Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Ymchwilio i Loegr Oes Elisabeth o safbwynt Ewropeaidd

Mae athro llenyddiaeth yn Ysgol Llenyddiaeth Saesneg y Brifysgol wedi ennill Cymrodoriaeth a roddir fel arfer i'r gwyddorau. Mae Cymrodoriaethau Marie Curie ymhlith gwobrau mwyaf cystadleuol a nodedig Ewrop a'u bwriad yw meithrin ymchwil rhyngddisgyblaethol, hyfforddiant academaidd arloesol a chydweithio rhyngwladol. 

Mae'r Athro Andrew Hiscock, sy'n arbenigo mewn llenyddiaeth Oes Elisabeth a'i lle o fewn cyd-destun Ewropeaidd ehangach, wedi ennill y Gymrodoriaeth a fydd yn golygu y bydd yn ymuno â'r tîm amlddisgyblaethol o ymchwilwyr i'r dadeni yn Université Paul Valéry ym Montpellier am ddwy flynedd.

Yr hyn sydd o ddiddordeb arbennig i'r Athro Hiscock yw sut y cafodd diwylliant Oes Elisabeth ei ystyried mewn llenyddiaeth Ewrop ar y pryd a sut yr ymatebodd awduron y dadeni ym Mhrydain i ddylanwadau diwylliannol o ochr arall i'r Sianel. Mae gan ei broject presennol am ddramâu Shakespearaidd bwyslais Ewropeaidd penodol gan y bydd yn ymchwilio i sut y cafodd llys a diwylliant oes Elisabeth eu cyfleu mewn barddoniaeth gynnar, dramâu ac ysgrifennu am deithio mewn llenyddiaeth Ffrengig, Eidalaidd, Sbaeneg ac Iseldireg yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif. 

Eglurodd yr Athro Hiscock:

'Roedd gan yr Ewrop Fodern Gynnar ddiddordeb mawr yn ffenomen Elisabeth a'i theyrnas ar ynys, sef dynes ar orsedd wladwriaeth Brotestannaidd wedi'i hamgylchynu gan bwerau Catholig cryf fel Ffrainc a Sbaen. Mae’n wir dweud bod llysoedd Ewrop wedi cadw'r llys Tuduraidd dan oruchwyliaeth ac yn parhau'n wyliadwrus o'r cynghreiriau a ffurfiwyd ganddo.  Er bod gŵyr llys Lloegr yn aml yn gallu siarad ieithoedd Oes y Rhamantau sef Ffrangeg, Sbaeneg neu Eidaleg, dim ond ychydig o Ewropeaid oedd yn gallu siarad Saesneg. Yn wir, pan arhosodd yr Eidalwr deallus, Giordano Bruno, yn Lloegr ar ddiwedd y 1580au, cyfaddefodd nad oedd yn gwybod yr iaith: "oherwydd bod pob gŵr o unrhyw radd y byddai rhywun yn cynnal sgwrs ag ef yn gallu siarad Lladin, Ffrangeg, Sbaeneg ac Eidaleg.. ac maent yn ymwybodol bod yr iaith Saesneg dim ond yn cael ei defnyddio ar yr ynys hon a byddent yn ystyried eu hunain yn farbariaid os na fyddent yn gwybod unrhyw iaith arall ar wahân i'w hiaith eu hunain". 

'Mae gennyf ddiddordeb mawr yn y ffyrdd yr oedd Shakespeare a'i gyfoedion yn edrych y tu hwnt i ffiniau'r byd Saesneg ei iaith ac yn cadw'n sensitif i arloesi deallusol ac artistig eu cymheiriaid ar gyfandir Ewrop. Bydd y project cyffrous hwn yn golygu y gallaf ddatblygu'r diddordeb hwn a'i gyfuno gyda dealltwriaeth bellach o asesiadau Ewropeaidd o frenhines olaf y Tuduriaid a'i llys,' ychwanegodd.

Ar yr un pryd ag astudio sut yr oedd awduron Ewrop yn ymddiddori yn Lloegr yn yr oes Elisabeth, bydd yr Athro Hiscock hefyd yn dysgu oddi wrth bartneriaid yn Université Paul-Valéry ym Montpellier yn Ne Ffrainc. Mae'r brifysgol wedi llwyddo i adeiladu nifer o bartneriaethau academaidd gyda gwyliau celf a llenyddol nodedig lle mae academyddion yn chwarae rhan allweddol trwy rannu arbenigedd gyda threfnwyr y gwyliau, y perfformwyr a'r cyhoedd yn ehangach. Mae'r Athro Hiscock yn awyddus i ddod nôl gydag ef i Brifysgol Bangor a'r Ganolfan Celfyddydau ac Arloesi newydd Pontio, rai o'r ffyrdd y gall arbenigedd academaidd gyfrannu at ddigwyddiadau diwylliannol o'r fath a'u cyfoethogi.

"Roeddwn yn awyddus iawn i wneud cais am Wobr Marie Curie oherwydd yr elfen hyfforddiant sy'n rhan gynhenid o'r wobr. Rwyf wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr academaidd yn y Sefydliad Ymchwil ar y Dadeni, yr Oes Neo-glasurol a'r Oes Oleuedig nodedig ym Montpellier ers nifer o flynyddoedd.  Mae eu brwdfrydedd am ledaenu ymchwil academaidd i amrywiaeth fawr o wahanol gynulleidfaoedd yn parhau i fy nghyffroi a gallaf yn awr weld yn bersonol sut maent yn cyfrannu at ystod eang o ddigwyddiadau a gwyliau diwylliannol. 

Mae hwn yn amser cyffrous i Fangor a'r ardal gyda’r Ganolfan Celf ac Arloesi Pontio wedi agor, ac rwyf yn awyddus iawn i ddod nôl gyda mi yr ymarfer orau mewn ennyn diddordeb y cyhoedd fel y gellir ei addasu i'n gofynion ni yn y brifysgol a'r rhanbarth yn ehangach,' meddai.  

Meddai Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Celf ac Arloesi Pontio:

"Cenhadaeth Pontio yw cyflwyno rhaglen artistig o'r ansawdd uchaf sy'n berthnasol i'n cymunedau a'n cynulleidfaoedd. Edrychaf ymlaen at ddysgu am arferion ennyn diddordeb cynulleidfaoedd ym Montpellier gan yr Athro Hiscock a gweld sut y gallwn ni yn Pontio eu gwneud yn berthnasol a'u gweithredu lle bo modd yn ein rhaglen estyn allan ac ennyn diddordeb yn y dyfodol."

"Mae'n anrhydedd ac yn bleser mawr gael croesawu ysgolhaig mor nodedig a phrofiadol i Montpellier," meddai'r Athro Nathalie Vienne-Guerrin, cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil ar y Dadeni, yr Oes Neo-Glasurol a'r Oes Oleuedig (IRCL), canolfan ymchwil ar y cyd (UMR 5186) o Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Gwyddonol Ffrainc (CNRS) lle bydd yr Athro Hiscock yn gweithio am ddwy flynedd.  "Edrychwn ymlaen at groesawu'r Athro Hiscock, ac mae ei broject ymchwil yn cyd-fynd yn berffaith â gwaith y tîm sydd wedi bod yn cyhoeddi'r cyfnodolyn rhyngwladol Cahiers Élisabéthains ers 44 mlynedd. Mae cwmpas Ewropeaidd ei broject yn gweddu'n berffaith gyda chenhadaeth yr IRCL.  Mae prifysgol Paul-Valéry Montpellier 3 a'r CNRS yn hynod falch bod Andrew Hiscock wedi dewis gweithio gyda ni ym Montpellier ar bwnc mor Ewropeaidd ac Elisabethaidd. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd y cydweithio hwn yn arbennig o gynhyrchiol, yn bedagogaidd ac yn wyddonol o fewn prifysgol sy'n meithrin projectau diwylliannol uchelgeisiol." 

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mai 2016