Ysgol y Gyfraith Bangor a Linenhall Chambers
Ar Fawrth 1af 2013, fe ddechreuwyd partneriaeth newydd rhwng Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor a Linenhall, un o’r prif gwmnïau bargyfreithwyr ym Mhrydain.
Fel canlyniad, bydd ystafelloedd cyfarfod newydd yn agor yn y Brifysgol, a thrwy hyn yn dod â chyfreithwyr lleol o ogledd orllewin Cymru ar y campws yn rheolaidd, gan ddod i gysylltiad agos nid yn unig â Linenhall Chambers, ond hefyd ag Ysgol y Gyfraith.
Fel rhan o’r berthynas, bydd myfyrwyr Ysgol y Gyfraith yn cael y profiad gwerthfawr o ddilyn Bargyfreithwyr wrth eu gwaith trwy gynllun interniaethau pedair wythnos, neu ‘tymhorau prawf byr’ (‘mini-pupillages’). Mae tymhorau prawf byr yn hynod anodd eu cael, ond yn ychwanegiad nodedig i CV unrhyw fyfyriwr y Gyfraith. Maent yn hynod bwysig i rai sy’n ymgeisio i fod yn Fargyfreithwyr, gan yr ystyrir tymhorau prawf byr yn rhan allweddol o geisio sefydlu gyrfa yn y Bar.
(Pennaeth Siambrau Linenhall, Anthony O’Toole (chwith yn y llun), gyda’r Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith)
Darllenwch y datganiad i'r wasg.