Ffair y Gyfraith
Mae ein ffair y gyfraith flynyddol yn rhoi cyfle gwerthfawr i fyfyrwyr gyfarfod â darpar gyflogwyr o nifer o wahanol sefydliadau, a thrafod eu dewisiadau gyrfa gyda gweithwyr proffesiynol profiadol.
Mae’r ffair yn cynnwys arddangoswyr, sesiynau grŵp yn canolbwyntio ar wahanol lwybrau gyrfaol a ffug lys. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Syr Roderick Evans, cyn-Farnwr Llywyddol Cymru, wedi bod yn llywyddu’r ffug lys.
Dyma rai o’r cyflogwyr sydd wedi dod i’n ffeiriau:
- Advent Project Management
- Andrew Hughes Wealth Management Cyf
- Bennett Smith Solicitors
- BPP
- Carter Vincent
- Cyngor Ar Bopeth
- Civitas Law
- Yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau
- EAD Solicitors
- Fieldings Porter
- Gamlins
- Howell Jones Cyfreithwyr Solicitors
- Hugh James
- JMW
- Knox Insolvency Ltd
- Linenhall Chambers
- Nelson Myatt Solicitors
- Cymdeithas Ynadon Gogledd Orllewin Cymru
- Norton Rose Fulbright
- NWL Costs Lawyers
- Y Gwasanaeth Prawf
- RKH Marine & Energy
- Silverman Sherliker
- Stephensons Solicitors
- Swayne Johnson
- Siambrau 7 Harrington Street
Dyma a ddywedodd rai o’n harddangoswyr blaenorol am Ffair y Gyfraith:
“Mae’n bleser gennym weithio’n agos gydag Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor i gynnig interniaethau i’w myfyrwyr yn ein swyddfa yn Llundain. Rydym yn darparu cyngor cyfreithiol am ystod eang o feysydd i gleientiaid yn y DU ac yn rhyngwladol drwy ein desgiau tramor. Rydym yn sylwi bod myfyrwyr Ysgol y Gyfraith Bangor yn dod atom gyda gwybodaeth gadarn am y gyfraith ac maent yn gyfforddus i ddelio gyda sefyllfaoedd ymarferol sy’n golygu eu bod yn cael y budd mwyaf o’u hinterniaeth.”
Martin Donoghue, Partner, Silverman Sherliker
“Mae Linenhall Chambers yn falch iawn o fod wedi cefnogi Ffair y Gyfraith Prifysgol Bangor am y drydedd flwyddyn yn olynol. Roedd gwaith caled Ysgol y Gyfraith yn trefnu rhaglen ddiddorol o sgyrsiau yn ogystal â dod â charfan bwysig o arddangoswyr at ei gilydd yn sicrhau diwrnod pleserus a gwerthfawr i bawb. Mewn marchnad anodd o ran swyddi mae’n bwysig bod myfyrwyr yn gallu dod i wybod am y dewisiadau posibl sydd ar gael iddynt. Cawsom nifer o sgyrsiau diddorol gyda myfyrwyr drwy gydol y dydd ac roeddem yn teimlo ein bod yn gallu rhoi ychydig o wybodaeth iddynt am yrfa yn y Bar. Rydym yn gobeithio dod i Fangor eto y flwyddyn nesaf; credwn ei fod yn bwysig ein bod yn creu cysylltiad gyda chyfreithwyr y dyfodol ac rydym hefyd yn croesawu’r cyfle i rwydweithio gyda’r staff academaidd a’r arddangoswyr eraill.”
Martin Griffiths, Cyfarwyddwr Siambrau, Linenhall Chambers
”Roeddem yn falch iawn o gael cais i gymryd rhan yn Ffair y Gyfraith, Ysgol y Gyfraith Bangor, ac roedd safon a brwdfrydedd y myfyrwyr wnaethom eu cyfarfod wedi creu argraff dda arnom. Mae cwmnïau mawr y gyfraith yn Ninas Llundain yn dibynnu ar gyflenwad o raddedigion da – yn y gyfraith a thu allan i’r gyfraith – ac roedd Ffair y Gyfraith yn dangos bod angen i ni gymryd yr amser i egluro’r hyn mae ein gwaith yn ei olygu, ac nad yw’n amlwg bob amser i fyfyrwyr sy’n ceisio gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am yrfa yn y gyfraith. Rydym yn canmol cyfadran y gyfraith am gynnull grŵp mor amrywiol o gyfranogwyr yn y ffair, a oedd gyda’i gilydd yn cynrychioli’r sbectrwm eang o gyfleoedd swyddi sydd ar gael yn y sector cyfreithiol.”
Rich M Hughes, Partner, Norton Rose Fulbright LLP
“Roeddem yn hapus i gefnogi Ffair y Gyfraith Prifysgol Bangor am y drydedd flwyddyn yn olynol. Cawsom ein plesio gan ansawdd a brwdfrydedd y myfyrwyr ac roeddem yn falch o gynnig cyngor am yrfa fel cyfreithiwr a/neu weithredwr cyfreithiol, ac yn gyffredinol ym maes y gyfraith. Rydym yn gobeithio dod i Fangor unwaith eto flwyddyn nesaf.”Shaun Hughes, Cyfreithiwr, Swayne Johnson
”Mae’n ddigwyddiad sydd wedi’i drefnu’n dda, ac wedi’i strwythuro i roi pob cyfle i fyfyrwyr weld a chwrdd â phobl yn y proffesiynau perthnasol i hybu eu rhagolygon gyrfa.”
Kathy Roberts, Cymdeithas Ynadon
”Roedd yn wych cael y cyfle i siarad gyda chymaint o fyfyrwyr am y llwybr CILEx i yrfa yn y gyfraith ac roeddwn wrth fy modd yn cael deall, yn dilyn y sgwrs CILEx yn y Brifysgol yn gynharach yn y flwyddyn, bod y myfyrwyr bellach yn ystyried y llwybr hwn sy’n cynnig mwy o hyblygrwydd i ennill wrth ddysgu.”
Melissa Bramwell, Gweithredwr Cyfreithiol Siartredig, Allington Hughes Law