Ymgorffori diogelu'r dreftadaeth ddiwyllionnaol forol i gynllun addasu cenedlaethol Tanzania
Ariannwyd gan GCRF / Rhwydwaith Rising from the Depths yr AHRC
Mae treftadaeth ddiwylliannol forol Tanzania mewn perygl o gael ei cholli neu ei difrodi oherwydd newid yn yr hinsawdd. Mae'r project hwn yn archwilio sut y gallai ymgorffori diogelu’r dreftadaeth ddiwylliannol forol i Gynllun Addasu Cenedlaethol Tanzania gynnig buddion economaidd a diwylliannol i ddinasyddion trwy sbarduno'r potensial o ddenu cefnogaeth o gronfeydd ymaddasu i newid hinsawdd rhyngwladol.
O dan Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd, mae Tanzania wedi paratoi Rhaglen Weithredu Addasu Cenedlaethol lle mae’n nodi safleoedd o dreftadaeth ddiwylliannol forol yn flaenoriaeth ymaddasu tymor byr, ac yn nodi eu bod yr un mor bwysig o ran datblygu twristiaeth gynaliadwy a gwydn yn wyneb newid hinsawdd ag ydynt i dreftadaeth ddiwylliannol barhaus y wlad. Serch hynny, gellid rhoi mwy o bwyslais ar y rhan y gallai treftadaeth ddiwylliannol forol ei chwarae yn gwella gwytnwch cymunedau arfordirol yn wyneb newid hinsawdd trwy gyfrwng twristiaeth gynaliadwy yn y sector hwn, er enghraifft.
Mae Tanzania yn awr yn paratoi ei Chynllun Addasu Cenedlaethol, lle bydd yn nodi blaenoriaethau cynhwysfawr ymaddasu i newid hinsawdd dros y tymor canolig i’r tymor hir, a nod y project hwn yw eirioli dros gynnwys treftadaeth ddiwylliannol forol Tanzania fel blaenoriaeth ymaddasu benodol yn y ddogfen bolisi hon fel bod modd, yn y pen draw, ceisio am gefnogaeth ariannol ar gyfer projectau penodol trwy drefn ariannol Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd (UNFCCC) a ffynonellau eraill.
Gallai ariannu pellach nid yn unig feithrin y gallu lleol i gofnodi a diogelu’r dreftadaeth ddiwylliannol forol sydd dan fygythiad o newid yn yr hinsawdd, ond gallai hefyd adnabod blaenoriaethau seilwaith a datblygiadol i ddiogelu treftadaeth ddiwylliannol forol arwyddocaol rhag colled a difrod cysylltiedig â newid hinsawdd a sicrhau ei bod yn cael ei mabwysiadu fel maes pwysig o ran twf economaidd gwyrdd i gymunedau arfordirol trwy ddatblygu mentrau twristiaeth gynaliadwy, a fyddai’n cryfhau gwytnwch cymunedau o'r fath rhag effeithiau niweidiol newid yn yr hinsawdd.
Fel rhan o’r project hwn, cynhelir gweithdy rhyngddisgyblaethol yn seiliedig ar ymchwil, a fydd yn dwyn ynghyd academyddion, sefydliadau anllywodraethol a llunwyr polisi i archwilio hyfywedd a dichonoldeb cynnwys treftadaeth ddiwylliannol forol yn flaenoriaeth ymaddasu yng Nghynllun Addasu Cenedlaethol Tanzania.