Cyfarfod â'r criw
- Cwestiynau cyflym gyda gweddill y tîm.
Calendr Campws Byw
- Llawrlwytho Calendr Campws Byw.
Criw Campws Byw - Gethin
S'mae bawb! Gethin ydw i, ac fel mae'r enw'n awgrymu, rwy’n hanu o Gymru (ac yn fwy penodol o Bowys). Rwyf yn fy mlwyddyn olaf yn astudio Cadwraeth Amgylcheddol, ar ôl treulio blwyddyn ar leoliad yn Nottingham fel ecolegydd gyda'r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt. Mae gen i ddiddordebau eang, ond yr hyn ydw i'n ei fwynhau orau yw mynd allan ar anturiaethau, sglefrfyrddio, dringo, celf a chrefft, a rhoi cynnig ar bethau newydd.
Mae’n fendigedig bod yn ôl mewn lle mor brydferth wedi’i nythu rhwng môr a mynydd. Os ydych chi'n fy ngweld o gwmpas y campws, mae croeso i chi ddod draw ataf am sgwrs!