Cwrdd â'n cyn-fyfyrwyr
Mae graddedigion Ysgol y Gyfraith Bangor wedi mynd ymlaen i sefydlu gyrfaoedd ar draws y byd, mewn swyddi cyfreithiol a swyddi nad ydynt yn ymwneud â'r gyfraith. Dyma rai enghreifftiau..
![]() |
Annmarie Dodd – LLB y Gyfraith; LLM y Gyfraith
|
William T. Carlsen – LLB y Gyfraith Clerc y Gyfraith, Laguna Intellectual Property Group - Levin & Dicterow, Dinas Efrog Newydd"Ar ôl graddio o Fangor, symudais i Ddinas Efrog Newydd, lle roeddwn ar interniaeth mewnol gyda chwmni newydd seiliedig ar dechnoleg. Yna treuliais ddau semester yn astudio ar gyfer fy LLM mewn Cyfraith Eiddo Deallusol (gan gael yr hyn sy'n gyfystyr â gradd dosbarth cyntaf). Ychydig o wythnosau cyn i mi raddio gyda LLM, dechreuais ar gymrodoriaeth mewn cwmni cyfreithiol dielw sy'n cefnogi datblygwyr meddalwedd ffynhonnell agored a rhydd i ymdrin â materion eiddo deallusol a materion corfforaethol cyffredinol. Arhosais yno am rai misoedd a helpu gyda briff amicus yn y Goruchaf Lys cyn i mi ddechrau yn fy swydd bresennol. Roedd fy swyddi blaenorol yn gysylltiedig â gwaith cyfreithiol trafodol yn bennaf, ond mae fy swydd bresennol yn ymwneud yn benodol ag ymgyfreithio ac rwy'n wir yn ei fwynhau. Gwnaeth y partneriaid fy nhaflu yn syth i mewn i'r gwaith ac roedd rhaid i mi ddysgu mwy o ddeunydd, a'i ddysgu yn gyflymach nag yr oeddwn wedi gorfod ei wneud o'r blaen, ac rwyf yn dal i orfod dysgu llawer bob dydd. Rwyf wedi chwarae rhan amlwg yn erlyn achos eiddo deallusol mewn Llys Dosbarth Ffederal gyda chais am iawndal o ymhell dros $100 miliwn. Rwyf hefyd wedi cynorthwyo i ysgrifennu briffiau yn Llys Apêl y Nawfed Gylchdaith. Cefais yr addysg ffurfiol orau y gallai unrhyw un ei chael yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor. Roedd pob athro yn ddeallus ac yn gallu dadansoddi a chyfleu materion cyfreithiol cymhleth, ac roedd yn bwysig iddynt fod eu myfyrwyr yn dysgu. Efallai mai'r peth mwyaf gwerthfawr a wnes i ym Mangor oedd cymryd rhan mewn ffuglys. Mae'r ffuglys yn datblygu'r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar gyfreithwyr i wneud eu gwaith. Heb y gallu i ymchwilio'n feirniadol ac yn gywir, a chyfleu'r canfyddiadau yn glir, yn ogystal â gallu siarad gydag awdurdod (sy'n angenrheidiol) ni fyddai cyfreithiwr yn para'n hir. Gwnaeth y ffuglys, ynghyd â'r hyfforddiant rhagorol iddo, fy mharatoi ar gyfer bywyd bob dydd yn ymgyfreithio. |
|
![]() |
Joshua Simpson – LLB y Gyfraith gydag Astudiaethau Busnes
|
![]() |
Isabela Rotaru – LLB y Gyfraith
|
![]() |
Tristan Koriya – LLB y Gyfraith gydag Astudiaethau Busnes
|
![]() |
David Darlington, LLB Y Gyfraith gyda Chyfrifeg a Chyllid"Ar ôl gadael Ysgol y Gyfraith Bangor astudiais y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol yng Ngholeg y Gyfraith, Caer. Fe wnes i gwblhau fy nghontract hyfforddi gyda Stephensons Solicitors LLP, "a UK top 100 law firm, one of the largest, fastest growing and most successful solicitors in the north west" (Legal 500). Rwy'n gweithio fel Cyfreithiwr Troseddol erbyn hyn. Hoffwn ddiolch i Ysgol y Gyfraith Bangor am yr holl gefnogaeth a gefais yn ystod fy ngradd gan na fyddwn wedi cyrraedd i fy safle presennol hebddi." |
![]() |
Bolanle Adebola, LLB y Gyfraith“Ar ôl cael fy ngradd LLM o Fangor, cefais fy nerbyn ar gwrs PhD yn University College London. Erbyn hyn, rwy’n ymgymryd â lleoliad gwaith yn Swyddfa Materion Cyfreithiol y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd. Mae hyn i gyd diolch i ddysgu ardderchog, cymorth a darlithwyr brwdfrydig Ysgol y Gyfraith, Bangor”. |
![]() |
Erin Wyn, LLB y Gyfraith“Mae’r profiad a gefais yn Ysgol y Gyfraith Bangor yn un y byddaf yn ei werthfawrogi bob amser. Nid yn unig fe wnaeth y cwrs roi sylfaen ragorol i mi yn y Gyfraith, ond roedd y staff yn bobl hynod ymroddedig a brwdfrydig ac fe wnaethant roi cymorth i mi ar hyd y daith. Ar ôl cael gradd uwch, astudiais ar y cwrs LPC, ac roeddwn yn ddigon ffodus i gael contract hyfforddiant mewn llywodraeth leol. Rwyf nawr yn gyfreithiwr cymwysedig yn arbenigo mewn Gofal Cymdeithasol Oedolion ac Addysg ”. |
![]() |
Hongbo Hei, LLM Cyfraith Fasnachol“Mae fy nghefndir LLM o Fangor wedi rhoi gwir fantais i mi mewn marchnad swyddi hynod gystadleuol. Ar ôl cwblhau fy ngradd meistr yng Nghyfraith Fasnachol, fe ddychwelais i China i baratoi am yr Arholiad Cyfreithiol Cenedlaethol Tsieineaidd. Rwyf bellach yn Gyfreithiwr Tsieineaidd hollol gymwysedig mewn prif gwmni Cyfraith Ryngwladol yn China”. |
![]() |
David Nevins, LLB y Gyfraith"Ar ôl cwblhau fy LLB ym Mangor, teithiais i Fadrid i astudio tuag at LLM yng Nghyfraith Undeb Ewropeaidd. Nesaf, astudiais LLM yng Nghyfraith Fasnach Ryngwladol ym Mhrifysgol Arizona. Yn ddiweddar fe gymerais arholiad y bar yn Efrog Newydd , ac unwaith rwy’n cael fy nghanlyniadau rwy’n gobeithio cael gweithio yn y Comisiwn Ewropeaidd neu ym maes Cyfraith Cystadleuaeth EU". |