cynorthwywr Gweinyddu AD |
Rheolwr Project |
Paragynlluniwr dan Hyfforddiant |
Cynghorwr Bancio Adwerthu Sector Fasnachol |
Swyddog Pryniant |
Uwch Reolwr (Rheoli Portffolio) |
Arolygydd Trethi EM |
Swyddog Cysylltiadau Alumni a Chodi Arian |
Rheolwr Ariannol dan Hyfforddiant |
Pennaeth Corfforaethau Byd-eang |
Cymdeithas Busnes Bangor
Gan weithio'n agos â staff academaidd, nod Cymdeithas Busnes Bangor yw hwyluso profiadau dysgu i fyfyrwyr o bob blwyddyn er mwyn adeiladu ar hyn a ddysgir yn y dosbarth a chryfhau eu CVs. Mae hefyd yn trefnu ymweliadau â ffeiriau i raddedigion, sy'n gyfle hynod werthfawr i gyfarfod a chysylltu â darpar gyflogwyr.
Cewch fwy o wybodaeth am Gymdeithas Busnes Bangor yn y Ffair Serendipedd yn ystod yr Wythnos Groeso.
Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd Prifysgol Bangor yn darparu ystod eang o adnoddau i'ch helpu i gyflawni eich dyheadau fel graddedigion. Mae datblygu eich sgiliau personol a gwella eich siawns o gael swydd dda tra ydych yn y brifysgol yn dod yn gynyddol bwysig yn y farchnad swyddi heddiw.
Ymysg y profiadau y mae'r Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd yn eu cynnig i roi hwb i'ch datblygiad personol ac i'ch gyrfa mae lleoliadau gwaith, cynlluniau blasu gwaith, gwaith rhan-amser a chyfleoedd i wirfoddoli a mentora.
Cynllun Interniaeth i Israddedigion
Mae'r cynllun interniaeth ym Mhrifysgol Bangor yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr israddedig gael profiad gwaith cyflogedig ar lefel graddedigion yn ysgolion academaidd ac adrannau gwasanaeth y brifysgol. Gall natur y swyddi amrywio o farchnata, cynllunio gwefan a phrojectau ennyn diddordeb myfyrwyr, i roi cefnogaeth gyda phrojectau ymchwil, gwaith maes neu reoli data.
Profiad Gwaith a Gwirfoddoli
Mae Canolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio. Mae’n dod yn gynyddol bwysig yn y farchnad swyddi heddiw i ddatblygu eich sgiliau personol a gwella eich cyflogadwyedd tra byddwch yn y brifysgol.
Ymysg y profiadau a gynigir gan y Ganolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd i helpu eich datblygiad personol a’ch gyrfa, mae rhaglenni lleoliadau gwaith, cynlluniau blasu gwaith, swyddi rhan-amser a chynlluniau gwirfoddoli a mentora.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor wedi ei gynllunio i wella rhagolygon gwaith ein myfyrwyr. Mae’n cynnig cyfleoedd rhad ac am ddim i ennill y sgiliau a’r profiadau eu hangen ar gyflogwyr, yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf.
Mae graddedigion y Wobr yn cael tystysgrif a thrawsgrifiad o’u gweithgareddau allgyrsiol o Brifysgol Bangor. Mae’r Wobr hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddi am ddim, yn helpu i’ch paratoi ar gyfer cyfweliadau, yn rhoi mynediad at feddalwedd gyrfaoedd ar-lein ac yn helpu i ddatblygu eich portffolio sgiliau o dystiolaeth ar gyfer cyflogwyr.
Mwy o wybodaeth am sut y gall y Wobr eich helpu...
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth sy’n cynnig y cyfle i ennill profiad gwaith â thâl ar lefel raddedig mewn Ysgolion academaidd ac adrannau gwasanaeth y Brifysgol.
Mae’r cynllun yn agored i fyfyrwyr israddedig ac mae’r gwaith interniaeth ac unrhyw hyfforddiant a dderbynnir yn cael ei gofnodi yn awtomatig ar eich cofnod o weithgareddau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor.