Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Bydd rhaglen y cwrs yn gweddu i raddedigion Gwyddorau Chwaraeon neu Therapi Corfforol sydd â diddordeb mewn adsefydlu trwy ymarfer yn benodol. Cynlluniwyd y cwrs i fod yn hyblyg ac yn berthnasol i anghenion a diddordebau unigol y myfyriwr, gyda phwyslais cryf ar gymhwyso theori i ymarfer proffesiynol.
Hyd y Cwrs
MSc: Blwyddyn yn llawn-amser, astudiaeth ran-amser ar gael hefyd
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Adsefydlu trwy Ymarfer .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd anrhydedd 2.ii o leiaf mewn pwnc perthnasol (neu gyfwerth).
Gellir hefyd ystyried myfyrwyr sydd â gradd o faes academaidd gwahanol. Caiff gweithwyr proffesiynol sydd â chymwysterau ac eithrio gradd eu hasesu ar sail unigol. Cysylltwch â ni.
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr yr UE a myfyrwyr tramor, nad yw'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, sefyll y prawf Saesneg safonol (IELTS). Mae myfyrwyr sy'n cael sgôr o 6.0 neu uwch (dim sgôr unigol o dan 5.5) yn gymwys i gael mynediad uniongyrchol i'r cwrs.
Gyrfaoedd
Mae holl raglenni ôl-raddedig yr ysgol wedi eu cynllunio (gyda hyfforddiant pellach lle bo hynny'n briodol) i wella rhagolygon gyrfa graddedigion Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer. Mae gyrfaoedd ôl-raddedigion Bangor yn cynnwys: Sefydliadau chwaraeon y wlad, cyrff llywodraethu cenedlaethol, yr Olympic Medical Institute, timau a sefydliadau chwaraeon proffesiynol, y diwydiant ffitrwydd, y GIG (ysbytai ac ymddiriedolaethau gofal sylfaenol), addysgu ac addysg (ar ôl cwblhau Tystysgrif Addysg Ôl-raddedig). Mae astudiaeth ôl-raddedig bellach (h.y. ymchwil doethurol) yn llwybr galwedigaethol arall.