Lleoliad meddygol clinigol. Pobl yn edrych ar sganiau.

Ysgol Feddygol Gogledd Cymru

Llun o Mike Larvin

Rydym wrth ein bodd eich bod wedi dewis ymuno â ni ar y daith drawsnewidiol hon wrth i chi gymryd y cam nesaf yn eich addysg. Bydd ein hystod o raglenni gradd heriol sy’n seiliedig ar ymchwil, a addysgir gan staff academaidd profiadol a chymwys iawn, yn eich grymuso i ddod yn raddedigion gwybodus, cyflogadwy ac arloesol.

Wrth i chi ddechrau’r Wythnos Groeso, gwyddoch fod ein ffocws ar ddysgu o safon a datblygiad personol, gan sicrhau bod eich blynyddoedd o astudio yma yn bleserus ac yn ffrwythlon.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cwrs neu drefniadau, mae croeso i chi gysylltu â ni. Bydd ein Arweinwyr Cyfoed yno hefyd i'ch cefnogi yn ystod ac ar ôl yr Wythnos Groeso.

Edrychwch ar eich amserlen a gwybodaeth ddefnyddiol am ddechrau llyfn i'r tymor.

Croeso!

Yr Athro Mike Larvin
Pennaeth Ysgol

Amserlenni Wythnos Groeso

Dewch o hyd i'ch amserlen trwy chwilio am eich grŵp pwnc neu deitl eich cwrs.

Arweinwyr Cyfoed yn bwyta 'Candy Floss' tu allan i Bar Uno ym Mhentref Ffriddoedd yn ystod Wythnos Groeso

Arweinwyr Cyfoed

Bydd eich Arweinydd Cyfoed, sy'n fyfyriwr presennol sydd wedi'i hyfforddi i gynorthwyo myfyrwyr newydd, yn estyn allan atoch trwy e-bost, felly cadwch lygad ar eich mewnflwch. Nid yn unig y byddant yn cynnig arweiniad trwy e-byst, ond byddwch hefyd yn cael cyfle i gwrdd â nhw yn bersonol yn ystod yr Wythnos Groeso.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?