Myfyrwyr Hŷn

Rydym yn croesawu ceisiadau oddi wrth fyfyrwyr hŷn ac rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y cyfraniad sydd ganddynt i’w roi i’r Brifysgol.

Nod y Brifysgol yw cynnig cymaint ag y bo modd o gymorth a chefnogaeth ac rydym yn gwerthfawrogi bod anghenion myfyrwyr hŷn yn wahanol i anghenion myfyrwyr sy’n dod yn syth o’r ysgol.

Rydym yn sylweddoli nad yw myfyrwyr hŷn efallai wedi dilyn y llwybrau academaidd traddodiadol felly rydym yn hyblyg o ran ein gofynion mynediad academaidd.

Mae’r Brifysgol yn cynnig ystod o wasanaethau cymorth:

Gellir cael manylion pellach oddi ar tudalennau we Myfyrwyr Hŷn.

Fe raddiodd Deborah Railton, yn wreiddiol o Fanceinion, oddi ar y radd LLB dwy flynedd

“Fel Myfyriwr hŷn, ni theimlais allan o le ar unrhyw adeg. Roedd yn wych i gael y cyfle i astudio ochr yn ochr gyda phobl o bob oedran. Mae digonedd o fywyd cymdeithasol i’r rheini sydd eisiau cymryd rhan. Roedd ymrwymiadau teuluol yn golygu fy mod i fethu cymdeithasu cymaint ag y hoffwn i, ond fe wahoddwyd fi i bob un digwyddiad ac felly ni theimlais erioed wedi fy nghau allan.

Mae Ysgol y Gyfraith yn cynnig cymuned hynod gefnogol a chlos o staff a myfyrwyr. Synnais pa mor sydyn daeth Bangor i deimlo fel gartref i mi. Roedd pawb yn gynorthwyol, hawdd mynd ato a ffeind, a’r peth y byddai’n methu mwyaf am Fangor bydd y wir deimlad o deulu estynedig.”

Cwblhaodd Carys Evans, o Landwrog, yr LLB dwy flynedd. Dyfarnwyd y gwobr Syr Samuel Evans iddi am gael y marc uchaf yn y gyfraith ym mhrifysgolion Cymru…

“Er bod y cwrs LLB dwy flynedd yn ddwys a’r baich gwaith yn gallu bod yn drwm weithiau, roedd y profiad yn cynnig sialens bleserus. Gwneir y sialens yn haws trwy awyrgylch eithriadol o groesawgar a chynnes yr Ysgol. Mae agwedd y staff tuag at y myfyrwyr yn hynod o gefnogol a chynhaliol. Yn ogystal, mae amrediad helaeth o arbenigedd sydd yn cael ei gynnig gan y staff yn creu amgylchedd dysgu difyr iawn. Ategwyd hyn i gyd gan Gymdeithas Myfyrwyr y Gyfraith, sy’n trefnu calendr prysur o weithgareddau cymdeithasol ac academaidd.

I mi’n bersonol, roedd darpariaeth cyfrwng Gymraeg yr Ysgol yn holl bwysig. Roedd cael trafod cysyniadau’r gyfraith yn fy mamiaith mewn tiwtorial yn ei gwneud hi’n haws i gyfrannu’n naturiol ac yn adeiladol i’r drafodaeth. Mae hyn hefyd wedi rhoi'r gallu a’r hyder i mi drin â’r pwnc yn y ddwy iaith fel ei gilydd, ac mae hyn yn fantais arbennig yn y Gymru ddatganoledig, ddwyieithog.

Fy uchafbwynt personol oedd ennill y Wobr Syr Samuel Evans am gael y marciau uchaf o unrhyw fyfyriwr flwyddyn olaf yn y Gyfraith trwy Gymru gyfan.”