Newyddion Graddio a Proffiliau
- Newyddion Graddio a Proffiliau diweddaraf
- Gorffennaf 2020
- Rhagfyr 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Rhagfyr 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Rhagfyr 2017
- Gorffennaf 2017
- Mai 2017
- Rhagfyr 2016
- Gorffennaf 2016
- Ebrill 2016
- Rhagfyr 2015
- Gorffennaf 2015
- Mai 2015
- Gorffennaf 2014
- Gorffennaf 2013
- Gorffennaf 2012
- Holl Newyddion Graddio a Proffiliau A–Y
Newyddion Graddio a Proffiliau: Gorffennaf 2017
Alumnus y Flwyddyn 2017
Bob blwyddyn, mae Bwrdd Ymgynghorol Alumni Prifysgol Bangor yn ystyried ceisiadau ac yn cynghori'r brifysgol ar ddyfarnu’r wobr Alumnus y Flwyddyn. Mae'r wobr yn cydnabod llwyddiant eithriadol gan un o raddedigion Bangor yn ei maes dewisol, yn enwedig y rhai sy'n cadw cysylltiad gweithredol â'r brifysgol ar ôl iddynt raddio.
Roedd Prifysgol Bangor yn falch o enwi Ray Footman yn Alumnus y Flwyddyn 2017 yn ystod yr wythnos raddio
Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2017
Hyrwyddwr hawliau plant yn graddio
Yn dilyn cael ei hysbrydoli i ddilyn cwrs addysg uwch gan arolygydd ysgolion y llywodraeth, mae mam i ddau sy’n ymarferydd gofal plant wedi llwyddo i gyfuno bywyd teuluol ac astudio'n llawn amser gan raddio o Brifysgol Bangor yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2017
Peiriannydd dawnus o’r Bala yn mynd ymlaen i astudio PhD
Ar ôl pedair blynedd o waith caled, bydd peiriannydd dawnus yn graddio o Brifysgol Bangor yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2017
Victoria, mam i dri, yn cael marciau uchaf - ac ysgoloriaeth
Yr wythnos yma mae myfyriwr hŷn a lwyddodd i gael gradd ragorol yn y Gyfraith, cael babi a gofalu am ferch anabl, yn graddio o Brifysgol Bangor. Mae hefyd wedi ennill ysgoloriaeth £8,000 i hyfforddi i fod yn fargyfreithiwr.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2017
Rhoi prawf ar waith arwyddocaol yn fyd-eang gan fyfyriwr a raddiodd o Fangor
Bydd polisi byd-eang newydd, a gychwynnwyd gan fyfyriwr a raddiodd ym Mhrifysgol Bangor, yn cael ei brofi am y tro cyntaf, yn awr bod mynydd iâ anferthol, yr amcangyfrifir iddo fod yn fwy na chwarter maint Cymru, wedi torri'n rhydd o Antarctica.
Mae'r gŵr a raddiodd o Fangor, Dr Philip Trathan, yn arwain Bioleg Gadwraethol yn yr Arolwg Antarctig Prydeinig (British Antarctic Survey - BAS) byd-enwog. Un o'i lwyddiannau diweddar oedd gweld polisi yr oedd wedi ei gychwyn a'i wthio drwy nifer o gyfarfodydd rhyngwladol, o'r diwedd, yn cael sêl bendith y Comisiwn Cadwraeth Adnoddau Bywyd Môr yr Antarctig (CAMLEOLIR).
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2017
Steffie'n dod draws sawl rhwystr i gael gradd dosbarth cyntaf
Mae Steffie Williams Roberts o Fangor wedi ennill gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn Y Gyfraith o Brifysgol Bangor er gwaethaf dod dros lawer o rwystrau yn ystod ei hastudiaethau.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2017
Gwirfoddolwr ChildLine yn graddio
Bydd cyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Caerdydd yn graddio o Brifysgol Bangor yr wythnos hon, ar ôl manteisio ar yr holl gyfleoedd sydd ar gael.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2017
Chris Coleman i’w anrhydeddu gan Brifysgol Bangor
Uchafbwyntiau Wythnos Seremonïau Graddio Prifysgol Bangor 17-21 Gorffennaf
Bydd Chris Coleman, Rheolwr Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Cymru yn ymuno â myfyrwyr sy’n graddio o Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor wrth iddo dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan y Brifysgol, gan nodi llwyddiant y tîm cenedlaethol wrth gyrraedd rowndiau cyn-derfynol cystadleuaeth Ewro 2016 yn dilyn ymgyrch hanesyddol fythgofiadwy.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2017
Dysgwr y Flwyddyn yr Urdd yn graddio
Ar ôl tair blynedd o waith caled, ac o wneud y mwyaf o’r cyfleoedd a oedd ar gael iddi, mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor yn graddio gyda balchder.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2017
Swydd cyfieithu i ferch o Fôn cyn graddio
Mae myfyrwraig o Ynys Môn wedi dechrau swydd llawn amser fel Cyfieithydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Ysbyty Gwynedd cyn iddi raddio!
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2017
Wythnos o ddathlu llwyddiannau graddio myfyrwyr Prifysgol Bangor
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2017