Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae hwn yn gwrs byr rhan-amser, lefel 6 yn cael ei gyflenwi ar ein campws ym Mangor.
Mae modd astudio'r cwrs byr hwn ar lefel 7 yn ogystal. Dilynnwch y ddolen hon am fwy o wybodaeth: Sylfeini mewn Gofal Lliniarol (Lefel 7)
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
Mae'r cwrs byr hwn yn addas i bobl sy’n gweithio mewn lleoliadau cysylltiedig ag iechyd a gofal e.e. gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys meddygon, fferyllwyr, nyrsys, ffisiotherapyddion, parafeddygon, a gweithwyr iechyd proffesiynol cysylltiedig.
Bydd y cwrs hwn o ddiddordeb i unigolion proffesiynol sy'n gyfrifol am ofal, ansawdd a diogelwch cleifion.
Pam astudio’r cwrs? Beth ydi prif nôd y cwrs?
Mae cleifion yn haeddu gwasanaethau gofal lliniarol o'r ansawdd uchaf ac i gael eu cydlynu'n dda ym mha bynnag faes y maent yn dewis cael gofal h.y. ysbyty, cartref, cartref gofal neu hosbis. E
Er mwyn cefnogi staff i ddarparu gofal lliniarol ardderchog, datblygwyd y rhaglen hon mewn partneriaeth â Hosbis Dewi Sant, Llandudno, gyda staff arbenigol a all rannu eu profiadau gyda gwybodaeth ym maes gofal lliniarol.
Bydd y cwrs byr hwn ar Sylfeini mewn Gofal Lliniarol yn rhoi cipolwg eang ar ofal lliniarol ar draws lleoliadau a bydd yn cynnwys cyfathrebu mewn ansicrwydd, moeseg ar ddiwedd oes, rheoli symptomau, gweithio mewn MDT, gofal terfynol a'r oedolyn sy'n marw.
Pa mor hir mae'r cwrs yn cymryd i'w gwblhau?
Cyflwynir y cwrs byr hwn fel rheol yn ystod semester 1 o'r flwyddyn academaidd, gan ddechrau ym mis Medi.
Bydd y dysgu’n digwydd am 7.5 awr yr wythnos dros 8 wythnos.
Tiwtor
Mae Natalie yn Ddarlithydd mewn Nyrsio Oedolion, yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae cleifion yn haeddu gwasanaethau gofal lliniarol o'r ansawdd uchaf ac i gael eu cydlynu'n dda ym mha bynnag faes y maent yn dewis cael gofal h.y. ysbyty, cartref, cartref gofal neu hosbis. E
Er mwyn cefnogi staff i ddarparu gofal lliniarol ardderchog, datblygwyd y rhaglen hon mewn partneriaeth â Hosbis Dewi Sant, Llandudno, gyda staff arbenigol a all rannu eu profiadau gyda gwybodaeth ym maes gofal lliniarol.
Bydd y cwrs byr hwn ar Sylfeini mewn Gofal Lliniarol yn rhoi cipolwg eang ar ofal lliniarol ar draws lleoliadau a bydd yn cynnwys cyfathrebu mewn ansicrwydd, moeseg ar ddiwedd oes, rheoli symptomau, gweithio mewn MDT, gofal terfynol a'r oedolyn sy'n marw.
Mae ein harbenigwyr Gofal Lliniarol yn cynnig model cyflwyno dysgu cyfunol ar y cwrs byr hwn. Bydd rhywfaint o ddysgu yn cael ei gynnal mewn person, a bydd y cwrs hefyd yn cynnwys astudio cyfeiriedig a adref trwy ein cynnwys ar-lein.
Beth fydd y dysgwr yn ei gael allan o’r cwrs?
Content will include but is not limited to:
Bydd y modiwl yn trafod y pynciau canlynol, ymhlith pethau eraill:
- Gofal lliniarol arbenigol a chyffredinol
- Gofal lliniarol a diwedd oes ar draws lleoliadau acíwt, hosbis a chymunedol
- Adnabod yr oedolyn sy'n marw
- Gwneud penderfyniadau moesegol
- Cynnwys cleifion a’u hanwyliaid mewn gofal
- Hyfforddiant cyfathrebu (lefel uwch)
- Addysgu'r claf a’u hanwyliaid am eu gofal
- Delio ag emosiynau cryf, gwadiad a disgwyliadau afrealistig
- Cynllunio a threfnu gofal
- Rheoli symptomau a chymhlethdodau
- Poen a rheoli poen
- Deliriwm, dryswch, anesmwythder a chynnwrf
- Anadlu swnllyd
- Rhwymedd
- Gofal y geg
- Dyspnoea
Erbyn diwedd y cwrs byr hwn, bydd dysgwyr yn gallu:
- Dangos dealltwriaeth o anghenion gofal lliniarol a diwedd oes mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd cleifion.
- Dangos y gallu i ddarparu asesiad a gofal holistaidd mewn perthynas â chleifion ag anghenion gofal lliniarol a diwedd oes.
- Dangos a gwerthuso sut mae cyfathrebu yn ganolog i gleifion ag anghenion lliniarol a’u hanwyliaid.
- Arddangos, a chydnabod yr angen am ofal amlddisgyblaethol ar gyfer pobl ag anghenion gofal lliniarol a'u teuluoedd.
Cost y Cwrs
- Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch ariannu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a bcu.nurseeducation@wales.nhs.uk.
- Mae'n bosibl y bydd cyfleoedd ariannu ar gael i rai sy'n gweithio'n lleol (h.y. yn ardaloedd gogledd Cymru a Phowys), cysylltwch â'r cydlynydd modiwl perthnasol am fanylion.
- Dylid cyfeirio pob ymholiad arall sy'n ymwneud â cheisiadau ac ariannu at gydlynydd y modiwl.
Ewch i dudalen Ffioedd a Chyllid israddedig er mwyn cael gwybodaeth bellach.
Gofynion Mynediad
Bydd yr Ysgol yn ystyried ceisiadau unigol gan weithwyr proffesiynol. Cysylltwch gyda'r tîm i drafod ymhellach os gwelwch yn dda.
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein PORTH YMGEISWYR
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau.
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio Israddedig'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn Iechyd (NGGT/HEALTH) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl: Sylfeini mewn Gofal Lliniarol: y cod yw NHS: 3208. Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster ôl-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach).
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word.
Os ydych yn cael eich ariannu gan AaGIC / Bwrdd Iechyd, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau? Noddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido: Bwrdd Iechyd
- Gwlad: Y Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad? Wedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys: Ffioedd Dysgu
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn? Dewiswch ‘ie’ * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o’r cyllid. Os hoffech gadarnhau ‘ie’ i’r cwestiwn hwn, ond nad oes gennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i’w uwchlwytho, gallwch uwchlwytho’ch ddogfen Word yma eto.
Os ydych yn hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol